Arolwg

preview 1 February 2019

<I>Installation View at Jerwood Space.</I> Commissioned by Jerwood Charitable Foundation. Photo: Anna Arca
Installation View at Jerwood Space. Commissioned by Jerwood Charitable Foundation. Photo: Anna Arca

Chris Alton / Simeon Barclay / Hazel Brill / Flo Brooks / Emma Cousin / Joe Fletcher Orr / Thomas Goddard / Ashley Holmes / Lindsey Mendick / Nicole Morris / Milly Peck / Anna Raczynski / Will Sheridan Jr / Rae-Yen Song / Frank Wasser

Mae g39 yn falch o gyflwyno Survey, sef arddangosfa sy'n cyflwyno gwaith newydd gan 15 o artistiaid ledled y DU sydd ar ddechrau eu gyrfa. Wedi'i gychwyn gan Jerwood Arts, dyma ei adolygiad mwyaf o ymarfer celfyddydau gweledol cyfoes mewn 12 mlynedd o raglennu. Mae Survey yn mabwysiadu dull ansefydliadol o ddethol, gyda 35 o artistiaid ar ganol eu gyrfa yn enwebu'r artistiaid newydd mwyaf addawol sy'n gweithio heddiw.

Nid yw'r arddangosfa arolwg fel arfer yn gysylltiedig ag artistiaid sy'n dod i'r amlwg; mae'n fwy addas ar gyfer adolygiad o waith oes, yn hytrach nag arferion cychwynnol. O edrych yn ôl, gall gwaith gael ei siapio i wneud synnwyr ond mae gwaith cyfoes yn symud yn gyson – yn anghyson, yn creu gwrthdaro, yn esblygu a heb ei ddatrys eto – nid oes ganddo'r tawelwch o wybod at le mae'n anelu. Mae hon yn arddangosfa arolwg ond hefyd yn asesiad o sut mae pethau nawr.

Gall arolwg fod yn weithred syml o edrych, neu'n fframwaith ar gyfer arsyllu ac asesu. Yn nhraethawd catalog Kathryn Lloyd, mae hi'n dweud, '[M]ae'n cyfeirio at drosolwg yn ogystal ag archwiliad manwl. Gall olrhain priodweddau ffisegol y tir a nodweddion amserol hanes. Yn ei ystyr sylfaenol, rydym i gyd yn arolygwyr […] Rydym yn arolygu er mwyn archwilio a deall – weithiau er mwyn tawelu ein rhagdybiaethau ein hunain neu er mwyn plymio i mewn i rywbeth dros dro nad ydym wedi ei brofi, neu ni allwn ei brofi, ein hunain […] mae arolygon yn rhan o ymgais i ddod o hyd i achosiaeth.' Mewn rhai ffyrdd, mae arolwg yn llyfnhau, yn ddull sy'n ochrgamu naratif sy'n ymddangos nodweddion curadurol agored sy’n deillio o hierarchaeth neu chwaeth connosseur. Mae Survey yn archwilio testunau, gan gynnwys y teulu, rolau domestig a rolau rhywedd/cwiar, newid yn yr hinsawdd, gwneud ffilmiau cymunedol, ac archwiliad ehangach o'r hinsawdd gymdeithasol a gwleidyddol yn y DU. Mae'r gwaith sy'n deillio o hynny yn cwmpasu amrywiaeth o ddisgyblaethau a dulliau gweithredu.


Mae A Hollywood Film in which Climate Change is Averted (2018) yn waith newydd gan Chris Alton sy'n galw am ein cyfrifoldeb casgliadol i fynd i'r afael â materion cymdeithasol a gwleidyddol mawr a fydd yn effeithio ar genedlaethau'r dyfodol. Ar gyfer yr arddangosfa, mae Alton wedi cynhyrchu baner sy'n defnyddio estheteg debyg i'r hyn a ddefnyddir gan undebau llafur, mentrau cymdeithasol a gofodau cymunedol i weithredu fel galwad am newid a chaniatáu’r cyfle i'n hunain i ddychmygu canlyniadau gwahanol.

Mae Simeon Barclay yn cyflwyno dwy wal o baneli o gyfryngau cymysg newydd o dan y teitlau Decoy (2018) ac A Track with No Name (2018). Gan dynnu oddi ar ei archif sylweddol, sy'n cynnwys cyfnodolion cerddoriaeth, cylchgronau ffasiwn, cylchgronau comig ac effemera eraill, mae Barclay yn cyfeirio at yr ystorfa hon fel 'cyflyru ar gyfer yr holl synhwyrau, cymynrodd o ystumiau, symudiadau ac agweddau gwrywaidd rwyf yn ceisio gweithio drwyddynt'.

Mae We gathered around the puddle, smiling patiently (2018) gan Hazel Brill yn osodiad fideo a cherflun sydd wedi'i leoli ar lawr yr oriel i awgrymu pwll neu bwll glan môr y deuir o hyd iddo mewn palmant yn y ddinas. Mae'r gwyliwr yn cael ei dynnu i mewn i naratif datblygol sy'n cael ei chwarae ar y sgrin, wedi'i fasgio gan arwynebedd sy'n debyg i ddŵr.

Mae No body feels right, so why am I any different? (2018) gan Flo Brooks yn baentiad tri dimensiwn sy'n archwilio syniadau yn ymwneud â hylendid, normatigrwydd a moesoldeb wrth iddynt gael eu hymestyn ar y corff ac i'r cartref. Mae Brooks yn uniaethu fel unigolyn traws a chwiar, ac mae ei brofiadau ei hun yn aml yn bwydo'r senarios a gaiff eu darlunio. Yn y gwaith newydd hwn, maent yn archwilio trosiad y corff fel cartref, gan ddisgrifio golygfa ddomestig wyllt sydd wedi'i dwysáu lle y bo pobl, arferion a gwrthrychau yn rhan o agweddau amrywiol ar welliant corfforol hylan a phensaernïol.

Mae Song Drapes (2018) gan Emma Cousin yn dod o gorff o waith datblygol sy'n archwilio'r pwynt methiant, y torbwynt a'r foment cyn mewnffrwydrad neu ffrwydrad. Mae paentiad mawr yn dangos y corff fel pos o ffigyrau sy'n cefnogi ei gilydd ac yn dal ei gilydd i fyny, y foment cyn bod y ffigyrau sy'n gorymestyn yn syrthio drosodd neu'n tynnu ei gilydd ar led. Drwy gydol y gwaith, mae'r corff yn dod yn echelbin er mwyn archwilio pynciau fel hysteria, crogiant, pwysau, symudedd, ystwythder, cywilydd a derbyniad.

Mae gwaith Joe Fletcher Orr Artist’s Shit (2018) yn waith neon newydd a gafodd ei sbarduno yn ystod sgwrs rhwng yr artist a'i dad am Piero Manzoni, lle y dywedodd ei dad: 'Roedd Manzoni yn llawn cachu.' Yn aml wedi'u gwneud trwy gydweithio gydag aelodau o'i deulu, mae cerflunwaith, perfformiadau a gosodiadau Orr yn defnyddio hiwmor i danseilio 'difrifoldeb' y byd celf ac awdurdod y gwrthrych celf.

Mae The word of mouse (grok your cornea gumbo) (2018) yn waith ffilm newydd gan Thomas Goddard sy'n myfyrio ar ein profiad cymdeithasol a seicolegol o'r oes ddigidol. Mae'r gwaith newydd hwn yn creu cofnod dystopaidd o brynwriaeth ddigidol fel math o 'ffasgiaeth feddal', lle mae'r gwrthrych yn y pen draw yn ein herio i wynebu mathau o driniaeth ac anwybodaeth, boed ar lefel bersonol neu fyd-eang, drwy'r cyfryngau torfol a phropaganda wedi'i arwain gan yr economi.

Mae Good To Us (2018) gan Ashley Holmes yn gyflwyniad byw newydd sydd wedi datblygu o addasiad ysgrifenedig o “Dope”, cerdd gan yr awdur, beirniad cerddoriaeth a bardd Americanaidd Amiri Baraka (a adwaenir hefyd fel LeRoi Jones ac Imamu Amear Baraka). Yn y gwreiddiol, mae Baraka yn mabwysiadu persona pregethwr croenddu sy'n rhoi pregeth. Mewn dull afreolaidd, doniol a dychanol, mae'r llefarydd yn argyhoeddi ei gynulleidfa i gredu mai’r 'diafol' sy'n gyfrifol am y problemau sy'n wynebu pobl dduon drwy gydol hanes. Mae'r gwaith newydd hwn wedi'i lywio gan ymchwil Holmes ac yn ceisio dadansoddi cymhlethdodau’r hyn sy'n digwydd pan fo ideoleg gasgliadol yn cael ei herio a/neu ei rhoi mewn perygl.

Mae I'll Always Love You But I Don’t Always Like You (2018) gan Lindsey Mendick yn waith newydd a wnaed ar y cyd â theulu agos yr artist ac mae'n cynnwys crochenwaith wedi'i losgi gan racw a'i arddangos ar fwrdd ystafell fwyta. Mae’r gwaith yn atgynyrchiadau o gasgliad o wrthrychau o gartref teuluol Mendick: casgliad o debotiau ei mam, bowlen gweini cimwch, gefel gnau Margaret Thatcher ei thad, lampiau art deco, a chasgliad o deganau meddal “Compare the Meerkat”. Mae rhai yn eiddo etifeddol hynafol, mae gan rai werth sentimental, a chafodd rhai eu prynu o Poundland ar fympwy.

Mae Channels: How to be a good mother, artist, wife and lover? (2018) gan Nicole Morris yn system gwylio appliqué newydd sy'n cael ei hactifadu gan berfformiwr ac sy’n gweithredu fel modd o arddangos delweddau symudol. Mae pob rhan o'r appliqué yn creu pedwar patrwm domestig sy'n gweithredu fel gosodiadau mewnol: ystafell ymolchi, ystafell fyw, cegin ac ystafell amlbwrpas. Bydd y sgriniau hyn yn cael eu harddangos ar bwli sy'n troi ac yn cael ei weithredu gan berfformiwr i gyfateb â chyfres o ffilmiau 16mm du a gwyn newydd a fydd yn cael eu taflunio unwaith y dydd.

Gan gymryd ei deitl o bennawd mewn llyfr canllaw i gynhyrchiad sain Foley, mae Landing Good Sync Will Pay Dividends (2018) gan Milly Peck yn archwilio ymhellach ei diddordeb mewn setiau theatrig a'r defnydd o hiwmor slapstic i drefnu gwyliwr fel elfen ychwanegol o'r gwaith. Ar gyfer Survey, mae Peck wedi ymgorffori sain am y tro cyntaf yn dilyn cyfnod o ymchwil i Foley – ail-greu effeithiau sain bob dydd sy'n cyd-fynd â ffilmiau, teledu, animeiddiadau a chyfryngau eraill yn y cyfnod ôl-gynhyrchu.

Mae The Movie Makers yn ffilm fer am berthynas Anna Raczynski ag aelodau o'i grŵp gwneud ffilmiau amatur, The Pendle Movie Makers, wedi'i leoli yn Colne, dwyrain Sir Gaerhirfryn. Wedi'i sefydlu'n wreiddiol yn y 1960au, mae nifer o'r aelodau (y mae rhai ohonynt bellach yn hwyr yn eu 80au) yn mynd ar drywydd recordiadau dogfennol sy'n seiliedig ar y gymuned ac yn aml yn dangos diddordeb yn yr hyn sy'n diflannu o'u cymuned. Mae rhaglen ddogfen Raczynski ei hun yn mynd i'r afael â themâu heneiddio, newid, technoleg a'r gymuned.

Mae Will Sheridan Jr yn cyflwyno dau gorff newydd o waith: mae Ownership Boxes (2018) wedi'i wneud o gardfwrdd sydd wedi'i ddympio a'i gasglu o'r tu allan i siopau ffasiwn sydd ar gau yn Mayfair. Ar ôl cael eu gwasgu’n fflat, mae'r bocsys yn cael eu hailadeiladu, eu paentio a'u mowntio gyda ffotograffau sy’n cael eu tynnu ar y cyd â'r artist a'r ffotograffydd Camilla Bach, i ail-greu cynllun brand gweledol amwys, sy'n debyg i hysbysebion a byrddau poster ffasiwn. Yn Pastels (2018), mae'r artist yn canolbwyntio ar ddynion a menywod sydd wedi'u gwisgo mewn dillad sy'n debyg i hysbysebion ffasiwn o ddiwylliant uchel i ddiwylliant isel. Mae'r ddau gorff o waith yn atgyfnerthu rhywioli diwylliant y defnyddwyr a'r berthynas ystrywgar sydd gennym â hysbysebion a delweddau ffasiwn.

Yn hongian ac yn troi'n araf, mae Happy Happy Leaf (2018) gan Rae-Yen Song yn osodiad cerfluniol cinetig newydd o fod tywyll. Mae'r cerflunwaith hwn yn elfen ganolog o res o wrthrychau, dogfennau ac arferion sydd heb eu gwireddu eto, a fydd yn gweld criw o gymeriadau a ddyfeisiwyd yn ymgasglu ar gyfer seremoni fawreddog, sy'n ddathliad anrhydeddus o gerddoriaeth a dawns. Mae gan Song ddiddordeb yn yr ynni a'r emosiwn casgliadol mae cynulliadau seremonïol yn eu creu, pa mor gynhenid yw 'perthyn' i'r natur ddynol, a sut mae'r datblygiad pwerus o ynni cymdeithasol yn gallu ail-alinio realiti ac arwain at newid sylweddol.

Mae Frank Wasser yn gweithio'n chwareus â naratif i archwilio themâu sy'n gysylltiedig â llafur, economïau ac adrodd straeon. Mae gweithiau newydd yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa, gan gynnwys darn o bapur newydd o dan y teitl (02.11.20) sy’n ddarn o bapur newydd am ddim Metro o 02.11.20. Mae'n cynnwys manylion dadl sy'n ymwneud â dychwelyd at ffin gadarn rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, bil sy'n cael ei basio i wneud contractau sero oriau yn anghyfreithlon, a phryderon y GIG ynglŷn â'r cynnydd o ran afiechydon sy'n gysylltiedig â gwylio sgrin. Roedd The slow abrogation of the future (2018), a ddangoswyd fel rhan o'r arddangosfa gychwynnol, yn berfformiad lle roedd dau oddrych yn wynebu gwrthrychedd amser a phensaernïaeth drwy ddeialog o goreograffi araf, gwrando, a chydnabod methiant iaith gyffredin. Mae'r perfformwyr yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r weithred o gael eu harsylwi mewn lleoliad o arsylwad hanesyddol – yr arddangosfa.


Gan arddangos gwaith 15 o artistiaid ar ddechrau eu gyrfa, mae Survey yn cyflwyno'r tameidiau yn lle'r homogenaidd, yr amlweddog yn lle'r unigol, a'r hyn sy'n blaguro yn lle'r hyn sydd wedi'i sefydlu. Mae'n arddangosfa arolwg ond hefyd yn arolwg ymchwil – yn sampl, yn fap ac yn adroddiad ar gyflwr pethau, nid cyflwr celf yn unig.


  • <I>Installation View at Jerwood Space.</I> Commissioned by Jerwood Charitable Foundation. Photo: Anna Arca
  • <I>Installation View at Jerwood Space.</I> Commissioned by Jerwood Charitable Foundation. Photo: Anna Arca
  • <I>Installation View at Jerwood Space.</I> Commissioned by Jerwood Charitable Foundation. Photo: Anna Arca
  • <I>Installation View at Jerwood Space.</I> Commissioned by Jerwood Charitable Foundation. Photo: Anna Arca
  • <I>Installation View at Jerwood Space.</I> Commissioned by Jerwood Charitable Foundation. Photo: Anna Arca
  • <I>Installation View at Jerwood Space.</I> Commissioned by Jerwood Charitable Foundation. Photo: Anna Arca

Programme