Chris Alton

b. 1991, Croydon
Byw a gweithio Croydon, England

<i>English Disco Lovers (EDL)</i>, Cambridge Graffiti, 2013
English Disco Lovers (EDL), Cambridge Graffiti, 2013

Mae Chris Alton yn artist ac yn guradur. Mae gwaith Alton yn mynd i'r afael â natur ryng-gysylltiedig amodau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol cyffredinol. Mae ei brosesau yn arwain at amrediad eang o strategaethau, boed drwy ddefnyddio cerddoriaeth ddisgo i wrthwynebu ffasgiaeth, recordio albwm rhythm a’r felan ynglŷn ag osgoi trethi, neu gynnig bod ysgolion celf yn cael eu hadeiladu ar ben cyrsiau golff.


Mae ei waith yn dangos diddordeb mewn economeg twf parhaus yng nghyd-destun newid hinsawdd anthropogenig. Mae un ymateb yn arbennig yn feddylfryd damcaniaethol newydd sy'n cydbwyso effaith twf yn erbyn dangosyddion newid hinsawdd megis carbon atmosfferig, rhew pegynol a lefelau'r môr. Mae'r fframio diwylliannol hwn yn caniatáu ar gyfer dychmygu posibiliadau newydd, ac mae'n gofyn sut y gallai cyfrifoldeb casgliadol fynd i'r afael â phroblemau ar raddfa fwy sydd wedi'u gyrru gan economi gyfalafol.

Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys: Bloomberg New Contemporaries, Liverpool John Moore University (2018); The Billboard Commission, Spit & Sawdust, Caerdydd (2018); Meanwhile, Lower.Green, Norwich (2018); The Ballad of The White Ship, Serf, Leeds (2018); more like an avalanche, Wysing Arts Centre, Cambridgeshire (2018). Roedd Alton yn rhan o'r grŵp Syllabus III (2018).

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Survey

Dolenni :
https://chrisalton.com/
  • <i>English Disco Lovers (EDL)</i>, Cambridge Graffiti, 2013
  • <i>A Hollywood Film in Which Climate Change is Averted</i>, 2018
  • <After The Revolution They Built An Art School Over The Golf Course</i>, 2017