Arddangosfa: Sbel

13 Mehefin - 11 Gorffennaf 2026

Neda Mohammad, Abi Palmer & Lewis Prosser

Lewis Prosser
Lewis Prosser

Mae’r arddangosfa hon fydd yn digwydd am sbel fach yn ystod yr haf yn dod â thri artist ynghyd yn g39. Maen nhw’n gweithio mewn ffilm, cerflunio, a phaentio. Dacw haf o greu pethau!

Bydd yr oriel yn gymysgfa o weithiau gorffenedig yn ogystal â chasgliad o’r deunyddiau a ddefnyddiwyd i greu’r gwaith, a fydd yn cael eu defnyddio mewn gweithdai. Bydd gwiail, inc, capiau bothau a chardfwrdd oll yno’n barod i gael eu trawsnewid. Bydd gan gynulleidfaoedd gyfleoedd i gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol yn seiliedig ar elfennau unigol o’r sioe. Gyda’n gilydd byddwn yn archwilio crefft a dulliau’r artistiaid hyn wrth fynd ati i greu.

Bydd yr arddangosfa’n gyfle i weld ‘crefft’ mewn ffyrdd gwahanol – fel cyfrwng sy’n gwobrwyo sylw at fanylder, ond hefyd fel cyfrwng sy’n cymell chwareusdra greddfol – arbrofi gyda thâp selo a chardfwrdd a phethau bob dydd.

Mae’r gweithiau celf eu hunain yn mynd â ling-di-longrwydd misoedd yr haf i gyfeiriadau rhyfedd ac annisgwyl. Cawn ein cyflwyno gan Lewis Prosser i hen dechneg o wehyddu ‘skibs’ helyg, ffurf traddodiadol sydd rhywle rhwng rhidyll a sosban, ond mae’r fersiwn yma’n cynnwys rhannau ceir gyda thatws; llanciau gwledig yn rasio ceir, helyg wedi ei wehyddu, a thlysau capiau bothau. Mae’n adeiladu ar draddodiad o weithio gyda beth bynnag gaiff ei ddarganfod yn y clawdd.

Mae gweithiau goleuol a cheinlythrennu Neda Mohammad yn ehangu ffrâm amser. Dros gyfnod o gannoedd o oriau, mae hi’n creu gweithiau celf cain a thyner. Mae’r rhain yn fyfyrdodau ar yr haul, ysbrydolrwydd, barddoniaeth, a’r ymdeimlad rhyfeddol o ddibendrawder a ddaw o greu patrymau bychan bach.

Mae gwaith Abi Palmer, Abi Palmer invents the weather, ar ffurf cyfres o fideos, yn dod â’r tu fas tu fewn, wrth iddi ailgreu’n lletchwith amodau tywydd y byd tu fas mewn bocs cardfwrdd, er lles cynulleidfa ei chathod. Wedi eu creu yn ystod y cyfnod clo, mae’r ffilmiau meddylgar a doniol hyn yn cyffwrdd ar unigedd, cwmpeini, a chreu bydoedd mas o ddim, lle mae crefft yn cael ei arwain gan ein dychymyg a’n hangen i chwarae.

Wrth i ni groesi’r trothwy at yr haf, mae g39 yn gyffrous i groesawu’r artistiaid a’r gwneuthurwyr hyn, am sbel fach.


Mae Abi Palmer Invents the Weather yn rhan o Gasgliad Artangel, menter i ddod â gweithiau ffilm a fideo rhagorol, a gomisiynwyd a'u cefnogir gan Artangel, i orielau ac amgueddfeydd ledled y DU. Gellir gwylio Abi Palmer Invents the Weather ar-lein yma.

  • Lewis Prosser

Programme