UNITe 2018

30 Mehefin - 22 Medi 2018

Lydia Meehan, <i>You Don`t Have To Be An Artist</i>, 2018
Lydia Meehan, You Don`t Have To Be An Artist, 2018

Edita Atmaja, Clare Charles, James Cocks, Lauren Heckler, Helen Malia, Lydia Meehan, Dai Howell & Kate Mercer, Florence Moon, Hannah Morris, Dan Pritchard, Claire Prosser, Aled Simons, Laura Welsman and Ellie Young.


Wedi'i ddyfeisio gan artistiaid ar gyfer artistiaid, mae tymor UNITe yn rhaglen haf o arbrofi celfyddydol, ymchwil, trafodaethau beirniadol, dangosiadau ffilmiau, cyfarfodydd cymdeithasol, darlithiau a mwy.

Gan gymryd ysbrydoliaeth oddi wrth ysgolion celf annibynnol, grwpiau stiwdio a gweithgareddau a arweinir gan gyfoedion, mae tymor UNITe g39 yn trawsnewid lleoliad yr arddangosfa yn ofod stiwdio artistiaid prysur a chanolbwynt ar gyfer ymchwil, hyfforddiant a chydweithredu creadigol. Rydym yn gwahodd y cyhoedd i mewn i weld yr artistiaid wrth eu gwaith yn y stiwdio, sef rhywbeth nas gwelir yn aml, ac i gymryd rhan mewn sesiynau trafod.

Yn flynyddol mae cymuned stiwdio UNITe yn meithrin a chefnogi artistiaid ar unrhyw adeg o'u gyrfaoedd. Mae'n ofod ar gyfer ymarfer celfyddydol a'r ymchwil, arbrofi, newid cyfeiriad, cydweithredu, hap a darganfyddiadau sy'n gysylltiedig â hynny. Eleni detholwyd 15 o artistiaid yn dilyn galwad agored yng Nghymru a gweddill Prydain. Rydym hefyd yn falch ein bod yn ymestyn y cynnig i artistiaid yn Indonesia gyda chymorth y Cyngor Prydeinig.

Mae hwn yn gyfnod dwys o waith cefnogol i'r artistiaid a gofynnir iddynt lunio'r rhaglen a gyfarwyddwyd gan gyfoedion, yn ogystal â chael budd ohoni. Yn ogystal ag adborth o gymuned y stiwdio a chynulleidfaoedd g39, rydym wedi gwahodd nifer o gyfranwyr gwadd i arwain sesiynau beirniadu stiwdio a dadleuon, ac i drafod yn feirniadol. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y modd y mae artistiaid mewn cymuned stiwdio yn gallu cefnogi ei gilydd mewn ffyrdd beirniadol trwyadl, a byddwn yn archwilio amrediad o ddulliau ar gyfer beirniadu gweithiau celf mewn modd adeiladol o fewn lleoliad stiwdio er mwyn cynhyrchu dulliau gweithredu cryfach a mwy trwyadl.

I'r cyhoedd, bydd y gofod ar agor fel arfer tra bydd y digwyddiadau’n esblygu a datblygu o'r artistiaid sy'n ymwneud â'r rhaglen. Maent hefyd yn cael eu gwahodd i fynychu cyfres o sgyrsiau cyhoeddus am ddim gan nifer o siaradwyr sy'n ymweld yn cynnwys Eddie Peake, Helen Nisbet, White Pube, Rory Macbeth a Matthew De Pulford yn ogystal â darllediad byw ar Resonance FM ar The Gleaning, sef yr ail mewn cyfres o ddigwyddiadau ac ymatebion artistig i gynrychiolaeth Cymru yn Fenis ! Wales in Venice James Richard ym Miennale Fenis 2017. Bydd y Bad Vibes Club, sef prosiect ymchwil celfyddydol gan Matthew de Kersaint Giraudeau sy'n gweithio gyda Sophie Mallett, yn edrych ar yr ymarfer celfyddydol o loffa (gleaning) - p’un a yw hynny'n golygu/dethol darnau bach o oriau o fideos ar-lein, neu wneud gwaith ymchwil dwys i archifau penodol.

Wrth ddod â chynulleidfaoedd g39 ac artistiaid at ei gilydd yn y modd hwn rydym eisiau hyrwyddo dealltwriaeth ynglŷn ag o ble y daw celf weledol. Beth bynnag yw'r cyd-destun a ble bynnag mae'r sefyllfa - y stiwdio, y gweithdy, y llyfrgell, ar y gliniadur, yn drefol neu wledig - maent i gyd yn safleoedd cynhyrchu sydd fel arfer yn cael eu cadw ar wahân i safleoedd arddangos.
Mae UNITe 2018 yn terfynu â digwyddiad stiwdio agored, a arweinir gan yr artistiaid i weld beth maent wedi bod yn ei wneud ac i ddathlu oriau olaf y preswyliad

  • Lydia Meehan, <i>You Don`t Have To Be An Artist</i>, 2018
  • Aled Simons (R), Hannah Morris (L), 2018
  • Laura Welsman, 2018
  • Clare Charles, 2018
  • Ellie Young, 2018
  • Dan Pritchard 2018
  • Claire Prosser, 2018
  • Kate Mercer & Dai Howell, 2018
  • Helen Malia, 2018

Programme