Support
How can I help g39? // Sut alla i helpu g39?
Mae g39 yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar help llaw o bob cwr. Os ydych chi am ein cefnogi, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch chi helpu, beth bynnag eich sefyllfa ariannol.
Gallwch gyfrannu ar-lein unrhyw bryd
yma
gyda rhodd unwaith ac am byth neu reolaidd, neu dapio cerdyn ar y man cyfrannu yn g39, neu ollwng ychydig geiniogau yn ein blychau cyfrannu yn ystod eich ymweliad nesaf.
Mae o hyd yn beth anghyfforddus gofyn am gyfraniadau pan mae gymaint o achosion da i gefnogi – ond mae’r arian yn ein helpu i gadw ein hadnoddau rhaglenni cymorth am ddim i’r rhai sydd eu hangen.
Mae yno lawer o ffyrdd sut y gallwch gefnogi g39 a’n rhaglen,
heb wario ceiniog.
Rydym wedi ymuno a
easyfundraising. Yn syml, os rydych yn siopa ar-lein trwy eu porth nhw, maent yn cyfrannu % i g39. O Screwfix i Ebay, Ethical Superstore i Durex mae modd ein cefnogi. Neu os ydych yn gyrru i Gaerdydd ac yn meddwl talu ar gyfer parcio, beth am archebu lle yn ein maes parcio ni gyda
Justpark