16 Ionawr - 10 Chwefror 2002

Bedwyr Williams, Chocomel
Mae ‘blinc’ yn dymor o nosweithiau’n dangos gwaith fideo, ffilmiau a delweddau byw artistiaid newydd ac egin artistiaid. Wrth drawsffurfio ffenestr flaen oriel g39 yn sgrin deledu anferthol 6 throedfedd yn ystod nosweithiau’r gaeaf, mae’r 22 o gyfranogwyr yn dod â bywyd newydd i Lôn y Felin trwy fideos doniol, hudolus a hynod unigryw.
Bwriad blinc yw arddangos ffilmiau mewn lleoliad cyhoeddus sydd heb ddylanwad gwleidyddol na diben marchnata. Maent yn gwahodd y bobl sy’n mynd heibio i fyd newydd sy’n cydweithio ac yn tarfu ar fywyd y ddinas yn y nos.
Yn ystod y dydd, mae’r oriel yn dychwelyd at ei statws fel ciwb gwyn gan sefydlu sgwrs rhwng yr hyn sy’n digwydd yn ystod y nos wrth i’r fideos gael eu taflunio ac yn ystod y dydd o fewn ffiniau’r oriel yn yr arddangosfa
...but still. Mae blinc a
...but still yn brosiectau sy’n cael eu cynnal ar y cyd gan sefydlu dialecteg rhwng y ddelwedd a’r ddinas.
Ymhlith yr artistiaid mae:
Sara Fletcher, Aberystwyth;
Nooshin Farhid, Llundain,
Laressa Kossof, Melbourne;
Simon Woolham, Llundain;
Simon Whitehead, Llandudoch;
Edward Adam, Casnewydd;
Jo Bennett, Llundain;
Matt Clarke, Caerdydd;
Aeppli & Collins, Llundain;
Amanda Lorens, Penzance;
Stefhan Caddick, Caerdydd;
Emil Goh, Melbourne;
Ruth Lliffe, Llanfairfechan;
Victoria Tillotson, Caerdydd;
Charles Jeffery, Paris;
Michael Cousin, Caerdydd;
Ella Gibbs, Llundain;
Ellie Rees, Llundain;
Ali Roche, Caerdydd;
Matt White, Bryste;
Bedwyr Williams, Caernarfon.
Wrth oedi i wylio’r fideo, mae’r unigolyn sy’n cerdded heibio yn dod yn wyliwr ac yn cael mynediad i ddeialog rhwng y tu allan a’r tu fewn; bywyd nos y ddinas a naratif y ddelwedd ar y sgr n.