blinc

Mae ‘blinc’ yn dymor o nosweithiau’n dangos gwaith fideo, ffilmiau a delweddau byw artistiaid newydd ac egin artistiaid. Wrth drawsffurfio ffenestr flaen oriel g39 yn sgrin deledu anferthol 6 throedfedd yn ystod nosweithiau’r gaeaf, mae’r 22 o gyfranogwyr yn dod â bywyd newydd i Lôn y Felin trwy fideos doniol, hudolus a hynod unigryw.


Bwriad blinc yw arddangos ffilmiau mewn lleoliad cyhoeddus sydd heb ddylanwad gwleidyddol na diben marchnata. Maent yn gwahodd y bobl sy’n mynd heibio i fyd newydd sy’n cydweithio ac yn tarfu ar fywyd y ddinas yn y nos.
Yn ystod y dydd, mae’r oriel yn dychwelyd at ei statws fel ciwb gwyn gan sefydlu sgwrs rhwng yr hyn sy’n digwydd yn ystod y nos wrth i’r fideos gael eu taflunio ac yn ystod y dydd o fewn ffiniau’r oriel yn yr arddangosfa ...but still. Mae blinc a ...but still yn brosiectau sy’n cael eu cynnal ar y cyd gan sefydlu dialecteg rhwng y ddelwedd a’r ddinas.
Ymhlith yr artistiaid mae: Sara Fletcher, Aberystwyth; Nooshin Farhid, Llundain, Laressa Kossof, Melbourne; Simon Woolham, Llundain; Simon Whitehead, Llandudoch; Edward Adam, Casnewydd; Jo Bennett, Llundain; Matt Clarke, Caerdydd; Aeppli & Collins, Llundain; Amanda Lorens, Penzance; Stefhan Caddick, Caerdydd; Emil Goh, Melbourne; Ruth Lliffe, Llanfairfechan; Victoria Tillotson, Caerdydd; Charles Jeffery, Paris; Michael Cousin, Caerdydd; Ella Gibbs, Llundain; Ellie Rees, Llundain; Ali Roche, Caerdydd; Matt White, Bryste; Bedwyr Williams, Caernarfon.

Wrth oedi i wylio’r fideo, mae’r unigolyn sy’n cerdded heibio yn dod yn wyliwr ac yn cael mynediad i ddeialog rhwng y tu allan a’r tu fewn; bywyd nos y ddinas a naratif y ddelwedd ar y sgr n.

  • Sara Fletcher, Installation shot
  • Ruth Iliffe, Maximum Effort
  • Laresa Kosloff, Giant
  • Bedwyr Williams, Chocomel

Programme