One night stand

Mae ‘One Night Stand’ yn arddangosfa o berfformiadau a sgriniadau sy'n trin llawr gwaelod yr oriel fel llwyfan neu arena. Mae ffenestr siop g39 yn gwahanu gofod y 'ciwb gwyn' o fyd y bobl sy’n mynd heibio, gan fframio’r artistiaid i'r cyhoedd ac i'r gwrthwyneb. Mae dau fyd gwahanol yn cwrdd ond maent ar wahân am byth wrth i'r artistiaid greu eu panorama eu hunain ac wrth i'r gwylwyr fyw yn eu panorama eu hunain.


Mae'r arddangosfa'n cychwyn gyda pherfformiad 12 awr gan Samuel Hasler. Dros y cyfnod 12 awr, bydd y gofod gwag yn llenwi'n raddol â balwnau a chwythir gan Hasler, ac yn guddiedig. Bydd yr ystafell (a'r perfformiadau) yn y tywyllwch nes bydd symudiad pobl sy’n mynd heibio'n troi llifolau ymlaen, ac am eiliad bydd y gofod wedi’i oleuo.

Yr wythnos cyn dydd Ffolant, bydd Paul Hurley yn perfformio darlith egnïol a fydd yn cyfrannu at ei ymchwiliad parhaus i amlygiadau diwylliannol cariad, rhywioldeb a chwant. Mae Hurley yn 25 oed, yn sengl ac yn gyfarwydd â charwriaethau un noson. Ar gyfer y garwriaeth un noson arbennig hon yn g39 bydd yn sicrhau ei fod yn edrych yn boeth. Bydd Hurley yn hollol barod ac os aiff popeth yn unol â'i gynllun bydd yn cyrraedd anterth y noson yn llawn chwys, wedi ymlâdd ac yn llawn angerdd. Mae croeso i bawb ddod, er, yn amlwg, nid yw'n hanfodol.

Y penwythnos wedyn, bydd Kristel Trow a'i phedwarawd llinynnol yn perfformio darnau sy'n deillio o sŵn y ddinas ar offerynnau pwrpasol. Bydd y symffonïau yn cyfuno ac yn dod yn rhan o sŵn naturiol Caerdydd.

Dros y penwythnos olaf, mae Rebecca Spooner a Richard Bevan wedi trefnu gŵyl fach ffilm Super-8, yn dangos gwaith pedwar artist, rîl ddangos o ffilmiau newydd gan wahanol fyfyrwyr, artistiaid a phobl frwdfrydig yn ogystal â rhai hen ffilmiau cartref. Mae'r artistiaid yn rhannu gwerthfawrogiad o ffilm Super-8 oherwydd ei gysylltiadau â hiraeth, cofion a bywyd cartref a lliwiau cyfoethog, twym a dwfn. Mae'r priodweddau hyn wedi darparu dechreuad ar gyfer gwaith newydd a gynhwysir yn yr arddangosfa hon.

Programme