
Mewn cyfres barhaus yn g39, cafodd artistiaid eu gwahodd i ymateb i Play Orbit, arddangosfa arbrofol dangoswyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1969 yn Y Fflint ac wedyn yn yr ICA. Cafodd ei guradu gan Jasia Reichardt (a oedd ar y pryd yn gyfarwyddwr cynorthwyol yn yr Institute of Contemporary Arts yn Llundain) mewn cydweithrediad a Peter Jones o’r Cyngor Celfyddydau Cymru.
Yn wreiddiol, roedd yr arddangosfa yn cynnwys teganau, gemau, a’r chwaraeadwy wedi eu cynhyrchu gan bobl nad oedd yn ymwneud a dylunio teganau yn broffesiynol ond yn hytrach yn gweithio yn y maes celf weledol.
Wrth i ffocws g39 yn tibrO yalP barhau i ganolbwyntio ar chwarae – y chwarae o bob math; chwarae fel offer gwleidyddol, mewn gwrthwynebiad i ‘waith’, chwarae ble nid yw’n cael ei weld yn offerynnol fel cyfrwng blynyddoedd cynnar i ddysgu dyn ni yn y diwedd yn ei hannog i’w rhoi o’r neilltu.
Ers Play Orbit yn 1969, mae datblygiadau technoleg gemau wedi newid yr offer gellid ystyried fel ‘tegan’ ond mae’r syniad yr un fath o hyd. Mae chwarae yn aml yn rhithiol a chorfforol – gemau drwy dechnoleg wrth chwarae yn y byd ‘go iawn’. Mae'r artistiaid hefyd yn chwilfrydig am berthynas chwarae â chystadleuaeth a chystadleurwydd. Cefnogir y rhaglen hon yn g39 gan y Loteri - gêm.
Cerflun tecstil meddal y gallwch eistedd ynddo, rasio drwyddo neu orwedd ynddo yw gwaith Ella Jones. Pabell a ffau, a noddfa - y gofod hwnnw o dan ddesg neu y tu mewn i focs cardbord, ond wedi'i greu o fwâu meddal, waliau pwfflyd fel sach gysgu.
Mae Jason a Becky yn cynnig cyfle i ryngweithio a chwarae fel ffordd i archwilio gofodau sy'n anodd eu diffinio - rhwng arteffactau a'r gofodau rydyn ni'n byw ynddynt. Mae asio technoleg a gwrthrychau sy'n rhyngweithio yn pylu'r llinellau rhwng achos ac effaith.
Bydd Natasha MacVoy yn defnyddio deunyddiau o’r oriel a gwrthrychau a ddaeth o’i stiwdio, i greu amgylchedd sy’n annog pob ymwelydd i ystyried hamdden, mwynhad ac esgus dychmygus yn fwy na phosibiliadau mwy difrifol, i brofi'r profiad o ddysgu a thrawsnewid y mae chwarae’n eu cynnig. Dechreuodd y prosiect trwy rowlio i lawr llethr glaswelltog.
Mae Shaun James yn defnyddio systemau argraffu a rhyngweithiol o greu delwedd i symud rhwng ffurf haniaethol a chanlyniadau, mae ganddo ddiddordeb yn y berthynas rhwng pobl a'r weithred o wneud, sut rydyn ni'n mynd ati i ddod â phethau i fodolaeth.
Yn ystod yr arddangosfa, bydd Eric Martin Kamosi wedi ei leoli yn y sinema er mwyn archwilio’r berthynas rhwng cerddoriaeth, cyfryngau gweledol, cyfryngu digidol a symud. Ar hyn o bryd mae'n dylunio teganau sain sy'n seiliedig ar feddalwedd i gerddorion a phobl nad ydynt yn gerddorion eu defnyddio gyda'i gilydd mewn perfformiadau cydweithredol.
tibrO yalP yw'r cyntaf mewn cyfres o gomisiynau lle rydym am gydweithio â grwpiau, mentrau, ysgolion a cherflunwyr sy'n bodoli eisoes i ehangu a newid y ffordd y mae'r oriel yn cael ei defnyddio a phwy sy'n ymweld â hi.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants