If You Build It They Will Come

9 Gorffennaf - 9 Awst 2008

Eve Dent,
Eve Dent,

Ar 3 Gorffennaf 1998, roedd yna synnwyr o gyffro yn sin celf Caerdydd, roedd gofod celf a redir gan artistiaid yn cael ei lansio. Roedd yr arddangosfa agoriadol dan ei sang gydag artistiaid, myfyrwyr a siwts, yn chwilfrydig am y prosiect newydd; cafodd ei derbyn gyda synnwyr o ddisgwyliad a rhagfynegiadau o fywyd dros dro ill dau. Yn ffodus mae g39 yma o hyd, yn darparu - yn ddistaw ond yn benderfynol - rhaglen, tŷ cwrdd ar gyfer artistiaid a ffocws am raddedigion. I'w dathlu, mae g39 yn marcio ei degfed ben-blwydd gyda rhaglen ddathliadol o ddigwyddiadau, yn dechrau â If You Build It, They Will Come, ymgais i gyflwyno gwaith pob un o’r artistiaid sydd wedi gweithio gyda g39 yn ystod y degawd diwethaf.

Nid yw’r ffenomen o brosiectau a redir gan artistiaid yn newydd o gwbwl ac mae’r cymhellion a’r uchelgeisiau'r un mor amrywiol â'u cynnyrch. Mae’r syniad o ddarparu ffyrdd newydd neu annibynnol o weithio yn cydnabod y cred ideolegol bod gan yr ofodau yma'r pŵer i roi grym i artistiaid a siapio diwylliant fel canlyniad. Mae parodrwydd i fod yn agored i newid, yn bod yn ddigon hyblyg i addasu mewn ymateb i dueddiadau diwylliannol neu wleidyddol - wedi sicrhau bod y gofodau yma wedi cynnal rôl allweddol ym mecanweithiau’r byd celf.

Ar draws y D.U., mae’r datblygiad o stiwdios gyda gofod arddangos wedi bod yn fodel a ddefnyddir tro ar ôl tro, wedi seilio ar yr egwyddor sosialaidd o gyd-weithio er lles pawb. Yn y gorffennol , cafodd y llefydd yma eu gweld yn ‘ amgen’ ac yn gysylltiedig ag ystyron ‘gwrth- sefydliad’, yn adlewyrchu ethos cerddoriaeth annibynnol neu ddiwylliannau ‘zine. Bodd bynnag, mae’r fersiwn hen ffasiwn yma o fyd gyda gwerthoedd du a gwyn wedi pylu. Yn y nawdegau, roedd sawl prosiect a arweinir gan artistiaid Llundain wedi eu hariannu gan ddelwyr a chasglwyr a greodd y broffwydoliaeth hunan- gyflawni y byddan nhw’n gallu ennill clod - a chyfoeth- wrth gynorthwyo’r yBas. Yn fwy diweddar, mae sawl gofod a redir gan artistiaid wedi adfeddu modelau mwy masnachol, yn eu strwythurau a’u presenoldeb mewn gwyliau celf, gyda rhai artistiaid yn cymryd y rôl o ddelwyr ac yn cynrychioli artistiaid eraill. Nid yw’r ffiniau rhwng artistiaid, curaduron, ysgrifenwyr a delwyr erioed wedi bod mor aneglur.

Yng Nghymru mae’r pwysau a’r cymhellion wedi bod yn wahanol; gyda diffyg o brif rym economeg, roedd rhaid i weithgaredd a redir gan artistiaid ddelio â phynciau eraill. Mae’r elfennau diwylliannol o hunaniaeth genedlaethol, y synnwyr o fod ar yr ymylon, a’r rhwyg a achosir gan ffiniau ieithyddol a daearyddol yn hollbresennol; er eu bod nhw’n cael eu gwrthwynebu gan fodlondeb i weithio ar lefel rhyngwladol a’r tyndra diddorol rhwng cyfoes a thraddodiad. Ers dechreuad prosiect g39, mae yna wedi bod teimlad y gallai strategaeth curadurol archwilio’r pynciau hyn; os petai’r gofod yn mynd i chwarae rôl ddiwylliannol allweddol yn gyntaf roedd rhaid iddi ddatblygu perthynas cryf ag artistiaid yng Nghymru tra bod yn gwndid ar gyfer gwaith o du hwnt i Gymru. Roedd y ddealltwriaeth yma yn hanfodol i’r prosiect. Fel canlyniad, mae g39 wedi bod yn wrthi’n creu synnwyr o gydlyniad, yn tyfu’n gyflinellol ond mewn ffyrdd gwahanol i’w cymheiriaid metropolitan.

Mae g39 wedi goroesi deng mlynedd yng Nghymru tra bod gofodau ar raddfa fawr wedi diflannu. Mae hirhoedledd y prosiect yn codi’n rhannol o’i hyblygrwydd a’i hagwedd ymatebol. Er bod y gofod yn fach – maint ty dref cil tri-llawr - mae’i dalgylch yn fwy o lawer- yn amgylchynu rhwydwaith o artistiaid, grwpiau ac orielau sydd gan gysylltiadau cadarn â’r gofod. Mae’n glir taw ein sylw i’r rhwydwaith yma, ac ymrwymiad i weithio gydag artistiaid i gyflwyno gwaith arloesol mewn modd clir a hygyrch, sydd wedi cynhyrchu ac wedi cynnal cefnogaeth o ymwelwyr ac artistiaid ill ddau. Mae’r llwyddiant parhaus yma yn cadarnhau bod g39 yn gweithio fel rhagwelwyd ac mae’n allweddol ei bod ni’n parhau i chwarae rôl ddylanwadol yn y celfyddydau gweledol yng Nghymru. Fel canlyniad o’i oroesiad, mae’n bosib bod y gofod wedi dod yn rhan o’r sefydliad, ond mae’i hanes o hyblygrwydd yn cadw bygythiad biwrocratiaeth, a’r marweidd-dra canlynol, draw.

Arddangosa If You Build It, They Will Come y gefnogaeth mae g39 wedi rhoi i artistiaid yn ogystal â chyfoeth o dalent sydd wedi tyfu o weithgareddau g39 - adolygiad mewn ffordd. Cafodd pob artist o’r degawd diwethaf sydd wedi gweithio gyda’r gofod ei gwahodd i greu darn newydd ar gyfer arddangosfa ac ymhen yn hir a hwyr cyhoeddiad. Mae’r sioe yma yn brawf o’r cysylltiadau rhwng artistiaid, swyddogol neu’n answyddogol, a wnaed yn g39 neu’n ganlynol. Rydym yn gwybod eu bod nhw’n bodoli, os ydych yn eu galw nhw’n nepotistiaeth neu yn eu gweld nhw fel rhan o zeitgeist cyfunol neu sin gelf, ond y perthnasau yma sy’n gyfrifol dros gadw’r llifiad o syniad a theori, deialogau a chydgysylltiadau i fynd. Ar gyfer gweddill ei degfed flwyddyn, bydd g39 yn cynnal cyfres o symposia yn archwilio’r addewidion a oedd gweithgareddau a arweinir gan artistiaid yn ymweld i gynnig, at foddau gwahanol o weithio a’r rôl(au) y mae’r gweithgaredd yma yn gallu cymryd arno. Cam cyntaf o adolygiad hyd blwyddyn ydy hi; gwerthusiad agored o’r degawd diwethaf ac adeg o gynllunio ar gyfer yr un nesaf.


Nodiadau i Olygwyr

Cafodd g39 ei sefydlu ym 1998 a’i hymgorffori yn 2000. Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gelf gyfoes yng Nghymru ydy’i datganiad o fwriad . Cyflawnir hyn yn bennaf drwy ei rhaglen o arddangosfeydd a gynhelir yn y gofod ‘ciwb-gwyn’ yng nghanol ddinas Caerdydd, ac mewn safleoedd allanol dros dro gan gynnwys, byrddau dangos digidol, byrddau biliau, cynhwysyddion amlwytho, ystordai, a siopau gwag. Trwy’i pholisi curadurol, anela G39 broffilio gwaith gan artistiaid o Gymru yn ochr i ochr ag artistiaid o weddill y D.U. a thu hwnt; felly mae gan yr oriel orchwyl i ddangos 60% o artistiaid Cymreig neu artistiaid a leolir yng Nghymru o leiaf. Dyw g39 ddim yn gwahaniaethu yn guradurol rhwng lefelau gyrfa'r artistiaid, ond yn lle, y mae wedi canolbwyntio ei sylw ar artistiaid sydd yn dod i’r amlwg. Gwela’r mudiad ei rôl fel ‘pont’ rhwng yr artist, a’r cyhoedd, ac elfen allweddol o’r rhesymwaith ydy dod â gwaith cyfoes i gynulleidfaoedd newydd. Deng mlynedd =280 artist = 48 arddangosfa = 45,000 ymwelydd.

  • If You Build It They Will Come, launch 2008
  • Tom Dale
  • Eve Dent,
  • Richard Owen
  • Igor Grubic
  • Lucy Harrison
  • Sara Fletcher
  • Angharad Pearce Jones
  • James `best barman` Barry serving.

Programme