GOLDEN ROD Adorned Log

28 Hydref - 2 Tachwedd 2011

g39 concludes its temporary residency at the Dairy with a collaborative project twinning artists groups from Wales and New Zealand.


International networking organisation 11433 have invited g39 and Wellington based collective The Russian Frost Farmers to exhibit and host simultaneous programs based upon cultural exchange and the development of ongoing collaborative relationships between the visual arts communities of Wales and New Zealand.

Daw oriel g39 â’i chyfnod dros dro yn y Llaethdy i ben gyda phrosiect cydweithredol sy’n gefeillio artistiaid o Gymru a Seland Newydd.
Mae’r sefydliad rhwydweithio rhyngwladol 11,433 wedi gwahodd g39 a’r grŵp o Wellington The Russian Frost Farmers i arddangos a chynnal rhaglenni ar yr un pryd yn seiliedig ar gyfnewid diwylliannol a datblygiad y berthynas gydweithredol barhaus rhwng cymunedau celfyddydau gweledol Cymru a Seland Newydd.
Mae'r teitl palindromig ‘Golden Rod: Adorned Log’ yn chwarae ar y cyfnewid dwyochrog gan sefydliadau wedi gefeillio. Mae adeiledd adlewyrchol y ddau derm yn cyfeirio at ddelweddau rhyfeddol o debyg. Mae'r cyntaf yn dychmygu ffon sydd wedi’i haddurno’n fawreddog, a’r ail yn ddarlun cynnil o natur; eto gallent fod yn portreadu’r un peth. Mae deialogau sy’n amgylchynnu cyfnewid diwylliannol o'r fath yn dibynnu ar yr hunaniaethau anghywir hyn, ar ailddehongli a safbwyntiau amgen. Wrth geisio archwilio a mynegi eu hunaniaeth eu hunain trwy gyfnewid arddangosfa, ethos a phersonél, mae’r sioe yn cyfuno gwaith gan bobl oedd arfer byw yn Seland Newydd, artistiaid o Gymru ac aelodau TRFF, sydd oll yn gefnogol o ethos sy’n anelu at ehangu hygyrchedd cynnwys artistig cyfoes.

Ymhlith yr artistiaid sy'n arddangos eu gwaith mae Carina Brand, TRFF, Owen Griffiths, Andy Hazel, Victor a Hester, Cam O'Connell a Shannon Reed. Mae ‘GOLDEN ROD Adorned Log’ yn cynnwys dau ddigwyddiad arbennig yn y Llaethdy: lansio Cylchgrawn 21 Victor a Hester Talking Through Broken Teeth a gwthio popeth allan hyd nes yr unig beth sy'n weddill yw sain eich corff eich hun gan Giuseppe Mistretta.

This show was curated by
  • Mark Henley
  • ,
  • Kate Mackeson
    • TRFF <i>I Feel it Too (Viking)</i> 2011

    Programme