Loners' Island

24 Tachwedd 2007 - 12 Ionawr 2008

Lloyd Durling, Untitled
Lloyd Durling, Untitled

Mae ‘Loners' Island’ yn lle sy'n gyfarwydd i lawer o artistiaid a chynulleidfaoedd. Mae'n lle i leddf, i berygl, i syfrdandod a chwilfrydedd heb ddiddordeb. Mae'n llawn darganfod, diflastod a rhwystrau posibl, ynys esthetig a chysyniadol lle y caiff y gwyliwr a'r creawdwr ill dau eu llusgo rhwng eithafion diniweidrwydd, soffistigedigrwydd crintachlyd, hagrwch bwriedig, yr aruchel a'r chwerthinllyd.


Mae Gordin Robin Brown yn creu paentiad dychanol a swrrealaidd sy'n cyfuno cymysgedd rhyfedd o geinder, digrifwch ac erotiaeth. Mae'r gweithiau'n cyflwyno golygfeydd naratif od yn dangos paradwys ryfedd dan fygythiad lle mae cymeriadau dynol ac anifeiliaid wedi'u gosod mewn ensembles llên gwerin preifat yn erbyn eangderau enfawr o liw. Mae'r paentiadau acrylig mawr a dyfrlliwiau inc bach wedi'u tynnu ag eglurder llinell â dawn dylunio cywrain. Daw syniadau drwy ddwdlan a braslunio, yn fynych wedi'u tynnu'n uniongyrchol ar gynfas heb unrhyw gynllun o flaen llaw. Mae Brown yn dilyn ei reddf wrth weithio, gan ymateb i syniadau wrth iddynt awgrymu eu hunain tra ei fod yn gweithio. Mewn un paentiad, mae fel bod byd Beatrix Potter wedi taro yn erbyn The Joy of Sex.

Mae darluniadau beiro cain a llawn manylder bach Lloyd Durling yn ymchwilio i'r ffordd y mae llawer o artistiaid yn delio ar hyn o bryd ag ystyr tirlun. Mae elfen ffantasi ei waith, a'i ormodeddau a ffiligriau ystumiol wedi'u cyfosod â gweledigaethau creulon o ddynoliaeth a difrod amgylcheddol. Mae cymhlethdod y gweithiau hyn yn cynnig barn ddigyffro o fyd a gaiff ei berffeithio gan dechnoleg ac ar yr un pryd a gaiff ei ddinistrio gan ryfela a diwydiant modern.

Mae gwaith David Marchant yn cofleidio technoleg ac yn ei hamau. Mae'n defnyddio gwrthrychau syml, adnabyddus a ailweithwyd er mwyn ymgysylltu â materion cymhleth. Mae hefyd yn defnyddio fideo a pherfformiad i amau hunaniaeth a herio gormes gyhoeddus posibl.

Yn adnabyddus am ei luniau llithrig a llysnafeddog o greaduriaid mwtant, mae Alex Gene Morrison yn denu ei gynulleidfa i fyd o bennau sy'n toddi, carcasau pwdr a chlêr anferth. Mae'r syniad o swyno a ffieidd-dod yn bwysig iawn i Morrison. Mae ei baentiadau, gludweithiau ac animeiddiadau yn dod â'r gynulleidfa i brofiad greddfol ac yna'n ymgysylltu â rhai o'r emosiynau dynol cyntefig, ond eto'n bwerus fel awydd, ofn, ffieidd-dod a rhyfeddod.

Mae Dan Mort yn disgrifio'i waith fel 'cerflun posibl'. Mae ei weithiau, o eitemau, deunyddiau a dulliau cynhyrchu annhebyg ffyslyd a chwareus yn aml yn defnyddio strategaethau modernwyr cyfarwydd a deflir oddi ar eu hechel drwy gynnwys elfennau heb esboniad. Mae materioldeb pur a theimlad o'r mympwyol yn chwarae yn erbyn potensial y gweithiau fel dynodyddion. Mae eisiau ystyried a yw amodau penodedig o wyliau'n peri'n anochel gyfarfod atseinio cyd-destunol neu symbolig, neu pe byddai'n bosibl deall y gwaith canlynol fel dim byd mwy na stwff, wedi'i drefnu 'fel cerflun' mewn cyfluniadau gwag, lled-esthetig.

Mae fideos, ffotograffau a lluniau Miranda Whallyn creu cyd-destunau unigryw i'w defnyddio i gynrychioli perthnaseddau penodol rhyngddi, natur a'r amgylchedd allanol ehangach. Mae hunan-bortreadau wedi ymgolli yn rheidrwyddau sgatolegol, pleserau hunanerotig a monitro pragmatig o'i chyflyrau ffrwythlon yn cael eu cyflawni ac yn cydfodoli ochr yn ochr â grwpiau mympwyol yr ymddengys eu bod yn ddiwahaniaeth o wrthrychau fel adar, peiriannau fferm, pensaernïaeth wledig a thrafnidiaeth. Mae Whall, yn aml yn ceisio sefydlu cydraddoldeb rhyngddi a'i chydbreswylwyr neu leoliad. Mae ganddi ddiddordeb mewn anwybyddu'n fwriadol y ffiniau sy'n bodoli rhyngddi a phethau eraill a thrwy wneud hynny mae'n cwestiynu beth a ble mae'n briodol ac yn amhriodol i fod yn fenywaidd.

Os oes gan 'Loners' Island' fwy nag un preswylydd, yna, yn sicr mae'n dod yn gymuned fach o bobl o'r un meddylfryd â chysylltiadau rhwng yr artist a'r gynulleidfa. Nid felly, ar yr ynys ddiffaith, braidd yn annymunol, lle y byddai'n well gan bob artist farw'n anrhydeddus neu fwyta'i epil yn hytrach na dod yn rhan o'r consensws cyffredinol. Mae pob artist yn gosod ei hawl hynod ei hun yma ar Loners' Island, lle y gall ei waith ymladd brwydrau mewnol a dweud dyma fe, nid rhywbeth arall mohono.

This show was curated by
  • Mermaid and Monster
    • Dan Mort, Untitled
    • Alex Gene Morrison, Purgation (2007)
    • David Marchant, Reclamation of Identity
    • Gordon Robin Brown, Ctrll+Alt+Delete (2007)
    • Miranda Whall, Untitled
    • Lloyd Durling, Untitled

    Programme