Media Attention

Mae Media Attention yn dwyn at ei gilydd tri artist sy’n dod i’r amlwg sydd, mewn ddulliau gwahanol iawn, yn adfeddu strategaethau diwylliant poblogaidd cyfoes. Yn parhau traddodiad Celf Boblogaidd, mae’r artistiaid detholedig yn archwilio effaith diwylliant cyfoes ar y seice cyfoes. Gan gynhyrchu gwaith cyfrwng-adlewyrchol, maen nhw’n defnyddio areitheg teledu, cerddoriaeth a ffilm, yn amlygu llithriadau rhwng ffantasi a rhith ym mywyd bob dydd.

Fame Asylum, 2006 ydy prosiect mwyaf uchelgeisiol Richard Dedomenici hyd yn hyn. Wedi’i gynhyrchu ar y cyd â Sianel 4 ac Wythnos Mewnfudwyr Cenedlaethol, mae Dedomenici wedi ffurfio boi band newydd sy’n cynnwys pedwar ymofynwyr noddfa ifainc. Gan weithio gyda chelf sydd yn ymdrin â phynciau o bwysigrwydd cymdeithasol, mae Dedomenici yn ymgeisio i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r mater cymhleth gwleidyddol a chymdeithasol o fewnfudo.

Mae’r prosiect yn cynnwys ffilm ddogfennol sydd yn dilyn cynnydd y band, drwy ei sengl gyntaf, nwyddau hyrwyddol a pherfformiadau fyw. Mae hi hefyd yn defnyddio pŵer cerddoriaeth pop a rhaglenni teledu fel Fame Academy a Pop Idol i greu sylw’r wasg.

Defnyddia Dedomenici iaith diwylliant poblogaidd ar sawl lefel, yn chwarae gyda ac yn datgelu nerth hunan-bytholi y cyfryngau torfol. Wrth greu system gymhleth o ddynwared, tanseiliad a thriniaeth, mae e’n pinbwyntio y rôl mae diwylliant poblogaidd yn chwarae mewn canfyddiad hunaniaeth, yn ogystal â defnyddio ymdriniaeth gwasg a theledu fel modd o ledaenu’r gwaith.

Drwy’r ddogfennaeth o weithrediadau perfformiadol, mae gweithiau fidio David Blandy hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn a’r ymelwad neu ddathliad o ddiwylliannau eraill. Yn aml yn recordio ei hun yn memio geiriau caneuon pop neu olygfeydd ffilm adnabyddus, mae gweithiau fidio Blandy a’i brosiectau cysylltiedig yn cwestiynu i ba raddau ydy’r hunaniaeth yn cael ei ffurfio drwy hollbresenoldeb y cyfryngau torfol; recordiau, ffilmiau a theledu.

Yn ei gyfres diweddar The Barefoot Lone Pilgrim, mae Blandy yn creu hunan arall yn yr archwiliad am hunan-ddarganfyddiad a goleuedigaeth. Mae’r pererin yn fersiwn o’r artist wedi’i gorliwio; wedi’i gwisgo mewn mentyll Kung-fu Shaolin oren ac yn gwrando ar gerddoriaeth hip-hop a soul ar chwaraewr recordiau symudol. Yn dangos yma, The Way of the Barefoot Lone Pilgrim: The Soul of London, 2006, rydyn ni’n dilyn taith y pererin trwy Lundain wedi’i dywys gan arwyr sinemateg fel Bruce Lee a Kaine o’r raglen teledu saithdegau ‘Kung Fu’, ac athroniaeth rapwyr KRS-ONE a Raekwon the Chef.

Trwy ei ddefnydd o samplu a chyfeirio, mae Blandy yn ymgeisio i ddatrys ei berthynas problemus â chyfres o ieithoedd diwylliannol; hip-hop, soul, kung-fu. Mae ei waith yn amlygu’r bylchau rhwng ei ddyheadau, cysylltiadau a’i realiti corfforol, ac felly yn pwysleisio’r tyndra rhwng realiti a ffuglen mewn diwylliant cyfoes.

Mae gwaith Ben Young yn gwthio’r llithriad yma i mewn i ffantasi yn ymhellach eto. Yn ei ffilm ddiweddaraf The Sons of l’Homme Doré, 2006, mae Young wedi ei ysgrifennu a chyfarwyddo chwedl ei hun; ffilm ffuglen wyddonol sydd yn cynnwys ei hunan a'i deulu fel cast a chriw cynhyrchu. Ymhlith realiti amgen, mae Young yn cymryd y rôl o ddyn grymus, yn archwilio’r cysyniad o ddyn fel un sydd yn rheoli tynged ei hunan.

Yn The Sons of l’Homme Doré, mae Young yn defnyddio cyflwr gwrywol o hunan-serch patholegol fel ei fan dechrau. Wedi’i seilio ar naratifau o ddatblygiad gwrywol, cafodd y ffilm ei gwneud fel dilyniant i stori ffuglen wyddonol a argraffwyd yn wreiddiol yn y 1950au, sydd yn olrhain bywyd y ‘Golden Man’ - goroeswr o ryfel atomig.

Mae ffilm Young yn parhau’r stori trwy feibion y ‘Golden Man’, wedi’i ddiweddaru gyda thechnoleg y ganrif 21ain - rydyn ni’n dilyn ein harwyr ar eu hantur trwy’r wlad o animeiddiad cyfrifiadur, torri a gludo swrrealaidd a technicolor digidol. Mae adroddiad gan yr actor Brian Blessed yn mynd â ni trwy’r pastiche o gyfeiriadau diwylliannol uchel ac isel a'r gydfodolaeth anesmwyth rhwng hunan-serch ymwybodol a gwrywdod sydd wedi’i bygythio.

This show was curated by
  • Cassandra Needham

    Programme