anima

Y gwahaniaeth ydyw rhwng bywyd a marwolaeth. Mae’n fater o fywyd a marwolaeth. Trown ein wyneb tua’r wal a rhoi’r ffidil yn y to. Mesurau dros dro ydy swm a sylwedd ein bywyd,yn sgîl ein credoau rydym yn chwistrellu bywyd i bethau, gwnawn iddynt anadlu a byw nes inni adael a’u bod yn dychwelyd i’w cyflwr difywyd blaenorol. Ein cyrff, ein heiddo, ein cariadon, ein plant, ein atgofion. Rhaid i’r holl bethau hyn ufuddhau i’r un rheol ddigyfnewid o ymddatodiad, croga’r holl bethau hyn mewn cyfnodau amser byrhoedlog hyd nes i’r ysbryd symud ac i’r cyfan ddymchwel yn un tomen a fydd yn dihoeni ac yn pydru.

Atgynhyrchu’r broses hon a wna artistiaid: maent yn anadlu bywyd am gyfnod byrhoedlog i’r hyn a fu’n ddifywyd. Mae’r arddangosfa Anima yn ymgodymu â deuoliaeth yr hyn sy’n ddisymud, llonydd, marw a’r hyn sy’n symud yn llawn bywyd ac yn fyw. Cawn ein hatgoffa trwy gydol yr arddangosfa ei bod hi’n anorfod bod y ddau gyflwr hwn i’w cael ochr yn ochr â’i gilydd. Rhennir yr artistiaid yn ddwy garfan gydag un yn dod â sefydlogrwydd i fyd cyfnewidiol a’r llall yn dod â’r hyn sy’n ymddangos yn farw yn fyw, gan godi’r cwestiwn am yr hyn sy’n wahanol rhyngddynt. Yn y gorffennol ystyriwyd mai enaid oedd y prif elfen a gaed mewn un cyflwr ac a oedd yn absennol yn y cyflwr arall; ond mewn iaith gyfoes mae’r gair ‘enaid’ wedi dod yn derm anigonol i gwmpasu popeth ac wedi colli ei ystyr wreiddiol. Daeth y gair yn rhan o derminoleg crefydd a ddefnyddid gan y drwg a’r da. O ganlyniad, mae’n anodd dod o hyd i air yn ei le sydd ddim yn creu’r rhagdybiaethau hyn.

Daw ein teitl o ysgrif Aristotle ‘De Anima’, lle caiff yr egni hwn a’r hyn a feddiannir ganddo ei archwilio’n drwyadl. Ymhell cyn i Jung gymryd anima a’i rannu’n enaid gwrywaidd ‘animus’ ac enaid benywaidd ‘anima’ fel rhannau o’r ego, gwahaniaethodd Aristotle y rhaniad hwn rhwng symud a llonyddwch sy’n ganolog i’r drafodaeth hon. Wrth ysgrifennu yn 350 CC dechreuodd fynd i’r afael â theoriau blaenorol – bod yr enaid yn arianbyw, ei fod yn atomau crwn sy’n rholio i lunio symudiad, ei fod yn llif y gwaed – a oedd i gyd yn cysylltu presenoldeb bywyd gyda symudiad. Honnai fod symud yn nodwedd allweddol – y gallu i gychwyn symudiad (yn hytrach na symud yn unig) – wrth ddiffinio’r bodau hynny sydd yn fyw. Ceir sail clir i hyn: pan fo rhywun yn marw nid ydynt yn peidio â bod (yn syth) ond maent yn peidio ag anadlu a symud. Felly, trwy allu cysylltu bywyd yn uniongyrchol gyda symud gallwn gysylltu absenoldeb bywyd gydag absenoldeb symudiad. Yn yr arddangosfa mae diptych Michael Cousin, ‘Sleepers’ yn ein hatgoffa nad ydym yn gwbwl lonydd hyd yn oed yn ystod yr adegau hynny pan fyddwn yn anymwybodol. Mae’n dangos y twitsho a’r aflonyddwch wrth gysgu pan nad ydym yn gwbwl ymwybodol. Mae cyfres fideo Manon de Pauw yn archwilio’r deicotomi hyn o bresenoldeb ac absenoldeb trwy greu, ailadrodd a dileu gweithredoedd.

Hwyrach bod angen adolygu symudiad fel un o brif nodweddion Aristotle yn y cyfnod mecanyddol, pan fo gwrthrychau fel pe baent yn medru cychwyn symudiad ohonynt eu hunain. Er hyn, yn unol â’i theoriau nid yw’n syndod ein bod yn parhau’n dueddol o ddynweddu yr eitemau hynny sydd yn fecanyddol symudol. Rhoddir enwau ar geir, daw cyfrifiaduron yn ffrindiau neu’n elynion sy’n achosi rhwystredigaeth. Wrth deithio adref bob nos rwy’n dychmygu bod y golau mewn stryd arbennig yn aros nes i mi gyrraedd cyn goleuo, rwy’n aml yn diolch iddo ar goedd cyn iddo ddiffodd wedi i mi fynd heibio. Yn hytrach na meddwl mai ffiws ddiffygiol sydd ar fai am gynnau a diffodd y golau yn barhaus, mae’n well ‘da fi gredu ein bod wedi meithrin perthynas. Aiff Pamela Landry â hyn gam ymhellach: nid yw ei cherfluniau hi’n fodlon eistedd ac aros inni dalu sylw, ond â nhw ati’n fwriadol i geisio dal ein llygad. Trwy gyfuno gwrthrychau cyfarwydd di fywyd gydag egni cinetig llwydda i greu deinamig newydd sydd rywle rhwng y byw a’r di fywyd.

Ar wahân i’r enghreifftiau mecanyddo hyn o ddynweddu, ceir eraill sy’n llai amlwg. Er waetha’r hafaliad syml bod symud yn gyfystyr i fywyd yn ein meddyliau rydym yn aml yn trin gwrthrychau di fywyd sydd o’n cwmpas fel pe bai ganddynt hwy fywyd hefyd. Mae bag plastig sydd wedi’i ddal yn y gwynt yn ymddangos fel pe bai ganddo’i ewyllys ei hun wrth iddo gael ei godi a’i ollwng gan rym nas gwelwn. Gwyddwn ei fod yn cael ei symud ac nad yw’n symud ei hun, ond ymddengys mor fregus. Yn y ffilm American Beauty mae dawns darn o sbwriel yn y gwynt yn sbarduno un o’r prif gymeriadau i gydnabod trasiedi bywyd a’i ddiymadferthedd ef ei hun. Deillia’r lefel hyn o empathi o’r awydd i dadogi nodweddion dynol i’r pethau o’n cwmpas. Mae Philippa Lawrence a Manuela Lalic yn chwarae ar ein tuedd i ddynweddu: ymddengys bod gwrthrychau di fywyd wedi tyfu neu esblygu ac wedi mabwysiadau eu bywydau sinister eu hun, gan luosogi fel sporau neu bryfed, neu’n gwyrdroi ein canfyddiad o’u pwrpas gwreiddiol. Rydym am ddeall y byd o’n cwmpas yn yr un modd ag yr ydym yn deall ein hunain. Ymdrechwn i wneud synnwyr o batrymau’r cymylau gan eu trawsnewid yn bethau y gallwn eu hadnabod; gwelwn Iesu yn y pared neu ym mhatrwm hadau’r ciwcymbar, gan chwilio am y nodweddion cyfarwydd hynny. Mae darluniau Renée Lavaillant yn ymateb i natur ddamweiniol, hap gwrthrychau difywyd. Gwneir trefn o anrhefn diamcan bob dydd gan danlinellu ein hawydd i gynnwys gwrthrychau di fywyd i’n byd sy’n llawn bywyd.

Rydym yn rhyngweithio, gweld, teimlo, clywed ac yn symud. Rydym yn anadlu i fewn ac allan yn ddi feddwl. Dyma’r pethau sy’n diffinio ein bodolaeth. Hen air am anadl yw tarddiad y gair ‘anima’, ac mae’n allwedd bwysig er mwyn deall yr arddangosfa hon, ac yn gysylltiad trosfwaol rhwng y gwaith a arddangosir. Mae rhai o’r artistiaid yn cymryd gwrthrychau difywyd ac yn anadlu ‘bywyd’ iddynt; cwestiynwn eu cyflwr statig wrth i’n disgwyliadau ni o’r gwrthrychau hynny gael eu gwyrdroi. Aiff artistiaid eraill i’r afael â’r syniad ffotograffig cyfarwydd o rewi’r foment trwy osod llonyddwch llawer mwy parhaus yn ei le nad yw’n llonyddwch wedi’r cyfan ond yn amser sydd wedi’i ymestyn i’r eithaf. Yn aml nid oes dim byd llawer yn digwydd, mae’r artistiaid yn rhwystro symudiad, gan gynnig y rhith o weld, o fod â’r amser i weld. Tableaux wedi’u rhewi ydy gwaith Adad Hannah mewn gwirionedd ond sy’n edrych fel ffotograffiau llonydd. Mae ‘gorffwys’ ymddangosiadol y cyfranogwyr neu eu hosgo rewedig yn weithred o ganolbwyntio a balans; y tric ydy para’n ddisymud er bod pob gewyn yng nghyrff y gwrthrychau yn ysu am gael symud, gan aflonyddu ar y llonyddwch. Ym mhresenoldeb llonyddwch o’r fath cawn ein gorfodi i fod yn ymwybodol o’n hanadl ni ein hunain, a chawn ein llethu gan yr ymdeimlad o’n bodolaeth ni ein hunain . Daliwn ein hanadl, gan aros am y diweddglo mawr, yr ateb a fydd yn gwneud synnwyr o bopeth. Ond hwyrach na ddaw byth. Yng ngwaith Sara Rees rydym yn dyst i funud o ddymchweliad a gynhelir o’n blaenau mewn senario statig ond bregus. Mae hi’n creu rhwyg yng ngwead yr adeilad, gan adael i’r gwifrau a’r pibau sy’n rhoi bywyd iddo arllwys allan, gan ei adael ar drothwy o newid sylweddol. Mae disgwyldeb yn ysgafn pan fo’n llawn o chwenych a ffantasi and daw’n drwm pan gaiff ei rwystro. Yn aml cawn ein gadael yn aros ac yn dal i ddal ein hanadl cyn symud ymlaen.

Serch hynny mae’r rhod yn parhau i droi; anadlwn i fewn ac allan. Yna fe stopiwn. Anadla rhywun arall i fewn a rhywun arall allan. Fel un râs gyfnewid di ddiwedd fe basiwn faton ein bodolaeth o genhedlaeth i genhedlaeth, gan obeithio y bydd yr hyn a wnawn yn gwneud gwahaniaeth. Mae Artistiaid yn parhau i ddynweddu, i anadlu bywyd i’r hyn sy’n ddifywyd am gyfnodau byr, gan alluogi’r gwaith eu gadael a pherfformio o flaen cynulleidfa; gan deimlo’n ansicir yn aml y cyflawnwyd yr hyn a fwriadwyd ganddynt. Mae Bedwyr Williams yn llythrennol yn creu bywyd newydd fel rhan o’r arddangosfa, gan ddatblygu persona newydd a chreu hunaniaeth a phatrymau ymddygiad newydd am gyfnod byr cyn ei ddifa. Aiff gwaith Rachel Thorlby, ‘Darren’ un gam ymhellach: mae hi wedi creu hanner dyn, hanner llanc ifanc â chwfwl sy’n edrych ar y byd hynod o agos rhwng dyn a’i ffrind gorau. Mae’r darn yn eich aflonyddu ac eto’n gyfarwydd wrth inni ymateb i osgo a dillad tra’n syllu i lygaid ci. Daw Michel Boulanger â bywyd newydd yn fyw – gafr a ddelir rhwng ei bori ei hun a byd anwastad, llithirg y celfyddydau. Mae ei greuwr yn ei anfon ar shwrnai ryfedd, gan reoli ei ffawd a’i ddiwedd yn yr un modd ag yr oedd yn rheoli ei enedigaeth. Hwyrach mai’r genedigaethau a’r ymadawiadau bach hyn sy’n gyrru artistiaid i barhau i gynhyrchu gwaith, a deillia rhagor o waith o’r ansicrwydd hwn. Y bywydau byr hyn ydy’r cyfan sydd gan y gwaith, i fodoli o flaen cynulleidfa; daw’r gwaith yn fwy yn y munudau byr hyn..

Nid yw’r artistiaid yn y sioe hon yn delio gyda bywyd a marwolaeth mewn du a gwyn; mae’r casgliad hwn o waith llawer yn fwy cynnil. Mae gwaith animaeddiedig Richard Higlett yn dehongli’r arfer o droi’ch bodiau, y tawelwch gwybyddol cyn i syniad neu weithred wawrio. Daw’n ddarn o amser sy’n canolbwyntio ar ei weithredoedd ailadroddus ei hun, gan ddathlu treigl ein hamser ni a dreuliwyd arno, fesul ffrâm a fesul eiliad. Yn yr un modd â’r arddangosfa ei hun, fe fodola yn y man llwyd rhwng stasis a newid; yma, yn y newid ceir symud, a symudiad sydd hwyrach yn un cylchol. Tra pery bywyd pery gobaith ys dywed yr ystrydeb, ond hwyrach gellid dadlau lle ceir gobaith y ceir artistiaid yn parhau i greu bywydau eraill hefyd.

Anthony Shapland 2005

Programme