25 Tachwedd 2005 - 26 Chwefror 2006
Offsite at Moravská Gallery, Brno

Mae Flourish un o gyfres o arddangosfeydd o waith newydd o Gymru sydd wedi dod i fodolaeth drwy waith Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cyflwynodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ddau sefydliad newydd, g39 yng Nghaerdydd, gofod a redir gan artistiaid sy'n canolbwyntio ar waith newydd yn dod allan o Gymru ac Oriel Moravská yn Brno, Y Weriniaeth Tsiec, sydd â chasgliad mawr ynghyd ag arddangosfeydd cyfoes newidiol.
Caiff yr arddangosfa ddilynol ei churaduro ar y cyd gan Anthony Shapland a Marek Pokorný ac mae'n ceisio edrych y tu hwnt i'r cysylltiadau daearyddol yn unig sy'n amlwg mewn arddangosfa fel hon. Canolbwyntiodd y curaduron ar rai o'r strategaethau a dulliau sy'n unigryw o fewn y gwaith cyfoes sy'n dod allan o Gymru. Mae'r gwaith dilynol yn dangos tueddiad amrywiol ac eclectig, hoffter neilltuol ar gyfer ystyr absẃrd, ar gyfer ffolineb ac ar gyfer herfeiddiad, y cyfan o safbwynt un o'r ymylon canfyddedig.
Mae'r canlynol yn draethawd o'r catalog ategol:
Flourish. To Flourish. A Flourish. To thrive and prosper or to gesture in an elaborate fashion. Mae'r arddangosfa'n gasgliad o'r ystumiau hyn. Mae'r artist yn cynnig ffordd newydd o edrych, o bosibl y rôl bwysicaf ar gyfer yr artist mewn cymdeithas. Yn aml, maent yn cael eu gwawdio, eu hystumiau'n cael eu gweld fel 'dillad newydd yr ymerawdwr', dealledig dim ond gan y rhai sy'n ddigon ffôl i gredu. Yn fynych mae'n bosibl edrych ar artistiaid fel coegynnod, yr ychydig breintiedig yn siarad â'r torfeydd ansoffistigedig, y dandïaid yn rheoli. Yn y sin gelf gyfoes mae un peth yn barhaus, ystumiau'r artistiaid, y chwifio er mwyn sylw sy'n ffurfio gwaith cyfoes mewn byd sy'n credu y gallai barhau hebddo.
Ond gall y safiadau hyn yn erbyn y drefn a dderbynnir gynnig eglurder newydd i sefyllfaoedd, rhyw lygedyn o obaith sy'n goleuo'r llwybr i leoliad lle mae'n bosibl nad yw pethau'n well ond yn bendant maent yn wahanol. Weithiau mae rhesymeg yn rhwystr. Mae'n creu hunanfoddhad na ddylai fodoli mewn byd mor doredig â'n byd ni. Mae'r rhesymeg ddeuol o naill ai / neu yn dibynnu ar dderbyn gwybodaeth a brofwyd. Ond pan anwybyddir rhesymeg mae gwiriondeb yn tra-arglwyddiaethu ac yn creu math newydd o synnwyr. Gwneir ystum yn erbyn y ffordd y mae pethau. Nid yw B yn dilyn A bellach ac nid anarchyddion yw'r cyflawnwyr ond artistiaid. Weithiau mae hyn yn ansefydlogi gwylwyr celf gyfoes, yn eu gwneud yn elyniaethus ac yn anfodlon cymryd unrhyw gamau sy'n cyfaddef, mewn byd ansicr, mai pwrpas absoliwtiau yw cael eu hamau.
Nid yw'r artistiaid yn y sioe'n cynnig barn heb gyfrwng ar y byd. Maent yn camu i mewn, yn creu ychydig o lanastr, ac yn camu allan eto. Eu presenoldeb yn y cynllun mwy yw'r pwysigrwydd a roddir gan y newidiadau y maent yn eu gwneud i'r pethau o'u cwmpas. Nid yw'n ddibwynt, yn ddiymhongar nac yn gyfeillgar. Mae'n sylfaenol ac yn angenrheidiol, wedi'i eni o chwilfrydedd ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid.
Pan fydd yr ystumiau hyn yn digwydd mewn tirwedd anfaddeuol a chreulon, mae ffolis cynhyrchu celf yn amlwg iawn. Weithiau gwelir celf weledol fel ystum diangen pan gaiff ei gwrthgyferbynnu â llafur ac ymrafael cenedl, pan gaiff ei chymharu â diweithdra neu ddiffyg gwelyau mewn ysbyty. Ond y safiad hwn yn erbyn y drefn a dderbynnir, yn aml yn erbyn rhesymeg, sy'n lleisio rhai o'r syniadau mwyaf grymus, mwyaf diddorol ac angenrheidiol cynnydd. Mae gan genedl fach fel Cymru, sydd o dan fygythiad pwerau mwy, dueddiad i fynd am yr opsiwn diogel. Mae'r amheuaeth o'r Newydd wastad yn holl bresennol ond mae'r tensiwn sy'n bodoli rhwng traddodiad yn tynnu'n ôl a dyfodol yn tynnu ymlaen yn ffactor hanfodol ar gyfer ei artistiaid cyfredol.
Ond mae'n bosibl dadlau bod y ciciau hyn yn erbyn y status quo yn hen hanes yng Nghymru. Ymddengys fod traddodiad o brotestio a grwpiau o unigolion sy'n cymryd yr hyn sy'n ymddangos yn amhosibl fel her, rhai yn fwy difrifol eu natur, gan arwain at newid sylfaenol. Yn y 1800au protestiodd 'Merched Beca' yn erbyn gorfodi tollau ar heolydd yng Nghymru. I ddarganfod ffordd o osgoi'r perygl o gael eu hadnabod yn ystod yr ymosodiadau hyn, a allai arwain at gael eu crogi, cyflawnodd y ffermwyr eu gweithredoedd tra'n gwisgo dillad eu gwragedd. Roedd yn strategaeth chwerthinllyd ond angenrheidiol a ddefnyddiwyd i ymladd yn erbyn cyfraith anghyfiawn.
Ganrif yn ddiweddarach ceir enghraifft arall o dueddiad ecsentrig amlwg i chwyldro yng Nghymru. Dros gyfnod o 50 o flynyddoedd o'r 1920au penderfynodd y pensaer Clough Williams Ellis y byddai'n troi cornel ddiffaith o Gymru yn bentref Eidalaidd hardd a chreodd Portmeirion. Nid ffolineb totemig dyn cyfoethog gyda gormod o arian mo hwn. Roedd yn angerdd. Lleihaodd faint ei hoff adeiladau o Ewrop ac adeiladu copïau mewn man creigiog yng Nghymru. Pam? Roedd am brofi bod mwy nag un peth yn gallu bodoli yno, mwy nag un ffordd. Mae'r lle wedi'i drawsnewid am byth, cafodd ei ddefnyddio yng nghyfres teledu o'r 70au
The Prisoner ac erbyn hyn mae cymysgedd o gîcs a gwybodusion pensaernïaeth yn ymweld â'r lle.
Yn gydradd i'w hymrwymiad â safiad Portmeirion yn erbyn yr hinsawdd galed roedd grŵp o'r enw Club Artistic de Coiffeures, cymdeithas o steilwyr gwallt o Gymru a pherchnogion salonau a ffurfiwyd tua 1968. Eu nod oedd creu dulliau gwallt newydd ac addas ar gyfer merched Cymru ond a fyddai hefyd yn cael eu mabwysiadu ar draws Ewrop. Roedd y gweledyddion trin gwallt hyn yn credu eu bod yn wynebu un her sylfaenol - tywydd Cymru. Roedd ein gwyntoedd cryf, ein hawyr môr hallt a glaw di-baid yn peri problemau difrifol i'r pen Cymreig arferol. Yn hydref 1968 daethon nhw o hyd i ateb i'r broblem hon a galw Cariad arno. Roedd yn isel ar y blaen, gyda chudynnau cyrliog neu gudynnau cusan i lawr yr ochrau. Cafodd y corun isel ei frwsio i roi mwy o uchder iddo. Byddai hyn, yn ôl cred wyth aelod sylfaenol Club Artistic de Coiffeures yn ymladd yn erbyn yr amodau tywydd mwyaf garw. Fe'i hysbysebwyd fel 'y steil gwallt Cymreig cyntaf erioed'. (ffynhonnell: Anthony Brockway,
Notes From The Margins Of Welsh Popular Culture 2003)
Ceir y pocedi hyn o athrylithoedd rhyfedd, pobl yn defnyddio'r annhebyg i ymladd y pethau cyffredin dros Gymru ben baladr. Maent yn trawsnewid y lleoedd hyn yr edrychir arnynt fel canol unlle yn rhywle. Yn aml pan glywaf am ffolinebau Americanaidd, fel y bêl bandiau rwber mwyaf yn y byd, neu ffrimpan enfawr, gallaf eu gweld wrth ochr yr heol ar y ffordd i Gasnewydd neu rownd y gornel ym Metws. Ar lethrau'r bryn wrth i chi ymadael â'r Rhondda ceir cerfluniau sy'n edrych yn rhyfedd dros lethrau'r bryn. Maent yn gynnyrch un dyn sydd wedi bod yn creu dinosoriaid papier-mâché ac yn eu rhoi yno ers blynyddoedd. Maent dros y lle i gyd ar y porth mawreddog i hwn, cwm mwyaf De Cymru, gyda'u gwenau mawr o baent poster.
Yn aml iawn gwelir ffolineb fel mympwy pobl sydd â mwy o arian nag o synnwyr. Mater o benderfynu os gellir gwneud rhywbeth, ta waeth am ei ddefnydd na'i fforddiadwyedd, yna dylid ei wneud. Mae'r artistiaid yn y sioe hon yn pwyntio allan y gallwn ni i gyd ystyried bod ceisio gwneud yr amhosibl neu hyn yn oed yr annhebygol fel strategaeth i newid y status quo. Mae'r rhesymeg sy'n dweud y dylai fod 'hyn', nid 'hynny', yn cael ei gorfodi ar y sawl y cymerir nad oes llawer o ddewis ganddynt, oherwydd diffyg arian, fel bod ewyllys ac ewyllys rhydd (ac felly ffolineb) yn rhywbeth sydd ond ar gael i'r sawl ag arian ac amser i'w wneud. Mae'n rhywbeth i'r werin neu, fe ddylai fod. Gwnewch ddim byd neu gwnewch rywbeth; methu oherwydd i chi geisio neu fethu oherwydd i chi wneud dim byd. Mae'n bosibl mai cofleidio methiant yw un ffordd o'i gyfleu. Mae'n bosibl trawsnewid yr embaras gwylaidd am ei natur bathetig. Pam methu gyda'r pethau bach pan allwch geisio gwneud y rhai mwy? Rhowch gynnig ar alcemi yn hytrach na Gwneud ef eich Hunan.
Ledled Ewrop mae'r torri parhaus a dadleoliad pobl yn ffaith hanesyddol, ac mae cwestiwn hunaniaeth genedlaethol yn un hynod o gymhleth i ddelio ag ef. Yr un mor gymhleth yw ymatebion a gweithiau artistiaid sy'n gallu dewis naill ai i gofleidio'r mater neu i ymbellhau oddi wrtho. Ymddengys fod lleoliad nomad yn un dymunol i'r artist cyfredol y mae ei syniad o hunaniaeth genedlaethol yn bwysig yn y blaendir neu'n cael ei anwybyddu yn ôl anghenion y foment. Ond efallai'n unigryw yng Nghymru, ef yw’r canfyddiad allanol o fod ar yr ymylon, rhan o'r ardaloedd plwyfol neu o'r ymylon sydd wedi arwain at fwy o ganolbwyntio ar syniadau hunaniaeth. Dyma argyfwng hunaniaeth a all yn y pen draw arwain at fwy o hyder yn y byd sydd ohoni. Mae Cymru bellach yn genedl hybrid ddiddorol gyda dylanwadau allanol yn cael eu tynnu i mewn i ddiwylliant Cymru yn hytrach na theimlad bod diwylliant Cymru o dan fygythiad. Unwn o dan y faner, gan fychanu rhai o'r rhagdybiaethau tra'n eu cryfhau gydag eraill, a bod yn falch ohonynt. Mae'n sicr yn arwydd o hyder pan fydd rhagfarnau'n dod yn rhan o'r arfwisg.
Mewn sioe fel hon pan fydd un llinyn daearyddol eisoes yn bodoli rwy'n oedi cyn ychwanegu eraill, mae'r artistiaid yn y sioe i gyd yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Yr hyn sy'n gyffredin yw ysfa am newid.
Do the little things yw teitl un o'r gweithiau, gan awgrymu y gall pethau mawr ddilyn. Mae'r gwaith yn weithredol yn ei ymdrechion i newid pethau; mae rhai o'r artistiaid yn ymyrryd yn debyg i Twm Siôn Cati neu forladron. Mae gwaith eraill yn adleisio ffolineb '...oherwydd ei fod yno' fforwyr. Mewn mannau eraill, mae artistiaid yn ceisio trawsnewid y sylfaen i'r mawreddog, gan ychwanegu ystumiau i fyd pob dydd. O'r ymylon gallwch yn aml dim ond edrych tua'r canol ond o fan hyn, ar yr ymylon y gallwch weld yn gliriach y lleoedd eraill ar yr ymylon. Mae'r un peth yn wir am resymeg. Po bellaf rydych o angor ffaith sefydlog, po agosaf y dewch at gors posibilrwyddau.