Che Applewhaite, Aqsa Arif, MV Brown, Philippa Brown, Alliyah Enyo, Sam Keelan, Paul Nataraj, Ciarán Ó’Dochartaigh, Ebun Sodipo and Kandace Siobhan Walker.
Mae Jerwood Survey yn ymateb i’r angen hollbwysig i sicrhau bod artistiaid sydd yn dal ar ddechrau’u gyrfaoedd yn elwa o gyfle gyda chefnogaeth i greu a dangos gwaith newydd mewn fformat arddangosfa grŵp
Mae gan y pedair oriel sy’n bartneriaid gryfderau penodol wrth gefnogi a rhannu gwaith artistiaid sydd ar ddechrau’u gyrfaoedd, a byddan nhw’n cysylltu’r artistiaid sy’n rhan o Jerwood Survey III â chynulleidfaoedd lleol a chenedlaethol ehangach drwy’r arddangosfa a’r rhaglen gyhoeddus yn eu lleoliadau nhw. Fel yn achos y fersiynau blaenorol o’r prosiect, bydd yr holl artistiaid sy’n arddangos yn cael arian i fynd i ragddangosiadau a digwyddiadau ym mhob lleoliad sy’n bartner; bydd hynny’n eu galluogi i ehangu eu rhwydweithiau drwy wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig a datblygu deialogau newydd fel grŵp o gymheiriaid.
Cynllun a sefydlwyd yn 2018 yw Jerwood Survey, ac mae’r drydedd arddangosfa hon yn cyflwyno partneriaethau newydd ac yn parhau i ddatblygu ar wybodaeth arbenigol a phrofiad Jerwood Arts a’r partneriaid wrth weithio gydag artistiaid sydd ar ddechrau’u gyrfaoedd ac sy’n ymdrin ag amryw o ffurfiau celfyddydol. Cafodd yr artistiaid eu dethol gan banel a gadeiriwyd gan Lilli Geissendorfer, cyn-Gyfarwyddwr, Jerwood Arts. Ar y panel hefyd roedd Charlotte Baker, Dirprwy Gyfarwyddwr, Southwark Park Galleries; Anthony Shapland, Cyfarwyddwr Creadigol, g39; Angelica Sule, cyn-Gyfarwyddwr Rhaglenni, Site Gallery; Siobhan Carroll, cyn-Bennaeth Rhaglenni, Collective; a Tako Taal, artist a fu’n rhan o Jerwood Survey II. Mae’r prosiect yn cael cymorth gan Harriet Cooper, Cyfarwyddwr Prosiect, Jerwood Survey III, a arweiniodd yr arddangosfeydd blaenorol yn ei hen swydd yn Jerwood Arts.
Agorodd Jerwood Survey III yn Southwark Park Gallery ym mis Ebrill, a bydd yn parhau ar ôl g39 yn Site Gallery, Sheffield, 27 Medi 2024 - 26 Ionawr 2025 a Collective, Caeredin, 28 Chwefror - 4 Mai 2025.
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants