Intermission
Web-zine ffrwd byw o waith fideo lo-fi, gwaith fideo hi-fi, ffilmiau hapgael, ffilmiau coll, gifs wedi eu hanimeiddio, meini hirion, tarot a recordiau.
Noson Calan Gaeaf, Samhain, Allantide, All Hallow’s Eve a Halloween o bersbectif ffugwyddor amaturaidd, dewiniaeth anneheuig, neu dderwydd yn neud ei siop fawr yn Aldi.
Gorffennol, presennol a’r dyfodol ar yr un pryd. chwiwiau perfformiadol, defodau wedi eu camddehongli, ysgogiad sy’n troi’n orfodaeth – oll wedi eu hidlo drwy focs wisgoedd o blentyndod.
Dychmygwch ddatgladdu corff Hudini- y bochdew a gladdwyd yn 1989, neu Séance yn Blockbuster Video, Aberdâr.
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants