Tim Bromage - Philippa Brown – Marcos Chaves - Rebbeca Gould - George Manson - Nightshift Internat

Yn 2005, gwnaeth g39 gyflwyno ‘On Leaving and Arriving’, lle cyflwynwyd gweithiau celf mewn cyfres o gynhwysyddion llongau a osodwyd mewn mannau cyhoeddus o amgylch y ddinas. Un o'r gweithiau oedd Dying of Laughter gan Marcos Chaves. Roedd y gwaith yn ddarn clywedol, sŵn chwerthin a oedd yn ymddangos fel pe bai'n dod o gynhwysydd llong wedi'i gloi. Ar ôl rhywfaint o ddryswch ymhlith y cyhoedd, pryderon gwirioneddol fod rhywun yn gaeth go iawn yn y cynhwysydd llong, a staff banc cyfagos yn cyrraedd pen eu tennyn, y cyfaddawd oedd y byddai'n cael ei chwarae yn achlysurol. Gwnaeth y chwerthin heb gyd-destun, ei ddibendrawdod, ac ymyrraeth y gwaith celf i ofod cyhoeddus, greu tensiwn a aeth, ar yr achlysur hwn, mae’n ymddangos, yn rhy bell.
Gan gyd-fynd yn achlysurol â'r chwerthin hwn, mae gwaith cerfluniol Phillipa Brown yn dal i gellwair yn ddi-ildio. Gan wneud y pethau solet yn llai sefydlog, mae'r cyfuniad o gerfluniau yn g39 braidd yn cyffwrdd â'r hudolus neu'r ysbrydol cyn cael ei danseilio'n ddireidus gan iaith, ystumiau a deunyddiau amrwd. Mae nodweddion tebyg yng ngwaith Rebecca Gould hefyd, ond mae hi'n tynnu ynghyd manylion hunangofiannol, hel atgofion a chyfeiriadau at ddiwylliant poblogaidd cyfoes i'w cherfluniau. Mae’r ystyr a chysylltiadau sydd wedi'u gwreiddio mewn deunyddiau yr un mor bwysig â sut mae'r elfennau yn 'perfformio' gyda'i gilydd wrth iddynt gael eu cyflwyno mewn oriel. Mae wal o ddarluniau gan George Manson yn methu â phenderfynu ble i stopio: bydd rhai newydd yn cael eu hychwanegu a bydd clystyrau a pherthnasau newydd yn cael eu ffurfio. Mae'r wal bwrdd piniau yn gwrthod derbyn statws 'gwaith celf' yn crogi ar wal. Mae gwaith George yn plicio haen i ffwrdd i ddod o hyd i'r swreal, trist ac abswrd mewn sefyllfaoedd o ddydd i ddydd. Dyma ddamhegion bach ynglŷn ag unigrwydd a sylwadau cwta am fywyd cyfoes. Mae comedi Lynchaidd i'r gwaith hwn sy'n tynnu'r rhyfedd a'r gwan at ei gilydd mewn ffyrdd dieithr.
Mae gwaith ffilm Nightshift International yn cyfleu naws cyllideb fach sy'n debyg i ymdeimlad ffilmiau a grëwyd ar gyfer y teledu yn ystod y 1970au a'r 1980au. Mae'r gweithiau hyn yn gwneud i'r cyffredin deimlo fel tabŵ ac yn gwneud i'r bob dydd deimlo fel rhyw fath o gyfrinach iasol. Maent yn tyrchu am eiliadau trist a thyner sy'n digwydd wrth actio senarios ffantasi pathetig. Mae'r senarios yn digwydd mewn mannau cyffredin, mae cerddoriaeth ddifywyd yn swnian, ac mae'r ymdeimlad o foethusrwydd a chyfoeth yn arwain at swp o letchwithdod rhyfedd.
Efallai mai'r gwaith mwyaf cythryblus yw darn newydd gan Tim Bromage. Gan weithio gyda phypedwr sioe Pwnsh a Jwdi, mae'n edrych ar y camau ailadroddus a gaiff eu perfformio heb angen meddwl amdanynt. Heb y pypedau, mae ymdeimlad o ddatgysylltiad: gyda lliwiau'r wisg a'r llwyfan yn cael eu tynnu i ffwrdd, mae cyfres o symudiadau ac ystumiau abswrd yn unig yn cael eu taflu o un llaw at y llall. Mae ei arfer yn tynnu oddi ar nifer o feysydd o ddiddordeb, gan gynnwys hud llwyfan a thraddodiadau gwerin. Mae ei waith perfformio yn archwilio ffaith a ffuglen yn barhaus, yr hiwmor a geir o fewn y profiadau hyn, a'r ddeuoliaeth sy'n bresennol o fewn y cyflwr dynol.