Sprung Spring

10 Awst - 12 Hydref 2019

Tim Bromage - Philippa Brown – Marcos Chaves - Rebbeca Gould - George Manson - Nightshift Internat

Tim Bromage, <i>If it wasn`t for bad luck I`d have no luck at all</i>, 2013.
Tim Bromage, If it wasn`t for bad luck I`d have no luck at all, 2013.

O dro i dro chwerthin yw ein hunig ddihangfa bosibl rhag tensiynau sydd wedi datblygu'n annioddefol. Mae chwerthin yn gweithio fel ffordd o droi'r hyn sy'n anghysurus yn bleserus neu fwynhau'r anghysur mewn ffordd wrthnysig. Mae hiwmor yn tarddu o eiliadau o densiwn lletchwith, a thensiwn lletchwith sy'n gallu datblygu'n annioddefol cyn iddo fod yn ddoniol.


Yna mae eiliadau pan fo rhan hanfodol o gynllun ar goll, pan fyddwn yn gweld rhywun yn petruso gyda'u huchelgais, neu pan fo rhan salw o adeiladwaith yn dod i'r amlwg. Gall deimlo fel petai'r byd i gyd yn dymchwel mewn llanast llwyr. Yn yr eiliad honno, ar ôl rhyw fath o lanast lletchwith, wrth i fwgwd hunanfeddiant gael ei dynnu i ffwrdd ac y gwelwn unigolyn yn ceisio rhoi ei hun yn ôl at ei gilydd ar frys, gwelwn freguster dynol. Yn lletchwith ac yn hardd, ac yn ddoniol ar yr un pryd. Mae strwythur hiwmor, strwythur jôc, yn aml yn seiliedig ar fethiant, camddealltwriaeth, neu rywbeth annisgwyl, salw neu dabŵ.

Mae SPRUNG SPRING yn cofleidio'r prosesau hyn o fethiant, datguddiad a hiwmor, gan gofleidio’r amrwd, ac yn mwynhau ei letchwithdod ei hun mewn ffordd wrthnysig. Mae'n llithro rhwng yr hardd, y trasig a'r doniol.

Yn 2005, gwnaeth g39 gyflwyno ‘On Leaving and Arriving’, lle cyflwynwyd gweithiau celf mewn cyfres o gynhwysyddion llongau a osodwyd mewn mannau cyhoeddus o amgylch y ddinas. Un o'r gweithiau oedd Dying of Laughter gan Marcos Chaves. Roedd y gwaith yn ddarn clywedol, sŵn chwerthin a oedd yn ymddangos fel pe bai'n dod o gynhwysydd llong wedi'i gloi. Ar ôl rhywfaint o ddryswch ymhlith y cyhoedd, pryderon gwirioneddol fod rhywun yn gaeth go iawn yn y cynhwysydd llong, a staff banc cyfagos yn cyrraedd pen eu tennyn, y cyfaddawd oedd y byddai'n cael ei chwarae yn achlysurol. Gwnaeth y chwerthin heb gyd-destun, ei ddibendrawdod, ac ymyrraeth y gwaith celf i ofod cyhoeddus, greu tensiwn a aeth, ar yr achlysur hwn, mae’n ymddangos, yn rhy bell.

Gan gyd-fynd yn achlysurol â'r chwerthin hwn, mae gwaith cerfluniol Phillipa Brown yn dal i gellwair yn ddi-ildio. Gan wneud y pethau solet yn llai sefydlog, mae'r cyfuniad o gerfluniau yn g39 braidd yn cyffwrdd â'r hudolus neu'r ysbrydol cyn cael ei danseilio'n ddireidus gan iaith, ystumiau a deunyddiau amrwd. Mae nodweddion tebyg yng ngwaith Rebecca Gould hefyd, ond mae hi'n tynnu ynghyd manylion hunangofiannol, hel atgofion a chyfeiriadau at ddiwylliant poblogaidd cyfoes i'w cherfluniau. Mae’r ystyr a chysylltiadau sydd wedi'u gwreiddio mewn deunyddiau yr un mor bwysig â sut mae'r elfennau yn 'perfformio' gyda'i gilydd wrth iddynt gael eu cyflwyno mewn oriel. Mae wal o ddarluniau gan George Manson yn methu â phenderfynu ble i stopio: bydd rhai newydd yn cael eu hychwanegu a bydd clystyrau a pherthnasau newydd yn cael eu ffurfio. Mae'r wal bwrdd piniau yn gwrthod derbyn statws 'gwaith celf' yn crogi ar wal. Mae gwaith George yn plicio haen i ffwrdd i ddod o hyd i'r swreal, trist ac abswrd mewn sefyllfaoedd o ddydd i ddydd. Dyma ddamhegion bach ynglŷn ag unigrwydd a sylwadau cwta am fywyd cyfoes. Mae comedi Lynchaidd i'r gwaith hwn sy'n tynnu'r rhyfedd a'r gwan at ei gilydd mewn ffyrdd dieithr.

Mae gwaith ffilm Nightshift International yn cyfleu naws cyllideb fach sy'n debyg i ymdeimlad ffilmiau a grëwyd ar gyfer y teledu yn ystod y 1970au a'r 1980au. Mae'r gweithiau hyn yn gwneud i'r cyffredin deimlo fel tabŵ ac yn gwneud i'r bob dydd deimlo fel rhyw fath o gyfrinach iasol. Maent yn tyrchu am eiliadau trist a thyner sy'n digwydd wrth actio senarios ffantasi pathetig. Mae'r senarios yn digwydd mewn mannau cyffredin, mae cerddoriaeth ddifywyd yn swnian, ac mae'r ymdeimlad o foethusrwydd a chyfoeth yn arwain at swp o letchwithdod rhyfedd.

Efallai mai'r gwaith mwyaf cythryblus yw darn newydd gan Tim Bromage. Gan weithio gyda phypedwr sioe Pwnsh a Jwdi, mae'n edrych ar y camau ailadroddus a gaiff eu perfformio heb angen meddwl amdanynt. Heb y pypedau, mae ymdeimlad o ddatgysylltiad: gyda lliwiau'r wisg a'r llwyfan yn cael eu tynnu i ffwrdd, mae cyfres o symudiadau ac ystumiau abswrd yn unig yn cael eu taflu o un llaw at y llall. Mae ei arfer yn tynnu oddi ar nifer o feysydd o ddiddordeb, gan gynnwys hud llwyfan a thraddodiadau gwerin. Mae ei waith perfformio yn archwilio ffaith a ffuglen yn barhaus, yr hiwmor a geir o fewn y profiadau hyn, a'r ddeuoliaeth sy'n bresennol o fewn y cyflwr dynol.

Yn yr arddangosfa hon Sprung Spring gan ddwyn i gof gwaith cofiadwy Chaves, rydym dan gyfaredd eto yn sgil tensiynau lletchwith, y tro hwn gan eu mwynhau mewn ffordd sy'n groes i'r graen. Arddangosfa yw hon sydd eisiau i ni feddwl am yr eiliadau hynny o dynnu a gwthio hiwmor, tir ffrwythlon a llewyrchus methiant, a chrefft llwyfan gweithiau celf a jôcs.

  • Tim Bromage, <i>Artsadmin</i>, 2019, image Greg Goodale
  • Philippa Brown, 2019
  • Tim Bromage, <i>If it wasn`t for bad luck I`d have no luck at all</i>, 2013.
  • Nightshift International, <i>By The Lake</i>, 2018
  • Rebecca Gould, 2019
  • Philippa Brown, 2019
  • Marcos Chaves, <i>Dying Of Laughter</i> 2005
  • Marcos Chaves, <i>Holes</i>, 2005
  • Nightshift International, <i>Green Hills</i>, 2018

Programme