11 - 19 Rhagfyr 2009
An off-site project at Tactile Bosch, Cardiff

Curated and organised by by Neil Jeffreys and WARP
As part of December eleven – a day of art events, screenings, visits and socialising across the city – six artists from Birmingham, Bristol and Cardiff were invited to apply various interventions to the TactileBOSCH studio space following a four-day residency.
Wedi’i guraduro a’i drefnu gan Neil Jeffreys a WARP
Fel rhan o December eleven - diwrnod o ddigwyddiadau celf, sgriniadau, ymweliadau a chymdeithasu ledled y ddinas - cafodd chwe artist o Birmingham, Bryste a Chaerdydd eu gwahodd i gymhwyso amrywiaeth o ymyriadau i ofod stiwdio TactileBOSCH, ar ôl cyfnod preswyl pedwar diwrnod.
O ran lleoliad i arddangos gwaith, mae TactileBOSCH yn cael ei adnabod yn bennaf am berfformiadau a gosodiadau, gwaith sydd yn naturiol yn gadael ei ôl pan fydd y perfformiad wedi dod i ben, neu pan fydd y gosodiad wedi cael ei dynnu i lawr. Mae nifer o’r atgofion bach hyn, fel splashis achlysurol o baent, tolciau yn y waliau a’r lloriau, bachau a phwliau yn y nenfwd, yn aml yn aros heb eu cyffwrdd wrth lanhau ar ôl yr arddangosfa oherwydd maint yr oriel, ac felly’n dod yn fwy parhaol na’r gwaith celf gwreiddiol. Mae’r chwe artist wedi parhau yn y broses o ychwanegu at y lleoliad drwy greu casgliad o weithiau bregus a chynnil yn yr oriel, y gallai llawer ohonynt barhau yno ymhell i’r dyfodol.
Nid oes gan y gwaith celf Building up-Not Tearing Down bresenoldeb amlwg yn y gofod ac nid ydynt ychwaith yn cael eu dangos ar fap na set o blaciau ond yn hytrach rhaid i’r gynulleidfa chwilio drwy’r gofod eang am gyfraniadau niferus pob artist.