If.... Candice Jacobs

From <i>Situation Shot</i> 2009
From Situation Shot 2009

Nottingham based Artist Candice Jacobs continues g39's If.... season. Jacobs works with a variety of media producing sound, video, painting and sculpture, with the intention of undermining the traditional role of the artist as retaining control and authorship over their work. Jacobs engages in what could be described as transactional work that involves the exchange of ideas and constructs with social groups or objects that become attached or connected to her through her many roles in daily life.

Mae Candice Jacobs, artist o Nottingham, yn gweithio gydag amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys sain, fideo, peintio a cherflunio. Mae g39 yn dangos tri darn o waith diweddar.


Mae Candice yn dadansoddi ac yn datod naratif penodol nes iddo gyrraedd ei gyflwr haniaethol noeth. Ar gyfer y darn sain newydd Work, recordiodd Jacobs gyfweliadau gyda gweinyddion a gweinyddesau i ddarganfod eu teimladau am y cydbwysedd rhwng cyflogaeth a bodlonrwydd. Golygodd Jacobs y deialogau hyn nes dim ond y geiriau 'gwaith' a 'hapusrwydd' oedd ar ôl. Rydych yn mynd i ganol sgwrs rhwng dau siaradwr stereo lle mae’n rhaid i chi benderfynu ar y cydbwysedd rhwng gwaith a hapusrwydd i'r lleisiau hyn.

Ynghlwm wrth hwn mae darn sgrin o’r enw Situation Shot, sy'n defnyddio lluniau cysylltu o gomedïau Americanaidd enwog. Maent yn creu darlun o realiti daearyddol wrth i ni symud o un set stiwdio i un arall. Fel gyda Work, mae Jacobs wedi dileu’r golygfeydd blaenorol a dilynol a’r gerddoriaeth, gan ein gadael heb unrhyw syniad o le rydym wedi bod neu i le rydym yn mynd. Mae’r elfennau allanol yn fud ac ar gau i ni am byth wrth i ni sefyll y tu allan yn aros i rywbeth ddigwydd.

Ar y llawr mae’r cerflun The London Paper, cast acrylig o bapur rhad ac am ddim sydd wedi cael ei chwistrellu ag aur. Mae Jacobs wedi cadw’r papur yn yr un cyflwr wedi plygu â phan gafodd ei ganfod. Mae'r broses o gastio a chwistrellu wedi cael gwared ar yr hyn sy’n dynodi naratif a fasgynhyrchwyd ac wedi ei droi’n wrthrych cerfluniol.

Daw'r darn olaf yn y sioe o gyfres o’r enw Studio Paintings. Mae Jacobs yn cymryd ffotograff o'i stiwdio pryd bynnag y mae'n ymweld â hi ac yna’n anfon y llun at beintwyr anhysbys er mwyn iddynt ddehongli’r llun fel y mynnant. Nid oes unrhyw gyfathrebu ar ôl y pwynt hwnnw, a chaiff y paentiad sy’n deillio o’r llun ei ddychwelyd i Jacobs. Mae rhoi'r gorau i reolaeth dros ganlyniad terfynol y paentiadau hyn yn wrthbwynt i'r gweithiau eraill lle mae’r rheolaeth honno wedi cael ei dynnu oddi wrth y dechreuwr.

Ym mhob gwaith mae’r dadansoddiad hwn o naratif yn caniatáu rhyddid nad oedd yn bodoli yn y strwythurau gwreiddiol. Gallwn adeiladu ein naratifau ein hunain ar y symlrwydd hwn neu gallwn eu derbyn fel ag y maent ac ymlacio ein dyhead i lenwi'r gwagleoedd a’r bylchau.

This show was selected by
  • Michael Cousin
  • pdf iconDownload PDF
    • From <i>Situation Shot</i> 2009
    • From <i>Situation Shot</i> 2009
    • <i>The London Paper</i> 2009

    Programme