Finding Aarti

Radha Patel, Finding Aarti, (Still) 2020
Radha Patel, Finding Aarti, (Still) 2020

‘‘pan fydd unigolyn yn diflannu, bydd yn gadael gwacter bach – sydd heb fod yn fwy na dwywaith ei faint ei hun– er mwyn i bawb ymgynnull a galaru'n fewnol'

Mae Radha Patel yn awdures ac yn artist ac mae ei gwaith yn pontio gwladychiaeth, natur, crefydd a'r dyfodol. Yn dilyn ei thestun 'notes from aarti's diary', a ddatblygodd yn ystod ei chyfnod ar raglen g39 UNITe (2019), mae'n adrodd stori menyw ifanc sy'n mynd i'r gofod er mwyn chwilio am ei chwaer sydd ar goll...ar ôl i nam trydanol achosi iddi gael ei dal mewn llong ofod, a wnaeth ei hanfon hi i fyw ar y blaned Kelvin.



Dros y ddau fis diwethaf, mae wedi cynnal trafodaethau gyda Simisolaoluwa Akande (Ojumo Ti Mo) a Tina Pasotra (But Where Are You Really From? / I Choose) – dau artist / gwneuthurwr ffilm anhygoel sydd wedi archwilio galar, teithiau, asiantaethau menywod a pherthynas teuluol, ymysg themâu amrywiol eraill yn eu gwaith. Ochr yn ochr â'r sgyrsiau hyn, mae Radha wedi dwyn ysbrydoliaeth o 'Fatima's Letter' gan Alia Syed, er mwyn creu delwedd symudol sy'n gweld y prif gymeriad yn teithio trwy'r alaeth, yn archwilio hud cywrain y planedau gwahanol ac yn trosglwyddo popeth yn ôl i’w mam ar y Ddaear.

Mewn cyfres o lythyrau - a ysgrifennwyd ar dri phlaned gwahanol - mae 'Finding Aarti' yn archwilio'r berthynas rhwng mamau a merched, y Ddaear a phlanedau eraill er mwyn creu deialog sy'n ystyried cymodi, maddeuant ac yn anad dim y chwilfrydedd sy'n ceisio darparu'r ateb ynghylch yr hyn mae'n ei olygu i fyw ar y Ddaear...neu'n eich arwain chi at eich casgliad eich hun o leiaf.

    Bu’r artistiaid canlynol yn rhan o arddangosfa:
  • Radha Patel
  • Radha Patel, Finding Aarti, (Still) 2020
  • Radha Patel, Finding Aarti, (Still) 2020
  • Radha Patel, Finding Aarti, (Still) 2020
  • Radha Patel, Finding Aarti, (Still) 2020
  • Radha Patel, Finding Aarti, (Still) 2020
  • Radha Patel, Finding Aarti, (Still) 2020

Programme