Gwobr Ffilm Jarman Llundain 2020

preview 14 October 2020

Andrea Luka Zimmerman `Civil Rites` (2017), film still
Andrea Luka Zimmerman `Civil Rites` (2017), film still

Sori - Fe wnaethoch chi golli'r ffilmiau Jarman ar wefan g39. Bydd y dangosiad ar-lein nesaf yn cael ei gynnal yn Nottingham Contemporary ddydd Iau 22ain Hydref, gyda sgwrs gan Jenn Nkiru.



Mwynhewch waith ar sgrin gan yr artistiaid a oedd wedi'u cynnwys ar restr fer Gwobr Jarman Film London eleni. Bydd Michelle Williams Gamaker, Jenn Nkiru, Hannah Quinlan and Rosie Hastings, Project Art Works, Larissa Sansour, Andrea Luka Zimmerman yn cyflwyno ffilmiau arloesol, difyr ac amrywiol sy'n mynd i'r afael â phynciau mawr y byd.

Darganfyddwch yr amrywiaeth anhygoel o ddulliau creu ffilmiau gan artistiaid yn y DU, gyda chyflwyniad o'r gwaith ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Jarman Film London eleni, sy’n cynnwys gwobr ariannol o £10,000. Fel rhan o'r dangosiad arbennig ar-lein hwn ar gyfer 2020, bydd y chwe artist yn cyflwyno ffilmiau dyfeisgar, llawn dychymyg lle gallwch ymgolli'ch hun yn llwyr, gyda phob un yn rhoi sylw i bynciau pwysig yn ein cymdeithas heddiw.

Mae'r artistiaid ar y rhestr fer eleni'n cynnwys: Michelle Williams Gamaker, Hannah Quinlan a Rosie Hastings, Jenn Nkiru, Project Art Works, Larissa Sansour ac Andrea Luka Zimmerman. Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb gydag un o'r unigolion ar y rhestr fer ar gael ar-lein hefyd fel rhan o'r cyflwyniad.

Mae'r wobr wedi'i hysbrydoli gan y gwneuthurwr ffilmiau llawn gweledigaeth o Brydain, Derek Jarman, ac yn cydnabod a chefnogi artistiaid sy’n gweithio gyda'r ddelwedd symudol. Mae'r artistiaid ar y rhestr fer yn dangos natur ddyfeisgar y ddelwedd symudol, trwy amlygu’r creadigrwydd a’r grefft sydd ynghlwm â’r cyfrwng, yn ogystal â'i allu pwerus i gynnwys a phryfocio cynulleidfaoedd.

Bydd enw enillydd Gwobr Jarman Film London yn cael ei gyhoeddi ar 24 Tachwedd. Cyflwynir y wobr mewn partneriaeth âWhitechapel Gallery, gyda chefnogaeth Genesis Cinema.
Cynhelir y daith o 24 Medi hyd at 27 Tachwedd trwy bartneriaethau ar-lein gyda saith lleoliad ledled y DU, gyda seremoni wobrwyo arbennig ar-lein.

@FL_FLAMIN
#GwobrJarman


Michelle Williams Gamaker
House of Women (2017) 14’17”

Mae Michelle Williams Gamaker yn gweithio gyda delweddau symudol, perfformiad a gosodiadau. Mae ei hymarfer yn aml yn gysylltiedig â hanes ffilm, yn enwedig ffilmiau Hollywood a'r stiwdio Brydeinig. Trwy ail-lwyfannu golygfeydd i ddangos eu gwreiddiau gwleidyddol, imperialaidd problemus; mae ei gwaith yn ffurf ar 'actifiaeth ffuglennol' trwy ail-gastio cymeriadau a gafodd eu chwarae'n wreiddiol gan actorion gwyn gyda phobl groenliw. Mae'n cyfuno ysgrifennu sgriptiau, cynnal gweithdai gydag actorion, ailedrych ar effeithiau gweledol analog a chynhyrchu propiau i greu ffilmiau wedi'u llwyfannu’n gywrain.

Michelle Williams Gamaker, House of Women (2017) 14’17”
Mae House of Women yn ailedrych ar y clyweliad ar gyfer y cymeriad Kanchi, y ddawnswraig fud o India yn y ffilm Black Narcissus gan Michael Powell ac Emeric Pressburger yn 1947. Jean Simmons gafodd y rôl dra chwenychedig (yn enwog am chwarae Estella yn Great Expectations ym 1946). Er mwyn chwarae'r 'demtwraig egsotig' o nofel Rumer Godden o'r un enw, mae'r actor o Loegr yn cymryd rhan mewn techneg colur hiliol; yn gwisgo colur Panstick tywyll a gem yn ei thrwyn.

Wedi'i saethu ar ffilm 16mm, mae'r pedair sy'n cael eu cyfweld yn dod wyneb yn wyneb â thrais cynhenid y broses; wrth drafod hanes ffotograffiaeth, gwladychiaeth a hil, gwleidyddiaeth dosbarth a rhywedd gyda darllenydd anhysbys sy'n cwestiynu eu cymhelliad dros ymgeisio am y rôl. Trwy gyfweld â merched alltud o'r India neu ferched Asiaidd Brydeinig o'r genhedlaeth gyntaf ac unigolion anneuaidd yn unig, mae Williams Gamaker yn ail-gastio Kanachi ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a’r tro hwn, ac yn gwbl hanfodol, mae’n siarad.



Hannah Quinlan and Rosie Hastings
In my Room (2020) 17’44”

Mae Hannah Quinlan a Rosie Hastings yn ddeuawd artistig sy'n gweithio yn y byd ffilm, darlunio, gosodiadau a pherfformiad. Mae eu gwaith yn archwilio ymddygiadau, hanes, gwleidyddiaeth ac arteffactau o'r diwylliant LGBTQ yn y cyd-destun gorllewinol, gan ystyried sut y mae’r diwylliant hwn yn adlewyrchiad o strwythurau cymdeithasol ehangach. Mae eu hymarfer cydweithredol yn defnyddio ffilm fel dogfen ac ymchwil ar un llaw, a phrofiad sinematig ar y llaw arall, gyda defnydd arbenigol o sain, lliw a gwaith camera.
Hannah Quinlan and Rosie Hastings, In my Room (2020) 17’44”
Mae In My Room yn waith celf delwedd symudol newydd gan yr artistiaid Hannah Quinlan a Rosie Hastings. Saethwyd y ffilm yn bennaf ym mhentref hoyw Birmingham, ardal a oedd ar un adeg yn llawn lleoliadau dynion yn unig sydd bellach yn cael ei hadnewyddu’n gyflym er mwyn paratoi ar gyfer HS2, rheilffordd gyflym iawn sy'n cysylltu Birmingham a Llundain. Mae'r ddau leoliad sy'n ymddangos yn y ffilm: Bar Jester a'r Core club wedi’u cau bellach.

Gyda thrac sain newydd wedi'i gyfansoddi gan Owen Pratt, mae'r ffilm yn cynnwys cyfres o berfformiadau gan y coreograffwr Les Child. Mae In My Room yn edrych yn feirniadol ar leoliadau cymdeithasol a rhywiol dynion yn unig, gan ystyried y weithred o ryw rhwng dynion mewn man cyhoeddus fel plethwaith o rym ac adeiladu'r byd, gan gwestiynu, pwy sy'n gallu cymryd risgiau? Pwy sydd ag annibyniaeth dros ei bleser ei hun? Sut i fod yn weladwy heb gael eich camddefnyddio? Sut i hawlio gofod cyhoeddus?

Wrth i’r weithred o gau lleoliadau hoyw gyflwyno heriau newydd i ddiwylliant dynion hoyw, nod y ffilm yw gweithredu fel pryfociad a dogfen am ddiwylliant LGBTQ yn ystod cyfnod o helynt gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol.



Project Art Works
Illuminating the Wilderness (2019), 38’

Mae cydweithrediadau, prosiectau, digwyddiadau a gweithrediadau stiwdio Project Art Works yn herio'r diffiniadau o ofal yn ein cymdeithas, bwriad creadigol, gwerth, cyfathrebu a hunaniaeth. Mae eu rhaglenni'n esblygu trwy ymarfer mewn stiwdio ac yn ymestyn i'r sectorau gofal a diwylliannol. Mae eu gwaith yn weladwy trwy brosiectau, cydweithrediadau, arddangosfeydd, cyd-gomisiynau, ffilmiau, cyhoeddiadau a llwyfannau digidol, gan gynyddu cynrychiolaeth niwroamrywiol yn eu rhaglenni, a dyfnhau dealltwriaeth ac amlygrwydd.

Maent yn ail-greu amgylcheddau stiwdio cyfannol a phersonol ar gyfer pob prosiect. Mae'r stiwdio yn rhywle lle ceir hierarchaeth hafal lle mae digwyddiadau yn datblygu ac yn datgelu profiad a rhinweddau'r holl unigolion sy'n ymwneud â'r darn. Mae artistiaid a gwneuthurwyr yn gweithio gyda'i gilydd mewn cydweithrediad pwrpasol gan ddefnyddio dull cyfathrebu cyflawn sy'n defnyddio ystum, sain, arwyddo ac empathi ac felly'n ffurf ar gysylltiad sy’n ehangu yn hytrach na’n lleihau.
Project Art Works, Illuminating the Wilderness (2019), 38’
Mae Project Art Works yn gymysgedd o artistiaid a gwneuthurwyr gweledol. Maent yn gweithio tuag at gynrychiolaeth ehangach o'r niwroamrywiaeth o fewn diwylliant a gofal. Mae eu cynyrchiadau, cydweithrediadau, prosiectau a gweithredoedd stiwdio yn herio'r diffiniadau o ofal, bwriad creadigol, gwerth, cyfathrebu a hunaniaeth yn y gymdeithas.

Mae Illuminating the Wilderness yn ffilm gan Project Art Works wedi'i chyfarwyddo gan yr artistiaid Kate Adams a Tim Corrigan ac wedi'i saethu ar y cyd â Ben Rivers, Margaret Salmon a Gabrielle Rapisarda. Mae'r ffilm yn dilyn chwech o artistiaid a gwneuthurwyr niwroamrywiol, a’u teuluoedd neu dimau cymorth wrth iddynt dreulio ychydig ddyddiau’n archwilio glyn Albanaidd anghysbell a phleserau a heriau’r dirwedd a systemau tywydd y mynyddoedd.

Wedi'i saethu o safbwyntiau lluosog a chan ddefnyddio camerâu amrywiol (rhai wedi'u gosod ar y corff), mae’r ffilm heb sgript yn datgelu llif cynnil y rolau a'r rhyngweithredu rhwng y gymuned unigryw a chrwydrol hon ymhell i ffwrdd o’r rhwystrau ymarferol, agweddol a chymdeithasol y maent yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd. Mae eiliadau o hiwmor ac ystyriaeth dyner at ei gilydd yn cael eu datgelu wrth iddynt archwilio rhannau gwahanol y glyn. Mae natur anghysbell, maint ac amhwysigrwydd y dirwedd yn rhoi ymdeimlad prin o ryddid a pherthyn i bawb dan sylw.



Jenn Nkiru
BLACK TO TECHNO (2019) 20’

Mae Jenn Nkiru yn artist ac yn wneuthurwr ffilmiau. Gan edrych drwy lens swrrealaidd-Affricanaidd, mae ei hymarfer yn seiliedig ar hanes cerddoriaeth ddu ac estheteg ffilmiau arbrofol a sinema gelfyddydol ryngwladol. Mae ei gwaith yn rhoi sylw i fudiad y celfyddydau du a thraddodiadau cyfoethog, amrywiol sinemâu'r alltudion duon a'u harbrofi gwahanol gyda gwleidyddiaeth ffurf. Mae ei gwaith yn cyfuno elfennau o hanes, hunaniaeth, gwleidyddiaeth, cerddoriaeth, dogfen a dawns.

Jenn Nkiru, BLACK TO TECHNO (2019) 20’
Wedi’i ddisgrifio gan Nkiru fel 'darganfyddiad creiriol tebygol o batrymau gwylio teledu mynediad cyhoeddus gan drigolyn o Detroit sy'n creu cytser Techno,' mae BLACK TO TECHNO, trwy ludwaith o naratifau croestoriadol sy’n gyfoethog ac amrywiol yn weledol, fframweithiau cysyniadol, cyfeiriadau archifol a delweddau gwreiddiol, yn cadarnhau Techno, nid yn unig fel ystum cerddorol ond fel un athronyddol, sonig ac anthropolegol; model ar gyfer trechu estroniaethu, dileu gwrthwynebiadau: rhwng yr unigolyn a'r dulliau cynhyrchu, y corff a'r arf, yr enaid a’r peiriant. Nid yw BLACK TO TECHNO yn stori syml am ddechreuad Techno, ond yn hytrach, yn ôl Nkiru, yn archeoleg gosmig sy'n archwilio ac yn cloddio'n ddwfn i'r haenau o fewn y sain unigryw hon; hynodrwydd pobl, egni, diwydiannaeth, daearyddiaeth, gwleidyddiaeth; cyflymiad y mudiad du a chrybwylliadau dyfodolaeth Affricanaidd o gyfnod penodol; a’r cyfan yn dod ynghyd, i greu sain arall a grëwyd gan grwpiau o bobl eraill. Yn cynnwys cameos o'r byd Techno, Hip-Hop, Funk, Soul, Detroit a Berlin, mae hon yn ffurf artistig unigryw ac argraffiadol ar High Tech Soul: Techno - sain ddyfodolaidd sy'n dod o fewn etifeddiaeth cerddoriaeth ddu na chaiff ei dathlu’n aml yn y fath fodd.



Larissa Sansour
In Vitro (2019) 28’

Prif gyfrwng Larissa Sansour yw ffilm ond mae hefyd yn cynhyrchu gosodiadau, ffotograffiaeth a cherfluniau. Y trafodaethau rhwng chwedl a'r naratif hanesyddol sy'n ganolog i'w gwaith. Wedi'i geni yn Nwyrain Jerwsalem, Palestina, mae ei gwaith diweddaraf yn defnyddio ffuglen wyddonol i fynd i'r afael â materion cymdeithasol a gwleidyddol.

Larissa Sansour, In Vitro (2019) 28’
Mae In Vitro yn ffilm ffuglen wyddonol dwy-sianel, ddu a gwyn sy’n dilyn eco-drychineb. Mae adweithydd niwclear gwag o dan dref Feiblaidd Bethlehem wedi'i drawsnewid yn berllan enfawr. Gan ddefnyddio hadau etifeddol a gasglwyd yn y dyddiau olaf cyn yr apocalyps, mae grŵp o wyddonwyr yn ceisio ail-blannu'r tir uwchben.

O fewn yr ysbyty yn y safle tanddaearol, mae sylfaenydd gwael y berllan, Alia sy'n 70 oed, wedi'i phortreadu gan Hiam Abbass, ar ei gwely angau, wrth i Alia sy'n 30 oed, wedi'i phortreadu gan Maisa Abd Elhadi, ddod i ymweld â hi. Cafodd Alia ei geni o dan y ddaear fel rhan o raglen glonio gynhwysfawr ac nid yw erioed wedi gweld y dref y mae wedi’i thynghedu i’w hail-adeiladu.

Mae'r sgwrs rhwng y ddau wyddonydd yn datblygu’n ddeialog bersonol am gofio, alltudiaeth a hel atgofion. Mae'r berthynas gywrain rhwng y gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn ganolog i'w sgwrs, gyda Bethlehem yn darparu cefndir syfrdanol sy'n draethiadol, yn wleidyddol ac yn llawn symbolau.



Andrea Luka Zimmerman
Civil Rites (2017) 28’

Mae Andrea Luka Zimmerman yn artist, gwneuthurwr ffilmiau ac yn ymgyrchydd diwylliannol y mae ei gwaith yn canolbwyntio ar unigolion, cymunedau a phrofiadau ymylol. Mae'n defnyddio cymysgrywiaeth llawn dychymyg a dulliau ail-fframio naratif, ochr yn ochr â synfyfyrdod a phenderfynoldeb deallus. Mae eu dulliau creadigol yn cynnwys arsylwi hirdymor, ymyrraeth, ail-gyflwyno a'r defnydd o ddeunyddiau darganfyddiedig / archif, sy’n seiliedig ar anrhydeddu'r gwirioneddau byw. Yn effro i ffynonellau o obaith radicalaidd, mae'r gwaith hwn yn blaenoriaethu cydfodolaeth deg a pharhaol.

Andrea Luka Zimmerman, Civil Rites (2017) 28’
'Cerdd-cine' yw Civil Rites, gydag araith Martin Luther King ym 1967 fel man cychwyn, a gyflwynwyd ar ôl derbyn ei ddoethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Newcastle. Mae'n archwilio'r ffordd y mae themâu craidd tlodi, hiliaeth a rhyfel yn parhau i fwrw cysgod dros ein bywydau. Mae'r teitl yn archwilio’r berthynas sonig rhwng 'hawliau' yn yr ystyr sifil a chymdeithasol, a'r defodau sy'n llywio’n hymddygiad. Mae'r ffilm yn gwrando ar leisiau o fewn mwy na dau ddwsin o gyfweliadau a gynhaliwyd gyda thrigolion hŷn a thrigolion newydd, gyda chartrefi a heb gartrefi, trefnwyr yn y gymuned, pobl oedd yn mynd heibio, addysgwyr ac eraill wrth iddynt feddwl am eu hatebion i'r themâu hyn. Mae'r ffilm yn cysylltu’r lleisiau o fewn y ddeialog gydag ardaloedd o wrthwynebiad allweddol ar draws Tyneside ac ar draws y canrifoedd. Mae'n ceisio dysgu beth sydd wedi newid (neu beidio) ym mywydau pobl Newcastle heddiw.

    • Jenn Nkiru Still of `BLACK TO TECHNO` 2019 ©JENN NKIRU
    • Michelle Williams Gamaker `House of Women`, 2017
    • Hannah Quinlan and Rosie Hastings Still from `In my Room` (2020), HD Video, 1744
    • Andrea Luka Zimmerman `Civil Rites` (2017), film still
    • `In Vitro`, two-channel film, 28’, Larissa Sansour and Søren Lind, 2019
    • Jarman Award 2020

    Programme