Anti-Nature, Tim Freeman 2009
Continuing a season of exhibitions investigating parallels between art and cinema, g39 presents a new group exhibition inspired by the film Short Cuts (1993). Directed by Robert Altman and drawn from nine short stories and a poem by Raymond Carver, the film traces the actions of twenty-two principal characters, both in parallel and at occasional loose points of connection.
Gan barhau â thymor o arddangosfeydd sy'n archwilio'r paralelau rhwng celf a sinema, mae g39 yn cyflwyno arddangosfa grŵp newydd a ysbrydolwyd gan y ffilm Short Cuts (1993). Wedi'i chyfarwyddo gan Robert Altman, ac yn seiliedig ar naw stori fer a darn o farddoniaeth gan Raymond Carver, mae'r ffilm yn mynd ar drywydd hanes 22 o brif gymeriadau, yn gyfochrog ac ar wahân ar brydiau.
Nid yw Short Cuts yn cydymffurfio â sinema Hollywood naratif traddodiadol. Ceir naratif, yn sicr, ond mae'r ffordd y mae'r naratif yn gweithredu ynddi ymhell o ddilyn arddull glasurol Hollywood. Mae'r ffilm yn cynnwys fframwaith aflinol, deinamig a chyfnewidiadwy o straeon.
Mae'r sioe hon yn dod â gwaith gan
Tim Freeman, Henry Gwiazda, Rick Niebe a
Lisa Stansbie at ei gilydd, sydd oll yn cynnig eu hyperdestun eu hunain ar amrywiaeth o naratifau. Fel y ffilm, mae'r gwaith a ddangosir yma yn cynnig themâu a ffuglen paralel o fewn pob darn o waith, yn dibynnu ar ddehongliad y gwyliwr.
Mae Lisa Stansbie yn parhau i archwilio cerfluniau, ffilm a ffotograffiaeth drwy ddefnyddio citiau model Airfix, sy'n cael eu llywio gan naratifau a straeon amwys. Drwy ddefnyddio stoc o ffilmiau analog, hen ffasiwn, a'u trin yn ddigidol, mae
Anti Nature Tim Freeman, sy'n gweithio yng Nghymru, yn defnyddio delweddau ffotograffig heb eu trin ochr yn ochr â rhai mae wedi'u trin, gan godi cwestiynau ynghylch elfennau ffeithiol a ffug ffotograffiaeth. Mae Rick Niebe yn canolbwyntio ar ddelweddau dienw cyffredin yn ogystal ag ar ddarnau o hanes sinematograffig tra bo Henry Gwiazda yn defnyddio delwedd symudol CGI a ysbrydolwyd gan ei arfer cyfansoddi sain, gan geisio drysu'r gwyliwr tra'n chwarae gem rhwng y cof a ffurfio ystyron newydd.
Mae pob darn o waith yn herio'r cysyniad o amser llinol yn yr un ffordd ag y mae Short Cuts yn cyflwyno naratif o gysylltiadau sydd bron yn anhrefnus.