The grand finale of the g39 project...
Ar ôl 12 mlynedd yn y tŷ tref tri llawr, mae g39 fel y mae ar hyn o bryd yn dod i ben. Mae'n rhaid i'r sefydliad ddod o hyd i leoliad newydd a bydd y gofod yn cael ei roi yn ôl. Er mwyn nodi’r achlysur, rydym wedi gwahodd casgliad o artistiaid i gyfrannu at
arddangosfa fawreddog derfynol. Maent wedi creu gwaith sy'n nodi diwedd defnydd yr adeilad fel man diwylliannol a chanolfan ar gyfer datblygiad artistig yng Nghymru.
Yn ystod y deuddeg mlynedd diwethaf, gwnaed gwaith adfer sylweddol i’r adeilad a gwnaed addasiadau dros dro er mwyn arddangos gwaith artistiaid. Crëwyd a dymchwelwyd waliau a fframiau drysau, crëwyd tyllau yn y nenfwd ac yn y lloriau, ac mae ffenestri wedi diflannu ac wedi ailymddangos. Mae'r addasiadau hyn y cael eu dadwneud yn llwyr wrth i ni baratoi i adael. Mae'r gofod nôl i'w stad noeth, ddiaddurn.
Dyma'r amgylchedd y gwahoddwyd yr artistiaid i weithio gydag ef, ac maent yn ymateb i'r adeilad hwn gyda gweithred ystyriol sy'n nodi eu hamser yma. Trwy gydol y cyfnod hwn byddant yn cyfrannu at gasgliad o waith a syniadau, ac yn goron ar y cyfan cynhelir digwyddiad terfynol drwy gydol y dydd a'r nos ar 2il Gorffennaf 2011, y noson cyn pen-blwydd yr oriel yn dair ar ddeg oed.
Bydd y digwyddiad arbennig hwn yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ac artistiaid fel ei gilydd ddweud eu dweud a ffarwelio â’r adeilad unwaith ac am byth .
Cyn i'r oriel agor am 2.30pm, fe wnaeth Kathryn Ashill fendithio'r gofod gyda pherfformiad In Honour of Polly Garter. Gan gyfeirio at y cymeriad o Under Milk Wood, fe wnaeth Kathryn sgwrio carreg y drws wrth baratoi ar gyfer y mynediad olaf i'r adeilad. Mae Mark Houghton wedi ymbalfalu drwy’r adeilad i greu casgliadau gan ddefnyddio malurion gadawedig a’u gosod ar hyd y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, olion oriel a
fodolai. Mae cadachau, dolenni a bagiau bin i gyd yn ddeunydd posibl i’w waith, maent i gyd yn mynegi ffurfioldeb hamddenol. Mae'r hyn a oedd unwaith yn olau cwpwrdd cudd wedi blaguro i greu cylched o diwbiau fflworoleuol fflachiog; mae pentwr o fframiau posteri angof bellach yn strwythur sigledig, urddasol.
Mae stensil siandelïer a phaentiadau faux-naïve 'diolch' tawel ac octopws gan Gordon Dalton, wedi'u fframio gan oleuadau Mark ar y wal gefn. Mae'r octopws yn adlewyrchu'r ffordd mae artistiaid yn gweithio er mwyn goroesi: bys ym mhopeth, yn jyglo ymrwymiadau, a g39 fel ymennydd canolog gyda breichiau ymestynnol. Ac yn yseler, mae porth bwaog wedi'i gau gan friciau yn arwain at gamlas ddiflanedig Lôn y
Felin, yn ysbrydoliaeth ar gyfer gosodiad uchelgeisiol Tiff Oben a Helene Roberts. Mae llifogydd dŵr tywyll yn y seler. Mae ffilm yn dangos corneli pell a chudd yr adeilad wedi’i
thaflunio ar yr wyneb.
Yn y cornel mae yna ddau rif cardfwrdd, '3' a '9' (neu 'g'?). Nid cerfluniau mo'r rhain ond gwisgoedd ar gyfer darn gan Ben Owen sy’n cynnwys Matthew Lovett. Bu’r ddau’n perfformio sioe gerdd mewn gwahanol ystafelloedd yn yr adeilad, sydd bellach yn cael ei harddangos ar lawr cyntaf gofod y prosiect. Drwy'r adeilad, ceir atgofion Emma Geliot wedi'u labelu ar bob arwyneb. Yn y lle hwn ceir dyddiadur cynhwysfawr o'i phrofiadau a'r adegau a dreuliodd yn yr adeilad ers 1998.
Mae gwaith Huw Andrews yn hongian uwchben y ddesg flaen. Un prynhawn glawog pan ddaeth i oruchwylio’r oriel, penderfynwyd bod ei ymbarél toredig bellach yn ddiwerth. Erbyn hyn, mae’r gwrthrych adfywiedig yn hongian uwchben y ddesg fel cleddyf Damocles. I fyny'r grisiau mae darn o bapur anarferol o fawr yn hongian ar y llawr cyntaf, sy'n stribed o bapur tywod mewn gwirionedd. Mae Huw wedi cymryd samplau paent o fannau nodweddiadol yn yr adeilad a'u defnyddio i barhau i ddangos
noethni'r adeilad. Mae gwaith Huw yn parhau ar wal bellaf y llawr canol, lle mae wedi gwahodd pob artist a chynorthwy-ydd yr Oes Newydd i nodi eu taldra ar bostyn y drws.
Mae Richard Powell yn cynnig ateb calonnog i Dilema’r Dalek. Arferai grymoedd gorchfygol y grym mecanyddol gael eu cyfyngu i arwynebau gwastad ac nid oedd yn bosibl iddynt ddelio â grisiau. Caiff y datrysiad chwareus, dros dro hwn i broblem hirsefydlog yr adeilad o ran mynediad, ei arddangos mewn cyflwr datgymaledig. Wrth
ochr y ramp ceir cerdyn sigarét lled-guddiedig gan Michael Cousin, bywgraffiad bocsiwr ffuglennol g39 a oedd fwyaf adnabyddus am fod yn fwy llwyddiannus na’r disgwyl.
O amgylch y llawr cyntaf mae edafedd cotwm coch yn llifo o'r canol ac wedi'u pinio o amgylch yr ystafell. Math o fap gan Holly Davey yw hwn sy'n nodi'r pellter mae'r artistiaid wedi teithio o amgylch y byd er mwyn cyrraedd g39. Mae'r edafedd yn ein cysylltu â lleoedd mor bell â Melbourne a Mumbai. Ac yn y gegin, mae motiff yr edafedd coch yn parhau, wedi'i frodio ar liain sychu llestri i greu'r geiriau 'Rydym oll yn rhan o hwn', sy’n deyrnged addas iawn.
Drwy gydol yr adeilad mae Richard Bevan wedi cyfleu gwahanol fath o wybodaeth. Drwy restr o ddyddiadau a lleoliadau nodedig, mae wedi gosod dangosyddion trionglog drwy’r adeilad. Drwy eu gosod dros linell amser a mapiau daearyddol o’r ddinas mae Richard wedi creu patrwm sy’n unigryw i’r adeilad ac atgofion y staff sydd wedi gweithio yno ers cyhyd.
Yn yr ystafelloedd ar y llawr cyntaf a’r ail lawr mae gwaith Kevin Hunt yn adlewyrchu gwaith Houghton wrth iddo ail-ddefnyddio deunyddiau sydd fel arfer yn cael eu hanwybyddu. Caiff y gwydrau gwirodydd, ffyn, breichledi lliwgar ac arwyddion finyl i gyd fywyd newydd. Ac yn y drws rhwng dwy ystafell ceir Portal, ymateb Kevin i'r safle, lle mae wedi llosgi pren noeth ffrâm y drws a'r llawr. Mae’n dynodi’r trothwy mewn dull ffyrnig, dan reolaeth, arwydd o symud o’r hen oes i’r oes newydd. Gyferbyn â’r ystafell mae Ifor Davies wedi bod yn cydweithio â dylunydd set theatraidd i greu sgwrs o dan y grisiau, a welir drwy fwa prosceniwm asglodfwrdd. Nid oes perfformwyr ar y llwyfan bychan ond mae eu lleisiau i'w clywed wedi’u hymdrochi mewn golau melyn.
Yn yr ystafell prosiect, mae poster a wnaed â llaw gan Thomas Goddard yn trawsnewid staff g39 yn chwyldroadwyr Rwsiaidd. Fe’i crëwyd fel rhan o gyfres barhaus sy’n archwilio hanesion a (gam)gofiwyd, rhoddir rôl allweddol i staff g39 i’w chwarae wrth ffurfio’u hoes. A gyferbyn ar sil y ffenestr ceir Concrete (ice) cubes gan Jonathan Anderson. Ynghyd â hyn ceir gwaith Sam Hasler tudalen o bapur newydd sydd wedi'i gorchuddio bron yn llwyr gan binnau bawd arian. Ac yn ei rôl fel un o artistiaid preswyl WARP , mae Sam wedi cydweithio â Cinzia Mutigli i greu Taflen Gyngor i artistiaid, gan gynnig syniadau wrth artistiaid a phartneriaid g39. Mae gwaith sain That said gan Cinzia yn sylw haniaethol a chadarnhaol, sylw i gydbwyso teimlad lliain sychu llestri Holly sydd gerllaw.
Mae’r cerflun In between gan Simon Fenoulhet yn ymwthio drwy’r nenfwd. Mae cadair a ganfuwyd wedi cael ei suddo i’r lloriau uchaf, drwy’r estyll, y plastr a’r distiau er mwyn iddi ymddangos ar y llawr canol. Mae’n adlewyrchu Out of body, darn a wnaeth Simon ar gyfer g39 yn 1999, pan greodd gadair gan ddefnyddio plygiau addasu trydanol, a ymwthiwyd i soced a osodwyd yn arbennig ar y llawr gwaelod.
Ochr yn ochr â Simon ar y llawr uchaf mae Elfyn Lewis sydd wedi bod yn gweithio ar dri phaentiad newydd. Mae'r paentiadau hyn ond wedi gadael olion eu gweithredoedd fel fframiau. Mae'n ffordd addas o ymadael â'r adeilad. Ac ar ffrâm y ffenestr a’r ffenestr
fae mae Iwan Bala wedi creu darn totemig sy’n cynnig nifer o esboniadau o ddatganiad Sion Cent ‘Ystad bardd astudio byd’. Mae Disco Toilet (After Tether) Chris Brown yn rhoi bywyd newydd i dŷ bach yr adeilad, gan ei drawsnewid o’i ffurf arferol i mewn i noddfa parti o’r 70au. Mae’r ymyrraeth hon yn deyrnged i Stiwdios Tether, yn Swydd Nottingham. Mae ffotograffau Anthony Shapland yn uno dau begwn yr oes ynghyd, y ddau yn ymyrraeth hanesyddol o’r adeilad ddoe a heddiw ac yn hunanbortread. Trwy gydol yr adeilad mae’r peli chwyn yn crwydro wrth lanhau, fel morwyn nomadaidd awtomataidd y peithdir. Ac yn deyrnged derfynol i'r adeilad, bydd Anthony yn troi arwydd yr oriel ar y drws tu chwith am 6.25pm i nodi bod yr oriel ar gau. Mae g39 yn swyddogol ar gau!