Innocence and despair

29 Medi - 3 Hydref 2007

Marko Mäetamm, Bleeding House
Marko Mäetamm, Bleeding House

Daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer y sioe hon o ffilm Claire Denis Trouble Every Day, a daw'r trac sain o'r un enw gan Tindersticks; mae'r albwm Sharpen Your Teeth gan Ugly Casanova, yn is-brosiect unwaith yn unig gan Isaac Brock o Modest Mouse; a set bocs Low, A Lifetime of Temporary Relief. Mae'r teitl yn dod o albwm Prosiect Cerdd Ysgol Langley.


Mae gwaith Holly Davey yn canolbwyntio ar berfformiadau ffotograffig byrfyfyr. Y camera yw ei chynulleidfa; y testun, hi ei hun a'r gofod y mae ynddo. Cymerir y delweddau gan ddefnyddio hunan-amserydd y camerâu, mae cyflymder y perfformiad yn dibynnu ar yr ystum a symudiad tuag at ac yn ôl o'r camera. Mae'r lleoliadau y mae Davey yn perfformio ynddynt yn lleoedd arferol, normal, fodd bynnag mae ei gweithgareddau'n ymddangos yn ddigwyddiad anhygoel, arallfydol. Mae hi'n ffurfio cymeriadau sy'n ymddangos yn drwsgl, heb gysylltiad â realiti, ac yn sâl mewn rhyw ffordd. Ceir ymrafael parhaus rhwng y cyhoeddus a'r preifat yn y gwaith a'i broses gynhyrchu, ac ymddengys fel bod Davey yn guddiedig yn llygaid pawb. Mae ei lluniau'n ei dal yng nghanol gweithgaredd, yng nghanol ystum, ond yn anesmwyth.

Mae'r llinell aneglur rhwng ffaith a ffuglen, digrifwch ac arswyd yng ngwaith Marko Mäetamm yn aflonyddu ar ein meddyliau. Mae ei gorff diweddar o waith yn seiliedig ar amgylchiadau real iawn ei ymdrech i oroesi fel artist ac aelod o deulu. Mae'r naratifau yn ei ffilmiau byr yn cael eu gwyrgamio i'r eithaf ac maent bron yn uffernol, os cânt eu cymryd gyda rhywfaint o ddigrifwch. Mae trais yn amlwg yn llawer o'i waith. Fodd bynnag, cymaint yw'r digrifwch tywyll plentynnaidd a ddefnyddir i fynd i'r afael ag ef ein bod yn tosturio wrtho a'i sefyllfa anobeithiol. Mae'r meddyliau cyfrinachol, catastroffig ac ofnus a ddinoethir hefyd yn peri teimladau o voyeuriaeth ddychrynllyd. Deuwn yn rhan o'r arswyd preifat, storïau gwaedlyd cudd a aned o rwystredigaeth, dychmygu ffantastigol o 'ffordd allan', datrysiad cryf, ac mae'r arswyd yn ein denu i mewn. Mae storïau tebyg o fannau, o sefyllfaoedd, o deuluoedd, o gartrefi eraill lle mae'r fath drais a ddychmygir wedi digwydd, ymhlyg ym mhaentiadau Mäetamm.

Mae Gaia Persico yn gwneud animeiddiadau arsylwadol o ffenestri ystafelloedd gwesty. Mae ei darluniadau o ddinasoedd yn gipluniau o seilwaith a blerdwf. Maent yn olygfeydd cryno, syml: mae ei delweddau'n llawn siapau ac amlinelliadau o adeiladau, ffyrdd, erialau teledu, grisiau, a fentiau; awgrymir presenoldeb bodau dynol yn hytrach na'u dangos. Mae animeiddiadau Persico yn dod â drama voyeuriaethol i'r llwyfannau metropolitan hyn drwy weithgareddau di-nod: mae drws yn agor, cysgodion yn chwarae dros lawr, mae lifft yn cyflymu i fyny adeilad, goleuadau'n fflachio i ffwrdd ac wedyn ymlaen eto. Mae'r gweithgareddau bach hyn yn torri ar draws ysbeidiau hir o dawelwch. Cawn ein hannog i lenwi'r bylchau, ysfa i wybod yr hyn nad yw'n wybodus, ond dim ond yr un symudiadau ailadroddus sy'n digwydd. Adlewyrchir unigrwydd Persico yn ei byd gwesty gan y diffyg gallu i gysylltu gyda'r hyn sy'n gorwedd y tu hwnt i'w ffenestr. Mae ei hymateb i leoliad yn peri dryswch. Gwyliwn gyda hi, wedi'i dala rhwng rhywbeth nad yw'n digwydd a'r disgwyliad y dangosir rhywbeth i’r gwrthwyneb inni.

Adeiledir 'Innocence and Despair' ar deimladau o unigrwydd, o golli cyswllt, o rwystredigaeth a diymadferthedd; y synnwyr creulon anochel o gylchdroi ailadroddus dyddiol; a'r ofn anobeithiol bod ein golwg ni yn ansicr, anghyflawn, wedi'i gwyrgamio nad yw'n cael ei rhannu gan neb arall. Mae unrhyw ddargyfeiriad o fodolaeth mor unig yn digwydd drwy ffantasi a dyfeisgarwch. Yn fynych mae angen gweld mewn ffordd wahanol, mewn ffordd greulon, hunanol, hyd yn oed efallai dychwelyd i amser pan oedden ni'n disgwyl llai, yn canolbwyntio ar oroesi, a'r angen i fynegi ymdrech mwy ffisegol i deimlo ein bodolaeth o fewn lleoliad. Rydym yn barod i fradychu ein diniweidrwydd mewn mentrau o'r fath beth bynnag; mae ein hymdrechion i greu inni ein hunain rywbeth yr oeddem yn hanner obeithio a allai ein dihoeni, ond yn cynnig rhyddhad preifat dros dro.

Am y curadur:
Mae Rob Lowe yn artist gweithgar ac mae hefyd yn gweithio fel rheolwr prosiect ar gyfer Safle. Aeth i'r brifysgol yng Nghaerhirfryn, Birmingham a Chaerlŷr, a threuliodd sawl blwyddyn fel prentis yn dysgu crefft arddangos mewn orielau yn Crescent Arts, gofod a redir gan artistiaid yn Scarborough. Mae wedi gweithio fel Swyddog Arddangos yn Oriel Davies Gallery, y Drenewydd, a Chynorthwyydd y Celfyddydau Gweledol yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Chapter, Caerdydd.

This show was curated by
  • Robert Lowe
    • Holly Davey, Nantes Subway #2 (2007)
    • Holly Davey, Fairoak Road Number 13 (2007)
    • Gaia Persico, Chicago (from World Animations series)
    • Marko Mäetamm, still from Family
    • Marko Mäetamm, still from Family
    • Marko Mäetamm, Bleeding House

    Programme