Gyda threigl amser, mi newidiwn yn gyson o un cyflwr i’r llall. Mae’r arddangosfa yma’n datguddio eiliadau’r cyrraedd, y profi a’r mynd heibio. O un anadl i’r llall, mae’r presennol yn toddi i’r gorffennol wrth i’r dyfodol doddi i’r presennol. Ond os yw’n cyrraedd yn annisgwyl, yn sydyn, heb esboniad, mae’r dyfodol yn ansicr, ansefydlog a brawychus.
Mi fydd yna gyfle i drafod yr arddangosfa; cysylltwch â’r oriel am fanylion.
Oriel dan arweiniad artistiaid yw g39. Cafodd ei sefydlu’n 1998. Mae’n gwneud gwaith arobryn wrth gefnogi artistiaid gweledol sy’n cymryd eu camau cyntaf ar hyd llwybr celf. Mae dros 25, 000 o ymwelwyr wedi edmygu gwaith 150 o artistiaid, hyd yn hyn. Mae yna raglen o arddangosfeydd yn yr oriel barhaol a’r llwyfanau dros-dro sy’n cynnwys unedau sipoau, adeiladau, byrddau hysbysebu a sgriniau gwybodaeth.
Mae rheolwyr g39 yn artistiaid sy’n cynhyrchu celf ar hyn o bryd. Rydym yn cydweithio’n agos gyda artistiaid, ceidwaid, awduron a sefydliadau celf eraill er mwyn creu a chynnal rhwydwaith cefnogi a chynrychioli. Mae g39 yn cynnig llwyfan i waith diddorol o Gymru a thu hwnt.
Mae g39 yn rhan hanfodol o’r sefyllfa gelf Gymreig; mae’n llwyfan annibynnol, hyblyg, arbrofol; mae’n wahanol; mae’n fyw.
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants