Mae Escapology yn cyflwyno gwaith tri artist sy’n archwilio syniadau o guddiad neu guddio fel modd o ddihangfa, naillai’n gorfforol neu’n feddyliol. Mae dihangfa yn llwybr o gyfyngiad i ryddid, ac mae hi wedi cael ei phoblogeiddio gan berfformiadau dramatig dihangwyr sy’n dal dychmygion cynulleidfaoedd enfawr led led y byd gyda’u gweithredoedd herio marwolaeth. Fodd bynnag , mae’r artistiaid cynwysedig yn archwilio diffiniad eangach o ddihangeg, gan gynnwys rhyddhau eich hunan o gynulleidfa, ac adleoli eich hunan o un lleoliad i’r llall.
Mae gwaith Eve Dent yn archwilio’r ffiniau rhwng y corff dynol a chorff safle. Crea delweddau ble mae rhannau o’i chorff neu’i holl gorff wedi ei fittio i mewn i ddefnydd ystafell, amgylchedd neu adeilad. Yn aml mae hi bron yn hollol cudd yn y corneli a’r gofodau mewn adeilad, y twll dan y llawr neu yn nghyrn y simnai, gyda dim ond rhan o’i chorff yn weledol, neu wedi’i gwasgu i mewn i dyllau neu fylchau tu fewn i’r strwythur materol, croen yn erbyn bricsen, ei hamlinellau corfforol yn erbyn geometreg yr adeilad. Mae hi’n ystyried y perthynas rhwng gweledigrwydd, presenoldeb a cholled trwy’r gweithredoedd yma o uniad a chroesiad y corff gyda’r amgylchedd adeiladol, â’i chorff fel sianel i fynegi bywyd barddol gofod.
Awgryma Grey Area Sofia Hulten ymgais enbydus o oroesiad cameleonaidd i symud ei hunan allan o’i hamgylchedd gweithiol, ble mae rhaid iddi aros oherwydd resymau ariannol, er y ffaith nad yw hi’n perthyn yno – profiad wedi’i rhannu gan lawer o weithwyr mewn swyddfeydd, mae’n siwr. Mae’r golygfeydd wedi’i llwyfannu yma yn atgofiannol o enghreifftiau o ddulliau dianc mewn gwerslyfrau. Mae’r ymgeisiadau i guddio’i hun yn cael amrywiol lwyddiant, ac, yn meddwl y cuddiedig, os nad yw hi’n gallu gweld ni, allwn ni ddim gweld hi.
Mae gwaith Cheri-Lee Birch yn delio â syniadau o deithio cudd a chuddiad, yn archwilio teimladau o unigrwydd ac anweledigrwydd mewn cymdeithas. Fe gaiff sefyllfaoedd cymhleth eu trefnu i alluogi yr artist i guddio a chludo ei hun o un lle i’r llall, ond y gofod mae hi’n archwilio yw y tu mewn o’r blwch neu’r paced sydd ynghlwm yn y broses. Mae hi newydd ddosbarthu ei hunan i arddangosfa mewn cist er mwyn recordio’r olygfa o’r gist i ddangos ar ben ei thaith.
Mae’r artistiaid yn Escapology yn gwyrdroi’r chwant i gael eu rhyddhau’n gorfforol o gyfyngiad ac yn archwilio ffyrdd eraill o ddianc. Maent yn dangos i ni y gall rhyddid dod o archwilio ein tirlun mewnol, a gall unigrwydd ar dermau eich hunain fod yn nwydd gwerthfawr.
Mae Escapology yn rhedeg o 15 fed Awst i 20 fed Medi
Mae g39 ar agor o 11-5:30 Dydd Mercher i Ddydd Sadwrn
Am fwy o wybodaeth ewch at ein gwefan: www.g39.org
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants