...sympathy

26 Ebrill - 17 Mai 2003

<b>Charles Damby</b>
Charles Damby

Mae g39 wedi agor ei drysau i groesawu naw o artistiaid newydd sy’n dod i’r amlwg yn y DU, y mae eu gwaith yn cyflwyno ymgais amwys a dewr i fynd i'r afael â'r themâu 'Mawr'. Mae eu paentiadau sy’n ymddangosiadol addfwyn, ffiguraidd ac adroddol, yn cael eu gosod wrth ochr cerfluniau anghonfensiynol a gwaith yn seiliedig ar wrthrychau mewn cymysgedd diddorol a sinistr, yn aml, o hiraeth a thywyllwch, diniweidrwydd a cholled.


Mae gwaith Gordon Dalton yn mynd i’r afael â methiant a chywilydd gyda breichiau agored. Mae gan ei greadigaethau sy’n edrych braidd yn pathetig, ochr ddoniol a melancolaidd, sy’n cynnwys syniadau gwan o obeithion, breuddwydion a dyheadau. Mae Dalton am i bopeth fod yn iawn, ond mae’n gwbl amlwg fod rhywbeth o’i le.

Mae Paul Becker yn archwilio themâu rhywioldeb a thrais. Mae'n defnyddio’r rhyngweithio rhwng bodau dynol ac anifeiliaid fel dyfais i ddwysau’r themâu hyn, gan eu gwneud yn faleisus ac yn dyner, hyd yn oed yn ddiniwed. Dyma hefyd yr effaith a geir gan dirweddau ymdeimladol Nadia Hebson, sy'n ymwneud â’r grotésg ,'harddwch ' ac ymdeimlad o emosiwn gorgynhyrfus, llethol. Sentimentaliaeth yw ei gwrthgyffur i farwolaeth.

Mae '... sympathy’ yn darparu noddfa ar gyfer y rhai sydd wedi tyfu i fyny heb y gallu i ddianc rhag eu hobsesiwn o greu modelau gyda’u cit adeiladu. Mae gwaith Neil Jeffries yn cynrychioli golygfeydd darniog o ymddygiad gwrth-arwrol y ddynolryw. Mae ei greadigaethau ad hoc sy’n defnyddio haenau o fetel, nytiau, bolltau a wasieri yn bethau o becynnau Meccano ers dyddiau plentyndod. Yn yr un modd, mae cerfluniau Elliot Dodd yn hyrwyddo golwg esthetaidd a wnaed â llaw ac yn creu modelau dibwrpas, anghymwys ond eto hynod. Mae gwaith Charles Danby hefyd yn defnyddio deunyddiau syml, cyffredin. Mae'n ymdrin â gwerthuso’r berthynas ofodol rhwng gwrthrychau trwy ffawd gymysg pop amrwd hudol a Povera digydymdeimlad. Mae Jack Duplock yn sefydlu perthynas annuwiol rhwng tynerwch ac arswyd. Mae'r ffilm aruchel hon yn ei dro yn atgas ac yn ddeniadol.

Mae tuedd yr arddangosfa i gynnwys hiraeth hefyd yn cynnwys ochr mwy diniwed hefyd. Mae gwaith Sophie Buxton yn defnyddio arlunio i ddehongli a lleoli digwyddiadau o'i chwmpas. Mae ei darluniadau o fynyddoedd yn ceisio adleoli rhywbeth sydd ymhell i ffwrdd ac sy’n ymddangos yn anghyraeddadwy. Mae'r broses o adleoli i’r papur yn digwydd ar unwaith, bron fel cyffwrdd y mynydd ar y papur. Mae paentiadau Annabel Dover yn cynnwys pethau sydd wedi darfod. Mae hi'n paentio un llun bob dydd, gan geisio cofnodi olion sydd yn prysur ddiflannu. Mae'r paentiadau’n cael eu cyflwyno fel pe baent yn perthyn i restr eiddo neu’n amgueddfa o arteffactau o wahanol sefydliadau wedi'u grwpio gyda'i gilydd , efallai mai atgofion rhywun ydynt wedi’u cipio, mewn ymgais i’w cofnodi.

Fel blaidd mewn croen dafad, mae’r arddangosfa’n amrywio o hiwmor du i dristwch cywilyddus. Bydd yr arddangosfa yn teithio i oriel Keith Talent Gallery, Llundain yn ddiweddarach yn 2003 ac yn ymddangos mewn lleoliadau eraill yn y DU ac Ewrop ar ôl hynny.

  • <b>Charles Damby</b>
  • <b>Neil Jeffries</b>
  • <b>Sophie Buxton</b>

Programme