Cymrodoriaeth g39 PEDWAR

1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2024

Zara Mader, Phoebe Davies
Gail Howard, Adele Vye
Sadia Pineda Hameed & Beau Beakhouse.

Adele Vye, I leave you with this, commissioned by The Book Project
Adele Vye, I leave you with this, commissioned by The Book Project

‘Dyn ni’n hynod gyffroes i groesawu’r bedwaredd garfan i’r rhaglen gymrodoriaeth. Maent yn cymryd eu stiwdios yn g39 ac yn parhau gyda ni tan 2024. Zara Mader (Caerdydd)), Phoebe Davies (Bro Morgannwg, Gail Howard (Caerdydd), Adele Vye (Abertawe), Sadia Pineda Hameed & Beau Beakhouse (Caerdydd).

Bydd yr artistiaid yn cymryd rhan mewn rhaglen strwythuredig o ymarfer stiwdio ac ymchwil hunangyfeiriedig yn g39 dros gyfnod o ddwy flynedd gyda chymorth ariannol. Mae'r rhaglen yn unigryw yng Nghymru ac yn ategu'r cymorth parhaus mae g39 yn ei gynnig i artistiaid yng Nghymru.


Menter yw Cymrodoriaeth g39 sy'n meithrin, ehangu ac yn cryfhau grŵp cyfoed o artistiaid dros raglen bum mlynedd. Mae'n ffurfio rhan o Raglen Artistiaid Freelands ochr yn ochr â mentrau cyfwerth a drefnir gan PS2 (Paragon Studios/Project Space) ym Melfast, Oriel Site yn Sheffield, ac Oriel Talbot Rice ym Mhrifysgol Caeredin. Byddant yn ymuno â'r grŵp trydedd a ymunodd â'r rhaglen yn 2021 - Rebecca Jagoe (Trellech, Sir Fynwy), Aled Simons (Abertawe), Alice Briggs (Aberystwyth), Philippa Brown (Caerdydd) and Tom Cardew (Aberhonddu).

Mae’r Gymrodoriaeth yn cynnwys cyfres ddwys o weithdai a hyfforddiant, amser cyswllt gyda mentoriaid, artistiaid sy'n ymweld, curaduron a staff g39. Byddwn hefyd yn trefnu siaradwyr gwadd a darlithoedd, sesiynau grŵp ar gyfer cael beirniadaeth gan gyfoedion, diwrnodau cwrdd i ffwrdd, ymweliadau ymchwil, cyfleoedd rhwydweithio o bell a gweithgareddau cymdeithasol. Yn ogystal, bydd Rhaglen Artistiaid Freelands hefyd yn trefnu symposiwm blynyddol ac arddangosfa i bob un a gymerodd ran ar ddiwedd pob carfan ddwy flynedd.

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd mwy nag ugain o artistiaid wedi cymryd rhan yng Nghymrodoriaeth g39.

DIWEDD



Gwybodaeth am Raglen Artistiaid Freelands
Menter newydd yw Rhaglen Artistiaid Freelands, a sefydlwyd i gefnogi ac ehangu ecosystemau celfyddydol rhanbarthol trwy feithrin cyfleoedd cydweithio a pherthynas hirdymor rhwng artistiaid sy’n dod i’r amlwg a sefydliadau’r celfyddydau ledled y wlad.

Ei nod yw cefnogi grŵp o sefydliadau celfyddydol uchelgeisiol o bob cwr o'r Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr i drawsffurfio dyfodol 80 o artistiaid sy'n dod i'r amlwg dros gyfnod o bum mlynedd. Yn ogystal, mae'n bwriadu gadael rhodd ehangach o ran addewid a phosibilrwydd yn yr ecosystemau celfyddydol hyn, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd i ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mae'r rhaglen newydd yn cynnig cyfanswm o £1.5m o gyllid dros bum mlynedd i bedwar sefydliad celfyddydol. Mae hyn yn cynnwys cyllideb raglennu gynhwysfawr ar gyfer pob sefydliad, gan gynnwys recriwtio staff ychwanegol lle bo angen. Mae'r cyllid hefyd yn cynnwys grantiau unigol ar gyfer pob artist a ddewisir gan y sefydliadau, yn ogystal â chostau teithio sefydliadol i symposiwm blynyddol - er mwyn rhannu'r hyn a ddysgwyd ac arferion gorau ymysg y cyfranogwyr.

  • Adele Vye, I leave you with this, commissioned by The Book Project

Programme