
CONTEMPORARY TEMPORARY ARTSPACE
i g39 Lôn y Felin Caerdydd CF10 1FH
possible, not probable
8fed - 3ain Mai 2002
‘Os prynwch docyn loteri ar ddydd Iau, mae yna fwy o siawns y cewch eich lladd erbyn dydd Sadwrn nag enill y jacpot. Y wers? Prynwch eich tocyn ar ddydd Gwener.’ Cyflwynir possible, not probable gwaith chwech artist sy’n rhoi’r cyfle i ni i fyfyrio ar ddylanwad siawns a lwc ar ein bywydau pob dydd, ac i archwilio ein ffyrdd o ymdrin â’r themau cyfarwydd – er yn ddi-fesur ac anfaterol – yma.
Archwilir cydweithrediad Yoke+Zoom y feillionen pedair deilen, symbol ryngwladol o lwc. Mae’r swynbethau yma yn effeithio‘r canlyniadau posibl neu‘r digwyddiadau tebygol gan ganiatau i’r perchennog rheolaeth dros y dyfodol. Mae llên gwerin yn datgan ei bod hi’n lwcus i ddod o hyd i un ohonynt gan fod yr ods yn ei erbyn. Ond does dim sicrwydd bydd y feillionen ei hun yn dod â lwc i chi. Ai siawns oedd e eich bod chi wedi dod o hyd iddi, neu ai tynged sydd wedi eich dewis chi fel yr un lwcus? Mae tua 1 allan o bob 10,000 o feillion yn mwtanu’n naturiol i ffurfio’r pedwerydd deilen prin yna, ond trwy fridio detholus mae Yoke+Zoom wedi cynyddu’r tebygrwydd o gael feillion pedair deilen i ymddangos yn y cae a dyfwyd yn g39. Gan wneud hyn, defnyddir gwyddoniaeth i wyrdroi yr ods, a rhannir y ffawd da canlynol gyda ymwelwyr yr oriel.
Amgodio yw’r gêm a gaiff ei chwarae ar y llawr cyntaf yng nghydweithrediad yr artistiaid Vicky Isley a Paul Smith. Mae 14,999 sliding puzzle pieces arranged in a covert order yn bôs llithro ac yn cd rom sy’n dangos gosodiad milwrol sensitif Americanaidd wedi’i leoli yn y D.U. Gan ddefnyddio y cyfrifiadur gall y gwylwyr newid a ffurfio’r delwedd lloeren picseledig ar y sgrin. Mewn ffordd tebyg i’r rheini sy’n datrys côd gan ddefnyddio rheolau tebygrwydd i ddeall a dadgodio negeseuon cudd, fe gaiff y ddelwedd ei dehongli trwy ragweld trefn y symudiadau yn gywir. Ai pôs jig-so enfawr ar gyfer siwpar-gîc yw hwn, neu ddelwedd cudd yn dangos data cyfrinachol o ganolfan ble mae gwybodaeth electroneg yn cael ei rhagod a dehongli.
Mae gan gwaith Michael Barclay agwedd tebyg i Yoke+Zoom a’u meillion artiffisial, yn osgamu siawns pur gyda’i magic power tool breintiedig.Mewn gwirionedd mae’n wialen hud sy’n rhoi’r cyfle i’r perchennog i reoli canlyniadau yn fwriadol, ac i osgoi, felly, yr elfen o siawns mewn bywyd bob dydd. Mae yna botensial iddo rhoi’r cyfle i’r cyhoedd drawsffurfio’u bywydau cyffredin wrth iddo ennill breintlythyr i’r gwrthrych chwedlonnol yma fel petai’n ddyfais o’r cartref. Trwy’r cofrestriad o’i freintlythyr, â’i stampiau rwber awdurdodol a’i datganiadau tâp coch, mae Michael Barclay yn archwilio’r syniad o’r wialen hud, a wedi’i wneud e’n real ac yn ddefnyddiol. Mae’r wialen hud fel magic power tool wedi cyrraedd!
Defnydda gwaith Ruth Iliffe’s ddulliau sydd yn atgofiannol o brosesau gwyddonol er mwyn gofyn cwestiynau ynglyn â’r systemau sy’n bodoli y tu hwnt i’n cafod a’n mesur o’r real. Mae The Force to displace space yn tynnu sylw at y syniad - yn afresymol ar yr arwyneb- o ddadleoli gofod ddi-faterol. Mae’r cysyniad a allai rhywbeth anghyffwrdd gael ei symud, yn arwain y gwyliwr i ofyn cwestiynau ynglyn â natur gofod ei hunan. Mae Ruth yn defnyddio gofod a bodolaeth yn ei gwaith i dynnu sylw at odrwyddau – efallai’r gofod a ddefnyddwyd i wneud ‘swigod sebon neu’r gofod yn y Grand Canyon. Mae sawl artist yn gadael elfen o’u prosesau creadigol i siawns, ond wrth wneud hyn ail-ysgrifennir Ruth y rheolau fel bod yr odrwyddau yn dod yn normalrwydd. Ei defnydd o’r abswrd yw hi sy’n personoli y “possible, not probable”: posibilrwydd yw’r abswrd, y tu allan i’n normalrwydd pob dydd.
Nid yw possible, not probable yn ymgeisio cynrychioli’r digwyddiadau prydferth ac anhrefnus a gaiff eu galw’n aml yn gyd-ddigwyddiad, neu’r mathamateg cymhleth sy’n gysylltiedig â phosibilrwydd. Cwyd yr arddangosfa gwestiynau ynglyn â’n cymod gyda’r anesboniadwy, ac yn ein hatgoffa ni o’r tensiwn sydd ar ôl rhwng ffydd a chraig anysgwydol methodoleg gwyddonol. Ar yr un llaw mae’n fath o ddihangfa ffantasiol a chwant i gredu mewn tynged, ac ar y llaw arall, mae’n atgofianol o’n meidroldeb a’n ddinodedd ystadegol.
www.gallery39.fsnet.co.uk
MAE MYNEDIAD AM DDIM AC MAE CROESO I BAWB