28 Awst - 26 Medi 1998

Weighting Rooms : Ystafelloedd Aros is the second exhibition in Cardiff’s youngest gallery, bringing together the work of Richard Owen and Darren Stevens. The title of the exhibition is a play on words, with both artists contributing to the pun.
Weighting Rooms: Ystafelloedd Aros yw’r ail arddangosfa yn oriel ieuengaf Caerdydd, gan ddod â gwaith Richard Owen a Darren Stevens ynghyd. Mae teitl y gwaith yn chwarae ar eiriau, ac mae’r ddau artist yn cyfrannu at y mwyseiriau.
Mae gwaith Owen yn canolbwyntio ar fanylion a darnau o bethau sy'n digwydd ar yr ymyl neu sy'n bodoli ar gyrion digwyddiad. Mae'r gosodiad yn g39 yn llawn ymdeimlad o rywbeth sydd ar fin digwydd, gyda'r gwyliwr yn cael ei ddal mewn cyfnodau o seibiant estynedig rhwng delweddau o wely heb ei wneud mewn ystafell sydd wedi’i llenwi â’r haul. Mae'r ddelwedd sy’n cael ei thaflunio ar raddfa fawr yn mynd ac yn dod o bryd i'w gilydd gan adael y gwyliwr mewn tywyllwch ac yn llawn disgwyliadau. Mae'r ddelwedd deimladwy hon yn cyd-fynd â thestun telynegol sy’n dwyn yr enw Things gone and things still here. Dywed Owen:
‘Rwy'n gweld fy ngwaith fel celf sy’n canolbwyntio ar adegau yn hytrach na'r ‘digwyddiad'. Mae gen i ddiddordeb yn niwedd yr hanesion / deialogau, seibiau, cyfnodau o orffwys a phetruso (ildiad posibl). Drwy ganolbwyntio ar fanylion a darnau a allai aflonyddu, drysu neu sbarduno cydnabyddiaeth rwy’n ceisio amharu ar ymgysylltiad y gwylwyr â'r naratif. Yn fy ngwaith celf mae yna ddwy broses yn bennaf: y cyfosodiad o ddelweddau a thestunau gwahanol, y rhai canfyddedig a rhai personol, gan arwain at ddamwain farddonol (y gellir eu datrys yn amwys) a'r ymgais i roi llwyfan i ddelweddau canfyddedig sydd yn anochel yn dod yn rhywbeth newydd (a mwy diddorol). Un agwedd ganolog i’m harfer yw cynnal cydbwysedd rhwng bwriad a damwain. Rwy’n credu ym mhwysigrwydd y dychymyg.
Mae Darren Stevens yn cyflwyno darluniau llinell pensaernïol syml o ystafelloedd yr oriel a’r grisiau wedi’u gosod yn uniongyrchol ar furiau’r oriel. Wrth weld rhain, ceir ennyd o hunanfyfyrdod wrth i ni eu cymhwyso at ein lleoliad corfforol. Mae’r ‘mapiau’ 3D hyn yn cyflwyno gofod yr arddangosfa fel y gwaith celf; diagramau sy'n disgrifio’r gofod ar yr union waliau sy’n ei gynnwys.
Mae wedi bod yn uchelgais gennyf erioed i ail-greu yn ffyddlon, cysyniad amgylcheddol ffisegol mor dda ei fod yn gosod y gwyliwr yn ei amgylchedd yn y ddelwedd; creu elfen o hunan-fyfyrio i’r gwyliwr ar sail ei sefyllfa ffisegol. O ganlyniad, caiff y gwaith ei greu fel dau gynhyrchiad llinell ar raddfa fawr a myfyrdodau beirniadol / disgrifiadol o’u hamgylchedd. Maent yn troi cysyniad y gwrthrych celf tu chwith allan ac yn myfyrio ar ofod yr arddangosfa fel y gwaith celf.'