Richard Bevan

12 Rhagfyr 2009 - 30 Ionawr 2010

Closed 20 December - 5 January

Richard Bevan, <i>Untitled</i> (film still), 16mm film, 2009
Richard Bevan, Untitled (film still), 16mm film, 2009

Acclaimed artist Richard Bevan has produced two site-specific film works, continuing g39's programme exploring relationships between art and film as a gallery-based medium. Richard’s filmworks often make reference to the spaces he exhibits in. The work documents his interventions and small historical events in these particular spaces, re-played as a quiet reference to that space at a different time. Whether that time is yesterday or a decade before, it is never clear.

Mae'r artist clodwiw Richard Bevan wedi cynhyrchu dau ddarn o waith ffilm safle-benodol, gan barhau â rhaglen g39 o archwilio'r berthynas rhwng celf a ffilm fel cyfrwng sy'n seiliedig mewn oriel. Fel arfer mae ffilmiau Richard yn cyfeirio at y mannau y mae'n ymddangos ynddynt. Mae'r gwaith yn dogfennu ei ymyriadau a digwyddiadau hanesyddol bach yn y mannau penodol hyn, wedi'u hail-chwarae er mwyn cyfeirio'n fras at y man hwnnw ar adeg wahanol. Nid yw byth yn glir p'un ai ddoe, neu ddegawd yn ôl, yw'r adeg honno.


Mae darn cyntaf Richard wedi cael ei arddangos ar lawr gwaelod g39. Mae'r ffilm yn saethiad allanol statig o'r oriel, wedi'i wrthdroi ac yn edrych i mewn i'r union fan lle mae'r gwaith yn cael ei arddangos. Er bod y ddelwedd wyneb i waered, gellir adnabod mai g39 ydyw ar unwaith; ond efallai mai'r hyn nad yw mor amlwg ar unwaith yw bod lliw tu allan yr adeilad yn y ffilm yn wahanol i'r hyn ydyw yn yr arddangosfa. Ddegawd yn ôl, roedd y tu allan i oriel g39 wedi'i baentio'n las golau, ac mae Richard wedi dewis mynd yn ôl at y lliw hwnnw (ei argraff gyntaf o'r oriel) drwy droi lliw tu allan yr adeilad yn ôl i'r un lliw o baent dros dro - ac yna cyfyngu'r trawsffurfiad byrhoedlog hwn i ffilm 16mm.

Mae defnydd Bevan o dechnoleg analog a chyfeiriadau amseryddol yn parhau i fyny'r grisiau ar gyfer ail ran ei osodiad ffilm. Unwaith eto, mae ffilm 16mm fach sy'n cael ei thaflunio yn mynd â'r gynulleidfa o'r gofod y mae'n yn sefyll ynddo i ystafell gudd drwy ddrws sydd wedi'i guddio ar hyn o bryd, a thrwy berfeddion mwy o ystafelloedd cefn y gofod sy'n cael ei reoli gan yr artist, gan esgyn i fyny grisiau troellog haearn bwrw - meingefn pensaernïol cudd yr adeilad. Mae pob cam o'r grisiau wedi cael ei baentio yn un o'r pum lliw sylfaenol i greu effaith enfys, sef llofnod arbennig Bevan.

Mae Richard hefyd wedi gwneud llyfr artistiaid argraffiad cyfyngedig ar y cyd â Pernille Leggat Ramfelt fel rhan o'r sioe. Ar gyfer y llyfr, gwahoddodd Richard nifer o bobl i gydweithio ag ef ac ymateb i'w ddull gwreiddiol o gychwyn dialog gyda phob artist. Roedd y llyfr terfynol ar gael i bobl fu'n ymweld â'r arddangosfa fel ffordd o'u tywys wrth iddynt grwydro o amgylch arddangosfa Richard yn lle'r deunydd tywysedig sydd fel arfer ar gael. Mae'r llyfr hwn bellach ar gael o siop ar-lein g39.

  • Richard Bevan, <i>Untitled</i> (film still), 16mm film, 2009
  • Richard Bevan, <i>Untitled</i> (installation shot), 16mm film, 2009
  • Richard Bevan, <i>Untitled</i> (installation shot), publication, 2009
  • Richard Bevan, <i>Untitled</i> (installation shot), 16mm film, 2009
  • Richard Bevan, <i>Untitled</i> (installation shot), 16mm film, 2009
  • Richard Bevan, <i>Untitled</i> (installation shot), 16mm film, 2009
  • Richard Bevan, <i>Untitled</i> (installation shot), 16mm film, 2009
  • Richard Bevan, <i>Untitled</i> (installation shot), 16mm film, 2009
  • Richard Bevan, <i>Untitled</i> (installation shot), 16mm film, 2009

Programme