Mae Rabab Ghazoul wedi ail-ddehongli ac ail-lwyfannu perfformiad 1966 Oyvind Fahlstrom o Mao-Hope-March. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys ffug brotest lle roedd Fahlstrom a grŵp o'i gyfeillion yn cerdded drwy strydoedd Efrog Newydd yn cario placardiau mawr yn cynnwys lluniau o Bob Hope a Mae-Tse-tung, tra bod cyfwelydd yn recordio ymateb y bobl a oedd yn pasio heibio, a'u hatebion i'r cwestiwn, 'Ydych chi o'r farn eich bod yn hapus?'
Gwahoddodd Rabab y bobl i enwebu eiconau gwleidyddol a diwylliannol ar gyfer yr 21ain ganrif, yn lle Mao a Hope, ac ail-lwyfannodd After Mao-Hope ddydd Gwener 20 Tachwedd i fesur hapusrwydd y bobl yng Nghaerdydd.
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants