Drawn In, Drawn Out, Drawn Round

1 - 12 Hydref 2009

An offsite exhibition at National Theatre Wales

Alistair Owen, <i>Half A Box</i>
Alistair Owen, Half A Box

The blurring of the boundaries of drawing with performance, digital media and video is only new in that these tools themselves belong to newness. The idea of drawing is an inherent part of our ability to understand, as old as mark making itself. Drawing and its myriad forms are imbedded in our ability to learn about what we can do. The blank page is covered by a child in colouring crayon in order to understand direction and fullness, trajectory and containment. The works in this exhibition, by some of Wales’ most promising recent graduates, explore space through something that is perhaps like drawing.

Mae pylu ffiniau darlunio gyda pherfformiad, cyfryngau digidol a fideo yn newydd yn yr ystyr bod y dulliau hyn ynddynt eu hunain yn perthyn i newydd-deb. Mae'r syniad o ddarlunio yn rhan hanfodol o'n gallu i ddeall, mor hen â'r arfer ei hun o wneud marciau. Mae darlunio a'i fyrdd o ffurfiau wedi'u hymgorffori yn ein gallu i ddysgu am yr hyn y gallwn ei wneud. Mae'r dudalen wag yn cael ei llenwi gan blentyn gyda chreon lliwio er mwyn deall cyfeiriad a llawnder, taflwybr a chyfyngiant. Mae'r gwaith yn yr arddangosfa hon gan rai o raddedigion diweddaraf mwyaf addawol Cymru, yn archwilio gofod drwy rywbeth sydd fel darlunio, efallai.


Mae gwaith fideo Sharon Crew yn arsylwi ar gydadwaith a phylu rhwng ffuglen a'r adeiledig. Mae'r gwaith yn aml yn cynnwys elfen o farddoniaeth wedi'i rhwymo o fewn gwneuthuriaeth gwneud ffilmiau dogfen isel eu cywirdeb. Mae Circular Thoughts yn ymwneud â meddwl crwydrol. Mae'n pasio'r amser. Fel y bydd plentyn yn rhyfeddu ar y byd a'r ailadrodd a geir oddi mewn iddo, mae bysedd Crew yn dargopïo'i meddyliau o gylch, cylch arall, ac eto mwy o gylchoedd. Mae rhythmau a thempo yn adeiladu wrth i'r byd gael ei fapio allan a'i ddeall drwy berthynas y llaw/llygad/lens.

Mae Half a Box gan Alistair Owen yn berfformiad arall o ofod. Mae darluniad bras mewn inc o hanner bocs cardbord wedi cael ei fapio ar law'r artist. Mae'r llaw yn cynrychioli darn coll o bapur ar gyfer taro syniad i lawr yn ddiamynedd sydd wedi ymddangos yn sydyn. Drwy wyrdroi'r dechneg draddodiadol o ysgrifennu ar gefn y llaw a braslunio ar gledr y llaw yn lle, mae rhith y darluniad a addawyd yn cael ei gwblhau drwy'r weithred syml o gau cledr y llaw.

Mae cyfyngiant ac allyriad ill dau yn chwarae rhan ochr yn ochr â'i gilydd yng ngwaith Jessica Hunziker, sef Bubblegum Bubble. Ar uchder y geg, mae'r eiliad hon o chwythu swigen gwm cnoi wedi'i rendro mewn efydd, yn fythol sefydlog fel allyriad o aer yr artist, sy'n annigonol ac yn gwrthod y pop anochel arferol. Drwy gerflun traddodiadol mae Hunziker yn diffinio ardal o ofod, y tu mewn a'r tu allan, a fyddai'n cael ei feddiannu gan fywyd bob dydd yr artist; anadlu. Mae'r gwaith hwn yn eiliad rhewedig o ailadrodd posib, anadliad wedi'i dynnu allan.

Drwy amrywiaeth o ddarluniau mae'r artistiaid hyn yn delio â'r weithred berfformiadol wrth wireddu'r gwaith yn y pen draw, p'un a ydynt yno i'w gychwyn neu er mwyn i ni ei gwblhau yn gysyniadol. Mae llinell ar dudalen bob amser yn darlunio gofod, yr ochr hwn neu'r ochr hwnnw. Mae'r llinellau a dynnwyd ym mhob darn o waith yr artistiaid hyn yn tynnu mwy nag ochr, maent yn tynnu'r hyn sydd y tu mewn, yr hyn sydd y tu allan, ac wrth gwrs fel pob darluniad da, popeth yn ei grynder.

This show was curated by
  • Sean Edwards
    • Jessica Hunziker, <i>Bubblegum Bubble</i>
    • Sharon Crew, <i>Circular Thoughts Also</i>
    • Alistair Owen, <i>Half A Box</i>

    Programme