Slash and Burn

15 Ionawr 2000 - 0 Ionawr 0000

Ar gyfer y sioe gyntaf o'i dwy sioe o dan y grant 'cymorth ar gyfer gofodau arddangos' cyfredol, trefnodd g39 arddangosfa proffil uchel o gelf gan ddefnyddio safleoedd bilfwrdd amlwg iawn wrth ochr ei gilydd ar ben Stryd Bute ger canol y ddinas yng Nghaerdydd. Mae'r ddau filfwrdd yn mesur 10’x20’ (3.07m x 6.14m). Daeth ‘Slash and Burn’ â'r ddau artist Jennie Savage a Ralph Juergen Colmar ynghyd, eu hysbrydoliaeth oedd yr ardal o gwmpas safleoedd y bilfyrddau.


Mae'r ymadrodd Slash and Burn yn dod o broses amaethyddol pan fydd llystyfiant yn cael ei dorri i lawr a'i losgi er mwyn clirio ardal ar gyfer tyfiant newydd. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr adfywiad sydd mor weladwy yn enwedig yn ardal Bae Caerdydd. Mae'r bilfyrddau o flaen ardal fawr sy'n cael ei hailddatblygu ar hyn o bryd, a fydd yn troi yn y pen draw yn sgwâr cyhoeddus gyda gerddi a ffynhonnau dŵr. Y bwriad yw y bydd yn gweithredu fel porth ar ran uchaf Stryd Bute sy'n ymestyn i Fae Caerdydd. Ardal sy'n gyfoeth o hanes cymdeithasol a masnachol, mae'r Bae yn destun prosiect datblygu trefol enfawr gyda’r gobaith o ddod â busnesau newydd a chyfleoedd hamdden newydd i un o faestrefi blinedig y Ddinas.

Wrth guradu'r sioe, roeddem yn teimlo bod fformat cydnabyddedig bilfyrddau, sef hysbysebu cynhyrchion, yn cyfyngu ar lawer o artistiaid, a'u bod yn colli gwir botensial y cyfrwng. Ceisiasom ddatblygu thema a fyddai'n benodol i'r safle, gan ddefnyddio'r bilfyrddau mewn ffordd arloesol. Ymgasglodd ychydig o gyflwyniadau ynghyd, yn ffodus roeddent i gyd yn gweithio o gwmpas themâu sy’n berthnasol i Gaerdydd. Gan adael i'r safle adeiladu o gwmpas y bilfyrddau fod yn ddylanwad arnom, mireiniwyd y thema er mwyn gwneud sylwadau ar ddilyniant yr adfywio trefol sy'n digwydd yn ein dinasoedd.

Programme