Mike Murray: Building Blocks

Briciau pren wedi’u paentio yw blociau adeiladu er mwyn annog creadigrwydd mewn plant. Maent yn cyflwyno’r meddwl ifanc i’r silindr, y ciwb a’r pyramid; i’r elfennau sydd eu hangen er mwyn creu trên, adeiladu tŷ neu gar. Maent yn wrthrychau cyfarwydd mewn byd o ddryswch sy’n amgylchynu’r plentyn dryslyd. Ond nid yw meddwl plentyn yn gwahanu’r byd i elfennau taclus o’r fath. Mae’r bocs, y papur lapio, y brigyn hwnnw, yr esgidiau hynny i gyd yn gocyn hitio. Mae’r byd wedi’i wneud o siapiau a lliwiau diddiwedd ac mae’r cyfuniadau o’r rhain yn ddiddiwedd.


Mae Mike Murray yn defnyddio’r un mesur. Mae ei waith yn g39 yn cyfeirio at leoliad, natur a thechnoleg. Mae’n defnyddio cydfodolaeth gwrthrychau naturiol a gwrthrychau a wnaed gan ddyn gyda’r goeden - motiff sy’n ailadrodd ei hunan, yn ei stad naturiol, wedi’i chreu i mewn i fyrddau, blociau, pensiliau a phapur, wedi’i thynnu o’r gwyllt a’i throi’n animeiddiad. Mae ei waith yn gyfuniad o nifer o elfennau ond yng nghanol ei waith ceir teimlad digyswllt o ddiffyg gwreiddiau, a’r gyd-ddibyniaeth hon ar bethau sydd wedi tyfu a phethau sydd wedi eu creu gan ddyn.
Ar lawr gwaelod y gofod ceir gwaith newydd sydd wedi’i osod mewn tair rhan. Yn Broader Disputes mae wedi cymryd coeden farw sydd wedi torri’r ffens yr oedd yn pwyso arni. Mae’r goeden a’r ‘ffin’ wedi creu un gwrthrych. Paentiwyd y gwrthrych yn binc, mae brigau’r goeden yn ymdoddi i liw porffor, sy’n gorffen mewn siapiau geometrig lliwgar ar hap. Mae un o ddarluniau gwreiddiol Murray wedi cael ei chwythu i frigau’r goeden ar gerpyn o bapur a chwythwyd yno. Mae’n gyfuniad o gyfeiriadau personol (roedd y goeden binc yn goeden y tu allan i ysgol Mike yng Ngogledd Cymru lle roedd plant yn cael eu hongian gerfydd eu dillad isaf), ac estheteg fwy cerfluniol. Ar wal yr oriel, mae rholyn o ffens yn ‘ddarlun’ yn erbyn y wal wen. Mae’r grid gwifren ar ffurf coil yn adlewyrchu statws darfodedig ffens rydlyd.

Wrth i ni adael y gofod a mynd lan llofft, mae golau yn dal ein llygaid. Ar y grisiau, mae coeden sydd wedi’i hanimeiddio gan gyfrifiadur, wedi cael ei chwythu gan y gwynt ac wedi’i hanffurfio i’r fath raddau nad yw’n debyg i’r hyn ydoedd i ddechrau. Nid oes ymdeimlad o ddisgyrchiant, i fyny nac i lawr ac mae’n arnofio yn yr unfan fel amaranth chwyn. Ar y llawr cyntaf mae boncyff gwag wedi’i osod yn uchel ar wal. Mae’n hongian wrth fraced ac yn ‘edrych’ i lawr i’r gofod, gan ymdebygu i gamera teledu cylch cyfyng. Mae’n dwyn y teitl CCTreeV ac mae’r strwythur yn rhan o fecanwaith cymhleth a wnaeth recordio taith yr artist drwy’r ddinas. Mae’r boncyff cnotiog yn llywyddu dros ystafell yn llawn pob torryn pren yn yr adeilad, arwynebau gwastad y ciwbiau gwyn sy’n creu ‘golygfa’ celf gyfoes.
Yn y gofod uchaf ceir sŵn chwyrlïo a tharo ysbeidiol ac mae’r gwyliwr yn wynebu peiriant ar ddesg. Mae ergonomeg y darn, y ddesg a’r gadair, yn awgrymu mai gweithle rhywun ydyw ond ymddengys fod rhan hanfodol o’r peiriant ar goll, sy’n awgrymu na fydd byth yn gallu cyflawni ei dasg. Mae hyd yn oed yr arwyneb fformeica wedi’i blaenio mewn ymgais i ddatgelu rhywbeth oddi tano, ond yr unig beth a ddatgelwyd yw asglodfwrdd pren.

Ar y wal gyferbyn, ceir morlun. Mae’r hwyrddydd llwyd dros Borthcawl yn dangos tystiolaeth o’r hyn a fu unwaith ar sylfeini sydd bellach yn amddifad ers tro byd, y byd natur yn ei hawlio nôl. Mae golygfa arall o flociau adeiladu ar ffurf tŵr bach wedi’i osod ar ben yr olygfa hon. Dau silindr, bwa bloc; rydym yn gwybod ar unwaith mai cerbyd yw hwn i fod. Mae hyfforddiant ein plentyndod o gydnabod ffordd fwyaf elfennol y siapiau geometrig, wedi’i fodloni.

Tu allan i’r ffenestr ar y llawr hwn, yn y tu blaen, gallwn hefyd weld brig coeden ac os edrychwn yn ofalus rhwng y dail gallwn weld nyth pioden sydd wedi'i chreu’n fras, sy’n cydbwyso ond yn gadarn. Efallai mai darn o waith Murray ydyw.

Programme