Substation

<b>Cathy Herbert</b>, <i>Untitled</i>, 1998.
Cathy Herbert, Untitled, 1998.

The disused basement of an office block in Cardiff has provided the inspiration for the work in Substation: ls-orsaf. Leaving behind the light at street level, the five artists take you down to a subterranean venue where they uncover and explore some of our darker fears and anxieties.

Islawr bloc swyddfeydd yng Nghaerdydd nad oedd yn cael ei ddefnyddio oedd yr ysgogiad i Substation: ls-orsaf. Gan adael y golau ar lefel y stryd y tu ôl iddynt, mae'r pum artist yn mynd â chi i lawr i leoliad tanddaearol lle maent yn datgelu ac yn archwilio rhai o'n hofnau a'n pryderon dyfnaf.


Mae Absent Stock gan Cheryl Hudgell yn strwythur erchyll sy'n peri atgofion o lein ddillad. Mae hi'n hongian y golch budr gyda'r dillad yn cael eu hongian fel cyrff ar y leiniau. Mae'r gwaith yn adlewyrchu profiadau datbersonoleiddio, mae ailadrodd y dillad wedi'u cyfuno gydag absenoldeb gwisgwr yn pwyntio tuag at fath o golled enfawr. Mae gwaith Hudgell yn delio â'r corff fel ‘adnodd’. Mae hi'n tynnu sylw at allu dynolryw i gamddefnyddio pŵer, ac mae ei defnydd o ailadrodd yn gwneud sylwadau ar raddfa'r trychinebau a wnaed gan ddyn.

Mae fideo Mark Walter, The Smoke Machine, yn drosiad gweladwy ar gyfer ymgeisio diffinio'r anniffiniol, neu gynnwys y darfodedig. Mae'r gwaith gosod yn parhau yr archwiliad o'r cyfatebiaethau sy'n bodoli rhwng priodoleddau breuddwydion a mwg. Yn sylwedd ar hap nad yw'n bosibl ei gynnal yn naturiol, mae mwg yn ffurfio delweddau ac yn gyffelybiaeth glir â delweddaeth a ddaw o isymwybod y breuddwydiwr.

Mae Wayne Gruffudd yn defnyddio gormodiaith i ddisgrifio cyfathrebu'n torri i lawr. Cyfres o ysgrifau gan ddamcaniaethwr diwylliannol Clement Greenberg ynghylch 'celf' yw testun y gwaith hwn, ond collir ystyr y geiriau ym maint anhygoel y wybodaeth a gyflwynir inni. Mae gwaith yr artist yn tanseilio'r rhethreg ynglŷn â chelf gan y beirniad. Mae'r cyffelybiaethau'n troi'n blociau o lwyd mewn wal o lafar mud sy'n colli ystyr pan gaiff ei gyflwyno yn y cyd-destun hwn.

Mae Cathy HerbertM a Cheryl Lewis wedi gwneud gwaith sydd yn ingol ac yn fyfyriol ynglŷn â'r atgof a cholled hwn. Mae gosodiad Herbert yn cynnwys patrymau ffrogiau wedi'u hanner rhoi at ei gilydd, gwawn wedi'i dorri allan a phwythau anorffenedig, patrymau ffrogiau syml wedi'u rhoi i hongian ar gambrenni neu wedi'u gosod yn ofalus ar loriau gofod yr islawr. Mae'r gwaith yn delio â'i pherthynas gyda'i merch sydd hefyd yn artist a theimlad o gysylltiad yn ogystal â theimlad o wahaniad rhwng y ddwy ohonynt. Cynhyrchwyd gwaith Cheryl Lewis tra'i bod yn feichiog â'i merch Maia. Mae cysgodlenni papur wedi'u gweddnewid yn ffigurau sy'n arnofio ac yn siglo a hwythau'n hongian mewn gofod fel hen gocynau, yn rhywbeth dros dro a drychiolaethol. Mae hi'n edrych ar ei newid ei hun o fod yn ferch i fod yn fam a gweithred ymwaredu â rhan ohoni ei hunan er mwyn camu i fywyd newydd.

“Yn ein diwylliant sydd â'r un golau ymhob man ac sy'n rhoi trydan yn ei ddaeargelloedd, nid ydym bellach yn cario cannwyll pan awn i’r ddaeargell. Ond nid yw'n bosibl gwareiddio'r isymwybod. Mae'n mynd â channwyll pan fo'n mynd i'r ddaeargell.'
Gaston Bachelard, The Poetics of Space

  • <b>Cheryl Hudgell</b>, <i>Absent Stock</i>, 1998.
  • <b>Wayne Gruffudd</b>, <i>Untitled</i>, 1998.
  • <b>Cheryl Lewis</b>, <i>Untitled</i>, 1998.
  • <b>Cathy Herbert</b>, <i>Untitled</i>, 1998.
  • <b>Cheryl Hudgell</b>, <i>Absent Stock</i> (detail), 1998.

Programme