Pistol

Pistol marks the start of a whole new era for contemporary art in Wales with the opening of g39. Because it is an artist-led initiative, the project comes with a recognition that the artists themselves are the best people to crowbar their work out of the isolated museum / warehouse / studio space into the public arena in a bid to prove their professionalism and validity. The exhibition takes place across two gallery sites in Cardiff and showcases established artists together with emerging talent, giving scope for a wealth of ideological and conceptual exchange. On show is a cross-section of artists from the cutting edge of British contemporary art.

Mae Pistol yn nodi dechrau cyfnod newydd ar gyfer celf gyfoes yng Nghymru gydag agoriad g39. Oherwydd ei fod yn fenter a arweinir gan artistiaid, mae'r prosiect yn dod â chydnabyddiaeth mai'r artistiaid eu hunain yw'r bobl orau i dynnu eu gwaith allan o'r amgueddfa / warws / gofod stiwdio ynysig i'r arena gyhoeddus er mwyn ceisio profi eu proffesiynoldeb a'u dilysrwydd. Mae'r arddangosfa'n cael ei chynnal ar draws safle dwy oriel yng Nghaerdydd ac yn dangos artistiaid sefydledig ynghyd â thalent sy'n dod i'r amlwg, gan roi siawns i doreth o gyfnewid ideolegol a chysyniadol. Mae un sioe yn drawstoriad o artistiaid o reng flaen celf gyfoes Brydeinig.


Mae Stephen Brown wedi defnyddio pren gwastraff garw a thiwbiau dŵr i gynnal lefel ddŵr uwchben y llawr. Yn debyg i faromedrau, mae'r pibellau'n rhedeg i fyny'r waliau ac yn canfod amherffeithrwydd yr adeiladau sydd, fel arfer, yn aros yn anweledig. Mae ei waith yn edrych ar syniad perffeithrwydd ac yn ceisio ei ddinoethi fel un o sawl posibilrwydd. Ni all perffeithrwydd fodoli byth, ond pan fydd rhywbeth yn wahanol i'r ddelfryd mae'n cael ei ddisgrifio gan ddefnyddio termau fel rhywbeth nad yw'n ‘cyrraedd y nod’ neu sy'n ‘methu’ sy'n awgrymu hierarchaeth; system benodol y mae'r ysfa i gyrraedd y ddelfryd yn creu anoddefgarwch i bersbectifau eraill oddi mewn iddi. Dyma ble y tynnir y llinell rhwng goddefgarwch ac anoddefgarwch sy'n arwain y gwaith. Mae'r sylweddoliad o amhosibilrwydd cyrhaeddiad yn ogystal ag afreswm i ba raddau y gellid mynd, yn agor y maes anoddefgarwch i ddadl.

Mae Jim Noble yn edrych o gil ei lygad ar dechnegau lo-fi a gymhwysir i dechnoleg. Mae ei waith Distant landscape coming closer yn llun agos wedi'i bicseleiddio o asglodyn silicôn. O bellter mae'r asglodyn yn gweddnewid yn fwthyn neu adeilad gwledig wrth i'r gwyliwr orfodi'i synnwyr ei hun o faint ar y ddelwedd. Ochr yn ochr â'r rhain yw'r pethau hyn yr ymddengys eu bod yn gamerâu fideo ar y llawr yn edrych yn ôl at y gwyliwr. Dim ond wrth archwilio'n agosach y daw'n glir mai cartonau sudd ydynt sydd wedi'u paentio â’r botymau, y lensys cyffredin ac ati sy'n nodweddu technoleg fodern. Drwy ddefnyddio triciau gweladwy mae Noble yn cyflwyno ein rhagdybiaethau ein hunain i ni ynglŷn â'r hyn rydym yn edrych arno.

Ymddengys fod Philippa Lawrence wedi bod trwy'r arddangosfa fel Midas modern, yn gweddnewid pethau na sylwyd arnynt yn wrthrychau gwerthfawr: ceir cleren a bwlb golau wedi'u heuro ag eurddalen, ac mae teth wedi'i chastio mewn arian solid ac wedi'i gosod yn y wal ar uchder swîts golau. Mae'r gweithiau hyn wedi gosod yma ac acw ac maen nhw'n syfrdanu ac yn hudo'r gwyliwr.

Mae arddangosfa Wendy Swallow yn cynnwys dau ‘lyfr gwydr’ deniadol iawn sydd i’w gweld yn amlwg yn y gofod tywyll ar y llawr cyntaf. Mae hi wedi ysgythru gwerth awr o drawsgrifiadau'r cloc sy'n siarad ar wydr, gan gynhyrchu testament pwysfawr i gyfnod o amser. A hithau'n gweithio â gwydr hefyd, mae pwysau papur a photeli gwydr Lucy Harrison yn chwyddo'r testun a roddir y tu fewn iddynt neu odanynt. Mae ei gwaith yn ymwneud ag iaith ac yn aml â sut mae'n methu; diffyg cyfathrebu neu ddealltwriaeth. Mae From Getxo to North Shields yn boteli llawn darnau o iaith nad ydynt yn gweithio'n gywir, naill ai oherwydd eu bod yn y wlad anghywir, nad yw'n bosibl eu darllen, eu bod yn gwestiynau heb atebion neu i'r gwrthwyneb. Mae rhai o'r ymadroddion yn cyfeirio at stori ditectif, gan fod llawer o'i gwaith yn cael ei gyflawni yn y ffordd honno; clywed ar ddamwain a chwyddo darnau bach o wybodaeth.

Mae diptych fideo Michael Cousin yn edrych ar iaith hefyd ond yn achos Cousin colli llais sy'n mynd â'i sylw. Ar bob monitor mae wyneb yr artist yn newid ac yn pylu wrth iddo geisio siarad ond y sŵn sy'n dod allan yw sŵn adar trofannol. Ymddengys galwadau paru'r gwryw’n chwerthinllyd ac yn amhriodol yn dod o wefusau'r ffigwr ar y sgrin. Yn nhraddodiad hunanbortread y paentwyr, mae portread Cousin wedi'i gyfansoddi a'i gyflawni'n dda ond mae hefyd yn edrych fel ei fod mewn poen ac yn amddifad, yn grair o rywbeth o'r gorffennol, rhywbeth coll.

Mae gan Memories for the 20th Century Jennie Savage ansawdd hen ffotograff neu ffotograff wedi'i daflu i ffwrdd. Byddai'n bosibl eu dychmygu fel delwedd bwl olaf ein disgynyddion o'n hamser ein hunain, cyn i ffotograffiaeth fynd yn anarferedig ac i'r dirwedd newid yn llwyr. Mae'r treflun llawn tyfiant a diffaith yn cael ei adleisio gan socedi plygiau nad ydynt yn cael eu defnyddio, sydd wedi'u gosod yn y gynfas, yr ymddengys ei fod wedi casglu haenau o baent dros y blynyddoedd o beidio â chael eu defnyddio.

Mae gwaith Andrew Hayes-Watkins yn cymryd prosesau gwyliadwriaeth fel ei fan cychwyn. Mae'n taflunio cynllun llawr daear adeilad y panopticon, sy'n golygu ei bod yn bosibl gwylio pob trigolyn o un pwynt gwylio canolog. Ar y wal gyferbyn mae'n trawsysgrifio llun amlinellol o'r adeilad, gan ddinoethi ei strwythur a datgelu ei swyddogaeth.

Mae Pistol yn cynnwys cymysgedd o waith, sleisen o ymarfer cyfredol o Gymru a'r tu hwnt, gan ddenu gwaith allan o stiwdios a'i roi yn yr arena gyhoeddus.

Programme