4 Chwefror - 12 Mawrth 2011

For the final instalment of the Show One of Each season g39 presents new work from artist Maia Conran. Maia’s observations of everyday objects or situations give her work an uncanny familiarity, rooted in its institutional aesthetic. She interprets these situations using existing structures of communication and knowledge – in this case the library, instruction manuals, the school classroom and the gallery space.
Ar gyfer rhan derfynol tymor Show One of Each mae g39 yn cyflwyno gwaith newydd gan yr artist Maia Conran. Mae arsylwadau Maia o wrthrychau neu sefyllfaoedd bob dydd yn rhoi cynefindra rhyfedd i'w gwaith, wedi'i wreiddio yn ei esthetig sefydliadol. Mae hi'n dehongli'r sefyllfaoedd hyn gan ddefnyddio strwythurau o gyfathrebu a gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli - yn yr achos hwn y llyfrgell, llawlyfrau cyfarwyddyd, yr ystafell ddosbarth a'r gofod yn yr oriel.
Mae'r ffilm a'r gwaith arall ar gyfer y sioe hon yn cynnwys y ffilm newydd sbon Course, gwaith llyfr newydd Form ac ymyrraeth gerfluniol Pin. Mae pob darn o waith yn ymwneud â gofod rhydd sy'n annifyr o wag o ran trigolion. Mae'r llyfrgelloedd a'r ystafelloedd dosbarth yn foel, y llyfrau heb eu darllen, a'r seddi yn wag. Daw'r llyfrgell wag yn gartref i stolion sy'n symud; mae'r dosbarthiadau gwag yn cael eu cofnodi fel taflenni o atgofion o wersi - cofnodion cywir o ddaearyddiaeth yr ystafell sy'n mapio newidiadau mewn dulliau. Mae'r absenoldebau minimol tywyll hyn yn cael eu hysgafnhau gan gyffyrddiadau o hiwmor.
Mae ei gwaith yn ddigwyddiadau sy'n cael eu hail-adrodd neu eu hoedi, a'u cadw o fewn y gofodau darluniadol. Mae'n tynnu sylw at drothwyau a ffiniau'r gofodau hyn - gan gwestiynu'r hyn sydd y tu fewn a'r hyn sydd y tu allan. Mae hi'n arddangos gofid hwyliog tywyll am ddiflastod fel cyflwr paradocsaidd lle gellir cwestiynu’r presennol. Drwy bortreadu eiliadau llonydd, ailadrodd, a newidiadau mewn cyflymder mae hi'n ail ffocysu ein sylw ar y cyffredin.