On Collecting: Transactions in Contemporary Art

3 Rhagfyr 2010

Symposium at Reardon Smith Lecture Theatre, National Museum Cardiff

You are warmly invited to take part in a symposium event investigating the market for contemporary art in Wales organised by Amgueddfa Cymru – National Museum Wales and g39. The event will consider how Wales could develop its market to cater for tastes in the new wave of contemporary work being produced in Wales, and how we can engage with this developing market as individuals, businesses, and artists.

Estynnir gwahoddiad gwresog i chi i gymryd rhan mewn symposiwm i ymchwilio i’r farchnad gelf gyfoes yng Nghymru a drefnir gan Amgueddfa Cymru a g39. Bydd y digwyddiad yn ystyried sut y gall Cymru ddatblygu marchnad gelf yng nghyd-destun y don newydd o waith cyfoes a gynhyrchir yng Nghymru a sut y gallwn ymgysylltu â hyn fel unigolion, busnesau ac artistiaid.


Dan gadeiryddiaeth Mermaid and Monster, yr asiantaeth gelf gyfoes dros Gymru, mae Ar Gasglu yn croesawu siaradwyr gwadd o ystod o sefydliadau a chasgliadau preifat yn cynnwys Ellen Mara De Wachter (Zabludowicz Collection), Sorcha Dallas (Sorcha Dallas Gallery), te Volz (Halle 14, Leipzig), a Karsten Schmitz (Federkiel Foundation).
Bydd y digwyddiad cyffrous hwn yn defnyddio esiamplau o sut y mae ecoleg ddiwylliannol wedi datblygu mewn trefi a dinasoedd sy’n bell o’r ‘farchnad’ yn ddaearyddol, a sut y gallai ecoleg gyffelyb ddatblygu yng Nghymru. Wedi'i noddi gan Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes Prydain ac yn rhan o raglen Rhwydwaith Cenedlaethol y gymdeithas, mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim a bydd o fudd i'r rhai sydd â diddordeb ym marchnadoedd celf y DU y tu hwnt i Lundain.

I archebu lle cysylltwch â Heidi Evans, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: (029) 2057 3148.

      Programme