Distance Learning

11 Awst - 15 Medi 2007

Mae Distance Learning yn archwilio’n greadigol yr aneglurder a’r ffiniau rhwng y rêl a’r rhith, tu mewn a thu allan, naturiol ac artiffisial, llefydd lleol a bydol, a'r delweddau a gwybodaeth sydd yn cyfrannu at ein dealltwriaeth a ‘ phrofiad’ o’r byd.

Yn defnyddio delwedd symudol, gosodwaith a ffotograffiaeth, mae’r artistiaid mewn Distance Learning wedi ymateb i ddatblygiadau newydd mewn technoleg gan ail-drefnu ac ailgyflwyno gofod. Mae’r llefydd pensaernïol yn Distance Learning yn awgrymu ffyrdd newydd o brofi a mordwyo gofod yn gorfforol , ac yn rhithiol drwy ffotograffiaeth, y rhyngrwyd a theledu - ac maen nhw wedi cael eu dylanwadu gan ddiwylliant cyfoes, teithio rhith a thechnoleg.

Ar y llawr gwaelod mae cyfres ffotograffig Matthew Pontin Distance and Distraction a’r darn sgrin-seiliedig Pseudo Memories yn cyfeirio at deithio cyfoes a’r cofion canlynol, mae’r cynrychioliadau o brofiadau ‘gwir’ a ‘rhith’ yn gorymylu ar fomentau wedi’u recordio. Gan ddefnyddio delweddau o’r we a delweddau wedi’u hail-recordio o hysbysebion twristiaeth, mae’r artist yn ein hatgoffa o’r digonedd o ddelweddau ffotograffig sydd yn ein bwrw ni’n gyson, a sut mae’r delweddau yma yn creu ac yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r byd. Mi goda’r gwaith gwestiynau am bâm rydym yn dogfennu profiadau ‘rêl’, ac mae’r ffaith bod Pontin yn ymdeithio heb gyrchfan pendant yn gadael y gwyliwr i bendroni ar y gwahaniaeth rhwng profiad gwirioneddol ac efelychiadau rhith.

Mae One Line Street gan Rose Butler & Kypros Kyprianou yn gwthio’r syniad o ymdeithio gwirioneddol a rhithiol ymhellach byth. Mae’r darn chwe sgrin yma yn ymddangos cyfres o deithiau paralel yn lifftiau eiconig yr adeilad Lloyds. Mae pobl yn dod i mewn ac yn gadael un o’r chwech lifftiau ac yn cychwyn ar siwrneion sy’n rhyngweithio. Mae pob taith wedi ei recordio yn y lifft gyda’r adeiladau cefndirol a’r gorwel wedi eu cloi’n ddigidol i’w safle . Fel canlyniad mae’r lifftiau yn teithio heibio’r sgriniau, yn creu perthynas annisgwyl rhwng y camera, y siwrnai rith a’r persbectifau cefndirol; llithriad rhwng ffigwr a daear. Mae’r driniaeth o’r ddelweddaeth ac yr ymdoddiad ansefydlog o’r siwrnai go iawn a’r cefndir rhithiol yn creu synnwyr o anesmwythder sydd yn estyn y tu hwnt i’r sgrin, yn effeithio ar ein profiad corfforol tu mewn i'r oriel.

Ar lawr uchaf yr oriel, mae Alistair Burleigh hefyd yn creu profiad corfforol ansefydlog wrth iddo uno’r syniad o ofod gwir a rhith gyda’i waith Voidx - Escaping the Screen - mewnosodiad fidio tri dimensiwn. Mae’i flociau ciwbig - blociau corfforol yng ngofod yr oriel - wedi cael eu lapio gan fodel taflunedig o’r un trefniant geometrig. Yn fuan mae’r trefniant yn cael ei newid ac mae’r blociau rhithiol yn hedfan o gwmpas eu gwrthrannau corfforol yn gwrthdaro ac yn gwahanu wrth ddarparu amgylchedd ymhle mae’r ddau realiti yn gallu cyfuno.

Mae’r gwaith yma yn cwblhau ein taith rith; o deithiau go iawn wedi’u cyfyngu i’r ffotograff neu’r sgrin; i ymdoddiad rhwng delwedd symudol, wedi’i recordio a thriniaeth ddigidol; trwy fordaith rith ble gallwn ni gymryd rhan a phrofi yn gorfforol. Wrth i dechnoleg symud ymlaen o ffotograffiaeth, i ddelwedd symudol a delweddu digidol, mae ein moddau ni o brofi'r byd o’n cwmpas hefyd wedi symud ymlaen. Mae pob artist wedi archwilio effaith technoleg ar strwythur ein bywydau ac wedi cynnig safbwynt a gweledigaeth newydd ohoni.

This show was curated by
  • Grace Davies
    • Alistair Burleigh, VoidX - Escaping the Screen

    Programme