16 Mawrth - 14 Ebrill 2007

Rachel Pantechnicon
Mae’n ffaith nad yw llawer yn ei gwybod, ond mae g39 wedi bod yn safle i Raglen Breswyl ‘Awduron Go Iawn’ ers can mlynedd. Eleni, Rachel Pantechnicon fydd y 100fed awdur preswyl, ac er mwyn dathlu’r meincnod hwn yn y byd llenyddol mae hi wedi cael y dasg o edrych yn ôl ar hanes y Cynllun Preswyl a’r cyn-awduron…
Fel rhan o’r dathliad canmlwyddiant, bydd Pantechnicon yn ymgysylltu â chyn-awduron preswyl er mwyn rhoi argraff o ddylanwad y Cynllun Preswyl yn y byd llenyddol. Bydd rhaglen ddogfen yn dilyn cynnwys Pantechnicon drwy gydol ei chyfnod preswyl, gyda chyfraniadau gan y cyn-awduron preswyl hyn:
Anna Harriett Leon-Owens; y bardd perfformio rhodresgar
Paul Hamilton; bydd
Syr Arthur Conan Doyle yn perfformio ei stori Holmes ei hun; bydd
John Hegley yn darllen detholiad o gerddi a gomisiynwyd yn ddiweddar yng Nghaerdydd a Chymru; bydd
Nathan Penlington yn darllen cerdd am fod yn gynorthwyydd trampolîn yn y Rhyl; bydd
Tim Wells yn darllen detholiad o’i gerddi’i hun am fod yn Sais o flaen un o Eglwysi Presbyteraidd Cymru. Bydd
Jessica Voorsanger, Bedwyr Williams, yr actiwr comedi
Simon Munnery, Andy Black, Megan Broadmeadow, Sioned O’ Connor, Jane Fox a Peter Finnimore hefyd yn ymddangos. Mae’r enwog
Syr Gideon Vein yn darparu’r adroddiad.
Cynhelir cabaret unigryw a gyflwynir gan Rachel Pantechnicon, a fydd hefyd yn perfformio’i cherddi a'i storïau ei hun. Bydd
Suzanne Andrade yn perfformio dwy stori gan HP Lovecraft ynghyd ag animeiddiad a hen ffilm taflunio y daethpwyd o hyd iddi; bydd John Hegley yn perfformio cerddi am Gaerdydd a gomisiynwyd yn arbennig; bydd alter-ego Megan Broadmeadow Enid Blaenau (gelyn pennaf Enid Blyton) yn adrodd; bydd
Gwdihw yn adrodd cardiau post o’r Mabinogi hyd heddiw oddi wrth y ‘Gog Observer’; hefyd yn cynnwys Bedwyr Williams. Cyflenwir cerddoriaeth gan y
DJ Brian Nylon.
Cofiwch ymweld â chanolfan wybodaeth a siop Cynllun Preswyl Awduron Go Iawn, lle y gallwch brynu anrhegion gwych, swfenîrs a memorabilia’n cynrychioli pob awdur yn hanes y cynllun Preswyl:
Jennet Thomas & Paul Tarrago - Laurence Lane - David Mackintosh - John Hegley - Pamela Brabants - Sally O’Reilly - Brian Dewan - John Tozer - Jessica Voorsanger - John Strutton - Peter Liversidge - Simon Faithfull - Duncan Maclaren - Caroline McCarthy - Edwina Ashton - Ian Rawlinson - Emily Wardill - Wayne Lloyd - Klega - Simon Munnery - Cathy Haynes - Mel Brimfield - Sean Parfitt & Alisdair Hopwood - Peter Finnemore - Sally Mees - Rebecca Gould - Megan Broadmeadow - Andy Black - Rabab Ghazoul - Julia Peat - Jane Fox - Gwdihw - Chloe Needham - Bedwyr Williams - Kate Watkiss - Simon Rowe - Tim Iliffe - Femke van Gent - View Creative - Tim Albin - Jennie Savage - Ruth Iliffe - Ruth Rowe - Roger Hughes - Gwyn Williams - Kevin Hunt.
Mae dathliadau canmlwyddiant Cynllun Preswyl Awduron Go Iawn yn addo bod yn ddigwyddiad bythgofiadwy yn y calendr llenyddol.
Sefydlwyd yn 2000 fel canlyniad uniongyrchol i ddiffyg dewis arall o ran sinemâu yng Ngogledd Cymru, mae'r
Rêl Institiwt yn grŵp sy'n cychwyn digwyddiadau celf gyfoes. Mae wedi trefnu dros dri deg o ddigwyddiadau o'r fath mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys nosweithiau ffilm rheolaidd ym Metws-y-coed, a sawl digwyddiad amlddisgyblaethol arbennig. Mae'n grŵp gwirfoddol nad yw'n gwneud elw ac yn cynnwys 300 o aelodau sy’n artistiaid a chefnogwyr ym mhob cwr o Gymru.