22 Hydref - 27 Tachwedd 2010
I saw my destiny in the corner of my eyes

Pascal-Michel Dubois, Meteor Study 2
October sees the return of g39’s Show One Of Each season of solo exhibitions, showcasing the work of some of Wales’ most promising artists in the early stages of their exhibiting career.
French-born Artist Pascal-Michel Dubois has employed a large variety of mediums throughout recent years, ranging from small drawings to large installations and live performances. His curiosity is largely informed by the everyday, his practice a device inviting the spectator to question and investigate our familiar fields of knowledge and imagination.
Mae’r artist Pascal-Michel Dubois, a aned yn Ffrainc, yn defnyddio amrywiaeth eang o gyfryngau, yn amrywio o luniadau bach i osodiadau mawr a pherfformiadau byw. Mae ei chwilfrydedd yn cael ei lywio’n bennaf gan bethau o ddydd i ddydd, gyda’i arfer yn ddyfais sy’n gwahodd y gwyliwr i gwestiynu ac archwilio ein meysydd gwybodaeth a dychymyg cyfarwydd.
Prif ddiddordeb Dubois yw capasiti celf i fynd â chi o’r lle ‘hwnnw’ ar yr adeg ‘honno’, i le arall. Mae ei waith newydd yn cynnig cyfleustodau cerfluniol ac arteffactau ffotograffig. Daw hanfod yr arddangosfa o brofiad diweddar Dubois o chwilota drwy ei eiddo a darganfod rhai eitemau nad ydynt wedi gweld golau dydd ers peth amser. Wrth ddod wyneb yn wyneb â gwrthrychau cyseiniol penodol, mae Pascal yn defnyddio hen ffotograff ysgol, tâp casét a gwaith celf i ysgogi casgliad o waith sy'n darparu archwiliad i arwyddocâd y cyffredin.
'Rydym i gyd eisiau meistroli Amser, mewn un ffordd neu'r llall. Beth pe gallem gael cipolwg ar ein ffawd? Rydym yn anelu at ddehongli cyfrinachau’r Norns. Mae amser yn rhedeg wrth ein hochr a gallaf weld fy hynt yng nghil fy llygaid. '
O goed wedi’u digorffoli a welwyd o safbwynt amhosibl, i'r ddyfais stereo-optegol sy’n eich gorfodi i weld golygfeydd o safbwynt cyferbyniol ar yr un pryd, mae’n gwrthryfela nid yn unig yn erbyn y mecanwaith o weld ond hefyd yn erbyn y ffordd y cawn ein gweld gan bobl eraill mewn ffordd arbennig.