If.... Richard Cook

29 Medi - 16 Hydref 2010

Sheffield based Artist Richard Cook continues g39’s If…., a season of exhibitions giving emerging artists the chance to show new work to a new audience. Richard's work is inviting, yet awkward and unpredictable. Complicating the pictorial space of photographic works with bold, intrusive objects, Richard produces a distinct contrast between nature's roundness and the hard edges of human involvement.


Mae gwaith Richard Cook, yr artist o Sheffield, yn groesawgar ac eto’n lletchwith ac yn anrhagweladwy. Drwy gymhlethu'r gofod darluniadol o waith ffotograffig gyda gwrthrychau beiddgar ac ymwthiol, mae Richard yn cynhyrchu cyferbyniad amlwg rhwng crynder natur ac ymylon caled cyfranogiad pobl.


Trwy ddulliau syml - masgiadau, symudiadau, ac ychwanegiadau sylfaenol – mae Richard yn cyflwyno hierarchaeth pwnc-gwrthrych. Mae ei waith newydd yn ail-drafod ac yn aildrefnu cyflwyniad, deunydd, syniadau a phynciau. Gydag ystyriaeth ofalus ac ymwybyddiaeth o awduraeth, lliw, ac ymgysylltu â phrosesau technegol gosod, mae gwaith Richard ar gyfer If .... yn cynnwys delwedd a fideo gan gyfeirio’n bwriadol at bensaernïaeth y gofod arddangos.

Mae ei waith a’i ymarfer yn awgrymu bod angen ailbrisio credoau sy'n ymddangos yn sefydlog, ac eto mae’n llwyddo i osgoi cymhlethdodau sydd fel arfer yn cyd-fynd â myfyrio sylfaenol o’r fath. Yng nghyd-destun sefyllfa lle mae ein byd cymdeithasol-wleidyddol cyfoes bron â chwympo, mae gwaith Richard hefyd yn hybu’n dawel arbedion o ran maint, cyfryngau, ail-ddefnyddio, tryloywder, a grym a harddwch hanfodion sylfaenol.

This show was selected by
  • Michael Cousin
    • Bu’r artistiaid canlynol yn rhan o arddangosfa:
    • Richard Cook

    Programme