20 Mai - 17 Mehefin 2006

Richard Robinson & Robert Bermingham
Mewn arena ddamcaniaethol, mae’r arth a'i phawen mewn trap yn gwrthdaro â’r tarw ffyrnig. Mae’r tarw yn ymosod, ei gyrn yn isel ac yn pwyntio tuag i fyny, mae’r arth yn ochr gamu ac yn anelu ergyd tuag i lawr gyda’i grafangau, i sŵn gorfoleddus y dorf.
Defnyddir y term Saesneg ‘Bull or Bear’ yn aml i ddisgrifio’r farchnad stoc wrth iddi gynyddu neu ddisgyn, gan gyfateb i ddull ymosod yr anifeiliaid. Gellir dweud bod gan fuddsoddwyr deimladau sy’n ymdebygu i eirth neu deirw, a gwelir tueddiadau yn y farchnad pan fod teirw (prynwyr) yn fwy niferus nag eirth (gwerthwyr), neu i’r gwrthwyneb.
Ni allai’r cydweithwyr
Richard Robinson a Robert Bermingham fod ymhellach wrth y farchnad stoc, ac eto mae’r ymadrodd ‘Bull and Bear’ yn crynhoi eu dull o weithio. Ceir deialog naturiol heb ei golygu dau artist sy’n tarddu o ddau safbwynt gwahanol. Rydym yn clustfeinio ar eu penderfyniadau, eu cynlluniau a’u cweryla. Mae gwaith Robinson a Bermingham yn dangos sgiliau technegol o safon uchel a chariad tuag at grefft a gwaith.
Ar y llawr gwaelod, mae eitemau hamdden yr artistiaid wedi troi yn wynebau byrddau go iawn. Mae pentwr hynod daclus o lawlyfrau ceir Haynes yn ein hwynebu. Ar y raddfa hon mae’r diagramau ffrwydrol o doriadau lluniau ceir yn ymddangos yn organig a rhwydd. Mae’r darn yn dwyn y teitl You, Me, Everybody ac mae’n tynnu ar yr addewid o gyflwyno'r dyfodol sydd bellach yn pydru yng ngheir ddoe.
Ar y llawr cyntaf mae
Chair in Motion: 1-63 yn amgylchynu’r gwyliwr. Gweithred o drais neu ymyrraeth mewn 63 o ddarluniadau. Mae’r delweddau fesul ffrâm yn lleihau emosiwn cadair sefydliadol a daflwyd ar draws yr ystafell mewn un llinell o sŵn llwyd. Mae’r gwrthrych yn gyforiog o ing a gwrthryfel glaslanciau, ond mae’r dull gweithredu’n ddideimlad. Mae e fel petai’r digwyddiad yn cael ei wylio ag ôl-ddoethineb, ond heb fwy o ddealltwriaeth na’r tro cyntaf.
Yn olaf, rydym yn wynebu cyfres o bum panel a wnaed o bwyth croes sy’n cyfeirio at gemau arcêd ers dyddiau ieuenctid yr artist. Mae The Future Will Be Little Different From The Past yn portreadu gêm o ddinistr ar waith, brwydr ddeuol sy’n bodoli ar y sgrîn ac oddi ar y sgrin, rhwng arwyr a dihirod wedi’u picseleiddio. Mae'r gêm wedi cael ei thynnu o'i gwreiddiau milwrol a’i thrawsnewid i sampler llafurus. Mae'r byd sydyn, sy’n ymladdfa enbyd, bellach yn waith llafurus o greu pwythau gyda nodwydd.
Ceir anniddigrwydd mwy meddylgar yn y gwrthrych plentynnaidd a byrbwyll, neu Robinson a Bermingham. O fewn y byd hwn o lawlyfrau ceir ac ing glaslanciau, lle mae’r llanc yn troi’n ddyn, ceir mynegiant o anesmwythyd. Os oes unrhyw ddicter yma, caiff ei amsugno gan eu gwaith. Os yw’r artistiaid wedi’i ddifreinio yna mae'n cael ei fynegi a’i lethu drwy weithredoedd sydêt, ailadroddus a ystyriwyd yn ofalus. Nid dinistr yw eu proses o greu gwaith ond dyma maent yn ei fynegi. Cawn ein gadael â’r ymdeimlad nad yw popeth yn iawn o bosibl, fod y llwybr y bachgen wrth dyfu’n ddyn ar adlam, gan eu gadael rywle rhwng y ddau.
Yn olaf, yn y seler ceir gofod lle mae’r artistiaid wedi dewis dangos rhai ffynonellau o’u gwaith. Mae’r ddau fwyaf cartrefol yn y bar ‘preifat’ hwn, sy’n cael ei redeg gan y staff ar gyfer rhagarddangosiad ‘Bull and Bear’. Cyn i ni adael, ceir un awgrym terfynol o gymeriadau’r cydweithwyr. Mae yna ddwy got yn hongian ar y wal, un got wlanog dywyll gyda’r epaulet ar agor, a’r llall yn got ddwffwl frown, fwy blewog. Maent yn ddiniwed i ddechrau, ond yn canu cloch i’r gwyliwr, daw’r ddau epaulet yn gyrn, a’r toglau brown yn grafangau.
Efallai mai’r ‘Arth a’r Tarw’ ydynt, ond ymddengys nad yn erbyn ei gilydd maent yn brwydro.