The Ballad of Barrie J

8 Ebrill - 6 Mai 2006

Mae’n bosibl dweud mai un o’r artistiaid mwyaf modern sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru heddiw a fydd yn helpu i lansio tymor newydd o arddangosfeydd unigol g39. Trwy ei sgribladau, cartwnau, arsylwadau a’i sylwadau doniol niferus, mae Barrie J Davies yn datgymalu ein dealltwriaeth o’r term ‘artist’, ac yn ei le, mae wedi ailffurfio persona y mae’r mantra ‘artist yw Barrie J Davies’ yn cael ei chwarae drosodd a throsodd yng nghefndir ei fyd.


Mae’r arddangosfa yn ein cyflwyno gyda thoreth o waith sy’n ymddangos ei fod wedi cael ei orffen ar frys. Cartwnau wedi’u llunio gyda beiro, arwyddion enfawr pinnau ffelt wedi’u tapio’n fanteisgar mewn mannau cyhoeddus, gwrthrychau bob dydd mewn dull doniol. Mae arfer Davies yn ymwneud â nifer o strategaethau ar gyfer cyfleu meddyliau ymddangosiadol ddi-drefn, neu ffraethineb ffwrdd â hi, ac efallai mai dyna’r oll ydynt. Neu efallai, gyda’i gilydd, eu bod yn dweud rhywbeth mwy
a rhywbeth sy’n fwy cymhleth am werth celf a natur bod yn artist. Mae gwaith Davies yn cyfleu gwerthoedd cynhyrchu isel bwriadol. Mae’n awgrymu dyfnder cyn syrthio nôl i un jôc anobeithiol ar
ôl y llall. Ond ar gyfer yr arddangosfa hon, mae ambell ddarn yn torri drwy’r sŵn i awgrymu’n dawel bod artist mwy bregus ar waith, rhywun sy’n hapus ond eto’n teimlo’n chwithig yn gyhoeddus.

Wrth fynd i mewn i’r oriel, mae’r faled yn dechrau’n fach gyda negeseuon a adawyd, toriadau o gylchgronau a brawddegau sy’n gwneud lluniau. Mae’n ymddangos bod y casgliad hwn o’i waith yn awgrymu stori fwy o gasgliad o eitemau, ffotograffau a dyluniadau cydgysylltiedig, mae’r un mwyaf oll yn llywyddu dros y lle fel delwedd ar hysbysfwrdd, ond awgrym yn unig a geir.

Ar y llawr canol, mae popeth dipyn yn fwy, i’r glust a’r llygad, wrth i’r faled barhau. Mae llawer mwy i’w amgyffred, gwaith wedi’i bentyrru, ei ludo, ei hongian a’i binio yn ei le. Bron y gellir dweud ei fod yn ffurf weledol ar gleber annioddefol o leisiau a jôcs, arsylwadau a doetheiriau yn adlewyrchu’r ffordd mae Davies yn gweithio, llif cyson a chyffrous o syniadau, pob peth newydd yn disodli neu’nychwanegu at y diwethaf. Gellir eu goddef yn unigol, ond fan hyn maent yn llethol. Fel ar y llawr gwaelod, mae modd dianc, drwy edrych i fyny tuag at orwel lled wag ar yr hysbysfwrdd.

Mae’r llawr uchaf yn rhoi seibiant i ni. Mae’r gwaith fan hyn yn dechrau datgelu BJD sy’n ymgolli yn y sŵn, ceir cyffesiadau, llinellau, rhaid i mi beidio â chreu mwy o gelf ddiwerth, a chyffesiant o hunan amheuaeth. Mae’n ymwybodol ei fod yn cyfeirio at waith sydd eisoes yn bodoli gan artistiaid
adnabyddus fel Ceal Floyer, Gavin Turk, Bob a Roberta Smith, David Shrigley a Martin Creed, yn ogystal â’r byd o’i amgylch. Ar y cyfan, ymddengys fod arfer Davies yn awgrymu bod rôl yr artist yn y
gymdeithas yn un unig, yn un dieithr, ac nad yw ei bwrpas byth wedi’i drefnu ymlaen llaw. Ond wrth iddo asesu ei sefyllfa mewn perthynas â’r byd o’i amgylch, mae’n parhau i greu gwaith.

Programme