11 Chwefror - 18 Mawrth 2006

Stefhan Caddick
“Ydych chi'n barod?” aeth y neges allan. Y neges gyntaf i groesi'r dŵr, y gyfathrebiaeth gyntaf dros y weiarles.
Mae wedi'i gofnodi i Marconi wneud y trosglwyddiad diwifr cyntaf ger Caerdydd. Dechreuodd Gugliemo Marconi a George S Kemp, ei gynorthwyydd a aned yng Nghaerdydd, gynnal treialon ar 10 Mai 1887, rhwng Larnog ac Ynys Echni. Llwyddwyd ar y 13eg. Llwyddwyd i gysylltu ac roedd oes y telathrebu diwifr wedi dechrau.
‘Fel tasg anobeithiol, mae'r dychymyg yn rhoi'r gorau i'r ymgais i amgyffred yr hyn - wrth ddefnyddio tonnau trydanol - sydd gan y dyfodol agos ar ein cyfer. Mae'r aer yn llawn addewidion, llawn gwyrthiau. Y sicrwydd yw bod pethau rhyfedd ar ddod, a hynny'n fuan.'
Roeddent wedi llwyddo i drosglwyddo neges trwy'r aer dros bellter o 3.5 milltir. Derbynnir yn gyffredinol mai cwestiwn rhagweledol Marconi “Ydych chi'n barod?” a agorodd donnau’r awyr a chyhoeddi dechrau oes newydd. Ond, fe ddichon, mai chwedl yw hon. Mae ymchwil yn dangos dialog eithaf gwahanol a difflach. Y trosglwyddiad cyntaf oedd cyfres o'r llythyren 'V' gan Kemp i greu'r cysylltiad. Mewn gwirionedd trosglwyddiad hollbwysig Marconi oedd “Bydded felly, bydded iddo fod felly …”, ac ateb Kemp iddo oedd “Mae'n oer yma ac mae'r gwynt yn chwythu.” Aeth y sgwrs rhagddo: “Mae'r te yma'n dda”, “Sut wyt ti?” a “Go to hull!” - gan ddangos nad yw gwelliannau mewn cyfathrebu bod tro'n cyd-daro â gwelliannau mewn huodledd.
Mae'r dulliau rydym yn eu defnyddio i anfon a derbyn negeseuon yn dylanwadu ar yr iaith rydym yn ei defnyddio, o arferion ystyriedig ysgrifennu llythyrau a chynildeb gorfodedig telegram neu gerdyn post, i anghofrwydd neu ddifaterwch defnyddiwr ffôn symudol yn rhoi adroddiad rhagosodedig o'i leoliad. Nid yw'r neges e-bost dafladwy'n gadael fawr o amser ar gyfer myfyrio ar yr hyn a ysgrifennwyd cyn iddi gael ei hanfon. Mae negeseuon testun yn enghraifft arall: mae'r bys bawd yn gweithio ar yr allweddau, yn cwmpasu llythrennau, rhifau ac atalnodau i greu iaith gymysg a anfonir o fewn eiliadau.
Mae negeseuon testun wedi dangos pa mor gyflym y gall iaith newydd ddatblygu. Fersiwn cyflym ac esblygol o law-fer, mae ei eirfa bresennol yn fwy llithrig na sgwigls Pitman. Mae'r DU wedi cofleidio negeseuon testun yn gyflym. Mae'n un o'r cynhyrchion i'r defnyddiwr sy'n tyfu gyflymaf, rhywbeth sy'n fwy hynod gan nad dyna oedd y bwriad: darganfu defnyddwyr ffonau symudol gyfleuster arall ar eu ffonau a oedd ar gadw i ganiatáu i beirianwyr gyfathrebu â'i gilydd. Mae'r gweddill yn hen hanes. Wedi'i drosglwyddo a'i dderbyn, mae'n bosibl nodi'n fanwl ein lleoliad ar y ddaear wrth inni symud o gwmpas, heb yn wybod inni rydym yn cario dyfais olrhain sy'n chwilio'n dawel ac yn dod o hyd i signal o'n pocedi.
Mae >Over yn archwilio'r diriogaeth hon. Mae'n rhaid i'r artistiaid naill ai ymgysylltu â dulliau cyfathrebu er mwyn cynhyrchu'r gwaith, neu maent yn archwilio effaith, iaith ac arwyddocâd y dulliau hynny.
Mae
Stefhan Caddick yn archwilio'r ffenomen o anfon negeseuon testun. Mae wedi codi arwydd LED sy'n wynebu allan i un o'r strydoedd mwyaf prysur yng nghanol y ddinas. Mae'r arwydd yn arddangos unrhyw neges destun a anfonir at ei dderbynnydd. Mae'n rhoi cyfle inni gyfarch y ddinas. Gan gael y cyfle hwn i siarad â thorf mae potensial i siarad am bethau mawr. Ond na, wrth wynebu'r cyfle hwn mae'r rhan fwyaf ohonom yn mynd yn fud neu'n tecstio'r rwtsh cyntaf sy'n dod i'n meddwl. Pwrpas y prosiect hwn yw annog aelodau o'r cyhoedd i ganfod defnydd newydd i'r arwyddion hyn, sydd fel arfer yn cario gwybodaeth bwysig bob dydd am draffig a diogelwch y ffyrdd. Yn hytrach na hynny bydd yr Arwydd Neges Amrywiol yn cario negeseuon testun, sydd, yn eu hanfod, yn aml yn bersonol iawn.
Mae'r prosiect wedi cynnwys
Chris Evans yn datblygu rhaglen bwrpasol (<
http://www.coolpants.co.uk>). Mae Chris wedi mabwysiadu meddalwedd ffynhonnell agored o Gnokii (<
http://www.gnokii.org>) i greu rhaglen, sy'n dehongli'r wybodaeth a dderbyniwyd gan y cyhoedd, ac yn ei hanfon wedyn i gael ei chyflwyno ar yr arwydd neges amrywiol symudol. Cafodd ei dangos gan BLOC a Chapter, a oedd yn hael eu nawdd ar gyfer ei ddatblygu, am y tro cyntaf fel rhan o ŵyl dechnoleg ddigidol a drefnwyd ‘May You Live In Interesting Times’.
Mae dau ddarn sŵn Lizzie Hughes yn ehangu ac yn cwmpasu amser a gofod drwy ddefnyddio ymholiad ffôn syml. Yn narn y Second Empire State Building, mae hi'n ffonio pob un o wyth llawr yr adeilad, gan ofyn i bob cwmni yn eu tro ar ba lawr y maent. Mae eu hymateb yn creu darlun o'r adeilad, ond nid un y byddwn yn ei adnabod nac yn ei ddisgwyl. Yn yr un modd, mewn ail ddarn, mae Hughes yn ffonio gwahanol leoliadau o gwmpas y byd i ofyn yr amser lleol, sy'n amrywio o alwad i alwad. Mae hi'n ffonio'r un ardaloedd eto dros gyfnod o 24 awr. Y tro hwn mae pob derbynnydd yn dweud yr union un amser. Mae'r gwaith yn tynnu sylw at faint daearyddol ac amserol y byd, ei symudiad dyddiol a'n lle ynddo.
Ar y llawr uchaf mae gwaith
Jennie Savage Note To Self yn ein gorfodi i feddwl am yr hyn sy'n ddigon pwysig yn ein barn ni i drosglwyddo i ni eu hunain yn y dyfodol. Cawn wahoddiad i ysgrifennu log personol a fydd yn mynd yn arwyddocaol yn archifol oherwydd na fydd yn cael ei anfon tan 2011. Drwy ddychwelyd i ysgrifennu llythyrau, sef dull o gyfathrebu sy'n ein taro fel rhywbeth hynafol, mae Note To Self yn rhoi llais syml ond parhaol i'n bywyd bob dydd ni, a fyddai fel arfer yn mynd heb gofnod. Mae'r manylion bach hyn yn mynd ar goll yn y sgwrs rhwng diwylliant torfol a diddordeb lleol lle y gwelir ‘realiti’, yn fwyfwy, fel teledu.
Mae pethau dibwys yn ein taro fel pethau llawer llai dibwys pan gânt eu sgriptio, eu trawsgrifio. Gwahoddir yr ymwelwyr i daflunio eu hunain fel y maent ar hyn o bryd arnynt fel y byddant yn y dyfodol ac wedyn ymhen pum mlynedd wrth dderbyn eu llythyr byddant wedi ailymweld â nhw eu hunain o'r flwyddyn 2006. Mae realiti a gwirionedd yn bryderon sylfaenol sydd wrth wraidd arfer Savage ac mae hi o hyd yn cwestiynu'r mecanweithiau sydd ar waith ar gyfer cofnodi'r ‘gwir’. Mae hi'n gweld ei rôl fel anogwr, ymchwilydd, casglwr, cyfryngwr a threfnydd, yn ymyrryd o fewn system benodol i ddod ag elfennau gwahanol at ei gilydd cyn eu gosod neu eu gollwng yn ôl i'r parth cyhoeddus. Drwy gydol y broses mewn gweithio gyda rhwydweithiau penodol er mwyn mynegi set o bryderon.
Os bydd Jennie Savage yn agor dolen gyfathrebu drwy ehangu'r bwlch rhwng anfon a derbyn, mae Paul Cabuts yn ei bwtgylchedu. O'r llawer daear mae delweddau o drosglwyddyddion ar draws De Cymru'n cael eu hanfon at fonitoriaid yn yr oriel. Mae'r mastiau hyn yn galluogi telethrebu ar draws Cymru a'r DU, drwy anfon a derbyn ffrwd barhaus o wybodaeth. Maent yn cynnal cyfathrebu rhwng cymunedau ond hefyd yn cyflwyno'r byd eang i'r lleol. Mae'n cydnabod bod telethrebu a darlledu'n chwarae rôl allweddol mewn globaleiddio, ond gyda naws lleol y ffotograffau hyn mae'n tynnu sylw at bwyntiau eraill o wahaniaethau diwylliannol yn y strwythurau hyn.
Ymddengys fod y tyrrau'n rhy fawr ym myd maint bythynnod, mynyddoedd a choed. Wrth gynhyrchu'r gwaith hwn mae'n cofio symbolaeth gref y strwythurau hyn yn ystod y frwydr dros ddarlledu Cymraeg a ysgogodd ymgyrch anufudd-dod sifil. Torrwyd ar draws darllediadau o raglenni, dringodd protestwyr fastiau teledu a gwrthodwyd talu ffioedd trwydded er mwyn ceisio peri newid. Mae'r gyfres ffotograffig Transmissions yn egluro natur ddidactig y strwythurau hyn a all fod fel goleufâu neu wylwyr addfwyn, yn taflunio signalau er mwyn cynhyrchu goleuadau arweiniol sy’n fflachio. Maen nhw'n sefydlog ac eto'n fyrhoedlog, yn bwyntiau wedi'u hangori yn llanw a thrai hwylustod diwylliannol a chyfnewid gwybodaeth.