Bystanding

21 Awst - 25 Medi 2010

Lauren Elizabeth Jury, Will Woon, Mark Folds

Lauren Elizabeth Jury from <i>George Cole</i> 2007
Lauren Elizabeth Jury from George Cole 2007

G39 brings together new works by three artists who use common elements of observation, speculation and the re-enactment of events within a gallery context. For Bystanding, Lauren Elizabeth Jury, Will Woon and Mark Folds use different strategies to mediate and re-present us with a mixture of tragicomedy, empathy and hope.

Mae G39 yn dod â gweithiau newydd at ei gilydd gan dri artist sy'n defnyddio elfennau cyffredin o ran arsylwi, dyfalu ac ail-greu digwyddiadau o fewn cyd-destun oriel. Ar gyfer Bystanding, mae Lauren Elizabeth Jury, Will Woon a Mark Folds yn defnyddio gwahanol strategaethau i gyfryngu ac ail-gyflwyno cymysgedd o drasiedi-gomedi, empathi a gobaith.


Mae 'Bystander' yn aml yn cyfeirio at dystion goddefol neu bobl ddiniwed sy'n cael eu tynnu i mewn i ddigwyddiadau. Mae ffenomenon yn bodoli a elwir yn effaith gwylwyr (‘bystander effect’) sy’n awgrymu po fwyaf o bobl sy’n dyst i ddigwyddiad, y lleiaf tebygol y maent o ymateb. Hynny yw, y bydd pob unigolyn yn cymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn ymateb, neu byddant yn tybio nad oes angen ymateb os nad oes unrhyw un arall yn gweithredu. Ar gyfer y sioe yma, mae’r gair yn newid o enw i ferf, a'r weithred o arsylwi ac ymateb yw’r ffocws.

Mae Mark Folds yn canolbwyntio ar y ffordd y mae pobl eraill yn dinistrio neu’n esgeuluso eiddo cyhoeddus ac mae wedi datblygu ymgyrch i’w trwsio neu eu trawsnewid - weithiau gall gweithredoedd bach gael effaith fawr. Dechreuodd ei brosiect I Love Peckham, flynyddoedd yn ôl ac mae’n parhau hyd heddiw. Mae darn o bren trwchus gyda cherfiadau rhyfedd aur yn hongian ar y wal. Mae'n rhan o fainc parc: gwnaeth Folds ei symud o’r parc, naddu unrhyw graffiti â gaing a’i addurno gydag aur i sicrhau bod y marciau pen dros dro yn edrych yn debyg i gofeb barhaol. Yna, cafodd y fainc ei rhoi yn ôl yn y parc am sawl blwyddyn cyn i’r broses gael ei hailadrodd ar unrhyw graffiti newydd. Ar gyfer darn newydd mae Mark wedi llunio carped i siâp barcud coch, aderyn ysglyfaethus sy’n gynhenid i Gymru. Cafodd ei osod ar y briffordd y tu allan i'r oriel un prynhawn dydd Sadwrn i godi ofn ar y gwylanod môr, gan greu ardal bicnic neu ardal eistedd ddiogel sy’n rhydd o’r adar hyn sy’n gallu bod yn boen. Fel gyda I Love Peckham, ei ffocws yw gwella'r amgylchedd, y dyn bach yn ennill y frwydr drwy newid ei fyd.

Mae Lauren Elizabeth Jury wedi cynhyrchu astudiaeth ffotograffig o George Cole o Dreherbert, a oedd yn gweithio ar Ffordd Rhigos tan 1992. George oedd yn gyfrifol am yr addurniadau blodeuog ar ochr y ffordd y tu allan i gwt gweithiwr y 'Tŷ Gwyn'. Ei ddyletswyddau oedd cadw'r ffordd yn glir o sbwriel o'r cerrig a oedd yn disgyn oddi wrth ochr y mynydd a byddai’n difyrru ei hun ar adegau tawel drwy greu blodau, melinau gwynt, tai bach ac anifeiliaid o ddeunyddiau amrywiol ar gyfer ei 'ardd addurniadol'. O'i safle - yn arsylwi artist arall yn ail-greu’r byd y mae’n byw ynddo er mwyn ei wella, heb fwriadu i’r gwaith fod yn destun oriel / gwaith celf, mae Lauren yn gwneud newid bwriadol a chreadigol ac yn cyflwyno empathi gyda'r cymeriad hwn yn y dirwedd. Mae ansawdd truenus rhai o'r cerfluniau yn adleisio gwaith Will Woon.

Mae ymarfer Will Woon wedi ei boblogi gan fodelau bach, fel ‘maquettes’ pensaernïol neu gynigion ar gyfer cerfluniau yn y dyfodol. Yn aml mae’r cymeriadau (lle mae’n bosibl eu hadnabod) yn chwilio am gynulleidfa neu’n annerch y gynulleidfa honno, maent yn cynnwys podia, darllenfeydd neu areithiau neu mae’n cyflwyno adeiladau sy'n fregus ac ar fin mynd yn ansefydlog neu gwympo. Mae gwaith Will wedi’i wreiddio mewn traddodiad oriel gyda chyfeiriadau at hynafiaethau cerfluniau clasurol, ond daw'r oriel yn lleoliad a byd estynedig y mae’n llywyddu drosto. Fel testun ffotograffau Lauren neu fel Mark, mae Woon yn adeiladu byd lle mae ei greadigrwydd yn llunio’r ffordd yr ydym yn ei drafod ac rydym yn ei ddeall fel lle y gellid caniatáu i naratifau lluosog gael eu cyflwyno.

  • Will Woon, <i>An Annunciation</i>, 2010
  • Lauren Elizabeth Jury, detail of <i>George Cole</i>, 2007
  • Mark Folds, <i>Untitled</i>
  • Lauren Elizabeth Jury from <i>George Cole</i> 2007
  • Will Woon, detail of <i>A Philosopher’s Invitation To Dinner</i>, 2010
  • Mark Folds, from <i>ILovePeckham</i>
  • Mark Folds, <i>Untitled</i>, 2010
  • Lauren Elizabeth Jury, detail of <i>George Cole</i>, 2007
  • Will Woon, <i>A Philosopher’s Invitation To Dinner</i>, 2010

Programme