Beginning, middle & end

12 Mawrth - 23 Ebrill 2005

Mae pob naratif yn symud o’i ddechrau i’r canol ac wedyn i ddiweddiad terfynol. Fel arfer. Mae’r artistiaid yn yr arddangosfa hon yn cynnig naratifau sydd heb eu gorffen, naratifau sydd yn gwneud y gwyliwr yn ansicr am ba ran o’r stori y maen nhw’n gwylio: y dechreuad, y canol neu’r diwedd.

Ar y llawr gwaelod a thrwy’r grisffyrdd, mae casgliadau o wrthrychau ac ystumiau Matthew Richardson yn ymhlygu cydgysylltiadau neu ystyron drwy eu detholiad a’u trefniad neilltuol iawn. Trwy gyfosodiadau’r artist mae arwyddocâd un gwrthrych yn cael ei newid gan y llall: wrth roi’r Cerflun Rhyddid Americanaidd ar bwys blewyn o wallt, caiff ein synnwyr o bersbectif ei chwalu, mae dyddiad mympwyol yn y dyfodol yn troi’n arwyddocaol trwy ein darllediad personol ohoni, neu ein cysylltiad gyda hi. Mae yna arwyddocâd yn y gwrthrychau hapgael y mae’n defnyddio, yn ogystal ag elfen o siawns: cafodd bob gwrthrych ei symud o’i gyd-destun arferol ac yna ei gadw fel petai’n wrthrych celfyddydol mewn gofod oriel cysefin. Mae’r creithiau , crafiadau ac arwyddion o draul a gwisgo yn cael eu cadw fel tystiolaethau i fywydau eraill y gwrthrychau y tu allan i’r sefydliad celfyddydol. Mae Matthew wedi trin yr oriel ei hun yn yr un ffordd, yn cadw wal losgedig sy’n olrhain yr olygfa o dan. Unwaith fydd y sioe wedi dod i ben, bydd y gwaith yn troi’n ôl i’w ddefnydd bob dydd: daw clwyd y wdihw yn ysgubell gyffredin yng nghegin yr artist; bydd y wal pardduog yn troi’n ofod gwyn dienw unwaith eto.

Ar y llawr gyntaf mae cyfres o dablos fideo Karla Williams, Anti-Chambers, yn epilog o gyfres o ddigwyddiadau domestig, cipolwg o rywbeth ddirgel sydd newydd ddigwydd eiliadau’n gynt. Gallwn ond a dyfalu am beth sydd wedi achosi’r golygfeydd unig yma. Efallai bod y golau sy’n siglo a’r gadwyn drws yn dynodi ymadawiad rhywun; a chafodd y gadair olwyn ei dipio’n ddamweiniol neu ar bwrpas? Caiff pob golygfa ei lleoli yng nghyntedd gwahanol, gofod sydd, i Williams, yn talfyrru gwagle rhwng y cyhoeddus a’r preifat, a ffaith - ffuglen. Gallwn wylio’r golygfeydd wrth iddynt chwarae o’n blaen ni ond byddwn ni byth yn gweld y prif gymeriadau neu ddod i ddeall beth sydd wedi digwydd yn gynt.

Yn Certain Private Conversations, mae Jenna Collins yn haniaethu’r naratif ymhellach. Mae’r darn yn cyflwyno darllediad o gyfarwyddiadau llwyfan o’r ddrama ‘Death of A Salesman’, a siaradir gan actor proffesiynol mewn siop bapur newydd ym Manceinion. Mae drama Arthur Miller yn hanes o ddyn sy’n methu cysoni realiti ei fywyd cyffredin yn America’r 1940au hwyr gyda’r breuddwyd ol-ryfel cyfalafol Americanaidd. Fodd bynnag gan gael gwared â’r deialog y daw’r ddrama yn haniaeth anadnabyddadwy. Yr actor yw’r perfformiwr mwyaf blaenllaw i ddechrau, ond cyn bo hir mae’n cael ei wthio i’r cefndir gan y testun talfyredig, y peirianwaith swnllyd a staff y siop. Gan gyflwyno stori dameidiog yn y siop bapur newydd, lleoliad llawn naritifau cynhenid ei hunan, mae Collins yn gadael y gwyliwr yn ddi-hid i greu trydydd naratif o’r digwyddiadau.

Straeon rhannol ydy’r rhain, brawddegau anghyflawn sydd yn ein gofyn i ni i lenwi’r geiriau coll ac yn ein caniatáu ni i feddwl am yr hyn sydd eisoes wedi digwydd neu’r hyn a fydd yn dod nesaf. Yn gyfunol, mae’r gweithiau yn yr arddangosfa yma yn ymyrryd ar ddilyniant y naratif, gan gyflwyno hanner wirioneddau a chelwyddau sy’n ffurfio dechreuadau, canolbwyntiau a diweddgloeon. Ond efallai nid yn y drefn yna.

  • Jenna Collins
  • Karla Williams
  • Matthew Richardson
  • Matthew Richardson

Programme